Corff wedi'i ddarganfod ar draeth Aberafan

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i draeth Aberafan am 09:25 fore Mercher

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i gorff gael ei ganfod ar draeth Aberafan fore Mercher.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r traeth am 09:25 ar 么l i aelod o'r cyhoedd ddarganfod y corff.

Roedd y person wedi marw yn y fan a'r lle, meddai'r heddlu.

Ychwanegodd y llu fod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd.

Nid yw'r corff wedi'i adnabod yn ffurfiol eto, ac mae ymchwiliadau'r heddlu i'r digwyddiad yn parhau.