Straeon ysbryd Rolant Tomos

Mae'r awdur Rolant Tomos wedi dod ar draws nifer o ysbrydion dros y blynyddoedd, meddai, ac mae wedi rhannu'r profiadau rhyfedd gyda Cymru Fyw:

Ffynhonnell y llun, Rolant Thomas

Disgrifiad o'r llun, Rolant y tu allan i'r tÅ· ble welodd ysbryd pan oedd yn 14 oed

Dwi ddim yn siŵr os ydw i’n credu mewn ysbrydion, does dim modd profi eu bod yn bodoli neu beidio.

Wrth ysgrifennu fy nofel Meirw Byw mi fues i’n pendroni am y profiadau rhyfedd y cefais i dros y blynyddoedd.

Does yna’r un ysbryd wedi dweud wrtha’i ‘Helo dwi’n ysbryd’ wrth ganu Parti'r Ysbrydion gan Huw Chiswell wrth hofran uwch fy mhen.

Ond mae yna ambell i beth sydd wedi digwydd na fedra’i esbonio, ac ambell i beth sydd wedi nychryn yn llwyr.

Mae pawb yn hoff o straeon ysbryd, a dyma rai o'r profiadau yr wyf i wedi'u cael dros y blynyddoedd.

Gyrrwr y Goets

Roeddwn i’n golchi llestri un noson pan oeddwn i tua 14 oed. Yn amlwg roedd sgwrio sosbenni yn beth anarferol iawn adeg hynny ond nid hanner gymaint â beth welais i.

Roedden ni’n byw mewn hen dŷ yn Nolgellau, gyferbyn â’r eglwys. Roedd hi’n noson braf, diwedd haf ac roedd Iain, cyfaill oedd wedi dod i aros o Lundain yn sychu platiau ger fy ochr.

Mi wnaeth yna rywbeth i mi droi fy mhen o’r sinc tua’r cyntedd.

Yno safai gŵr – roedd tua 50 oed, ac yn wlyb socian, yn amlwg newydd ddod i fewn drwy ddrws blaen y tŷ.

Roedd yn gwisgo haenau o ddillad tywyll a chôt fawr a rheiny'n diferu glaw ar y llawr.

Yr hyn hoeliodd fy sylw oedd ei lygaid; llygaid glaslwyd trist.

Heb iddo ddeud gair mi oeddwn yn gallu gweld fod y dyn hwn wedi blino yn lân.

Roedd ei lygaid yn erfyn arnaf, doedd o ddim am fynd allan eto.

Mi droais yn ôl at y llestri, cyn troi yn ôl syth bin – ond mi oedd wedi mynd.

Esboniais wrth Iain, ond doedd heb weld dim. Es i allan edrych ond doedd neb i weld a dim smotyn o law i weld.

Welais i mohono bellach yr haf hwnnw er fod Iain yn 'neud ati i sefyll yn y drws a chogio bach ei fod wedi dychwelyd.

Y Gwyddel blin

Chefais i ddim profiad tebyg nes i mi a fy nghariad (erbyn hyn yn wraig) fynd ar wyliau i Ddulyn.

Roeddem yn aros mewn fflat bychan ddim yn bell o Temple Bar yn ôl yn 2004 ac ar ôl pryd bwyd o Aubergine Parmigiano, aethom i gysgu.

Rhyw dro ynghanol y nos ges i fy neffro gan Wyddel blin iawn yn meddwl fod rhywun wedi torri mewn i’r fflat.

'Nes i esbonio ein bod ni wedi dod i aros yno.

Ond parhaodd y gŵr mawr nad oeddwn yn gallu ei weld yn y tywyllwch i arthio arna’i mewn Gwyddeleg.

Roedd o mewn uffern o dymer ac roeddwn yn disgwyl i’r dyrnau daro. Esboniais yn Saesneg nad oeddwn yn ei ddeall, ac mi aeth yn fwy blin fyth.

Dwi’n cofio codi ar fy eistedd ac esbonio yn Gymraeg ein bod ni’n ymwelwyr ac mi ddistawodd.

Mi ddechreuodd wylo yn ddistaw a chilio i’r tywyllwch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd y dyn yn gweiddi mewn iaith nad oedd modd i Rolant ei deall

Yr hen fenyw

Dro arall roeddwn yn aros mewn llety bach del oedd wedi cael gwaith adnewyddu wedi'i wneud ym Mhontneddfechan.

Yn y bore bach mi gefais fy neffro gan hen wraig yn eistedd arna' i, yn flin iawn mod i yn ei hystafell.

Roeddwn yn ceisio ei symud, yn ceisio codi ond roedd rhyw rym yn fy atal rhag codi fy mreichiau na symud dim.

Gyda gwaedd groch fe hedfanodd y wraig cwpl o lathenni uwch fy mhen, cyn diflannu drwy’r nenfwd.

Y crydd

Digwyddodd y diwethaf a’r un mwyaf brawychus yn un o blastai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngwlad yr Haf.

Roeddem wedi mynd i aros yno fel teulu i ddathlu pen-blwydd.

Wedi i’r cyhoedd adael am y noson roedd cyfle i grwydro’r gerddi a chogio bach ein bod yn Downton Abbey cyn mynd i’n gwlâu.

Roeddwn i'n cysgu mewn stafell wely â hen le tân gyferbyn â’r drws.

Ynghanol y noson gyntaf cefais fy neffro gan deimlad annifyr iawn, teimlad dyfodd yn ofn pur.

Yn y lle tân roedd bachgen ifanc tua 14 oed yn crefu am help.

Roedd wrthi yn cael ei guro yn ddidrugaredd gan ŵr gwallt melyn yn ei ugeiniau.

Rhwng y dyrnu a’r cicio esboniodd y bachgen eiddil ei fod yn brentis crydd ac nad oedd yn gwybod beth oedd o wedi'i wneud o’i le.

Parhaodd y curo a doedd dim modd ei atal. Drosodd a throsodd yn ddiflino aeth y cosbi yn ei flaen.

Mi godais o fy ngwely, ond doedd neb yno, dim ond awel oeraidd a theimlad o atgasedd pur.

Roeddwn wedi fy siglo yn y bore wedyn, ac yn teimlo fel fy mod i wedi bod yn dyst i’r bachgen yn cael ei guro i farwolaeth.

Er mod i wedi dychryn, rhoddais i’r ddrama heibio a dewis aros noson arall yno, yn hytrach na’r soffa roeddwn wedi ystyried.

Digwyddodd yr un peth eto, yr un hanes, yr un colbio â’r un canlyniad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe welodd Rolant ysbryd y crudd ifanc yn un o adeiladau sydd nawr dan orychwyliaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngwlad yr Haf

Credu neu beidio?

Dydw i chwaith ddim yn mynd allan i chwilio amdanynt, nac yn cynhyrfu’n hun i bwynt lle gallwn dwyllo fy hunan fod rhywbeth yno.

Ond dwi’n gwybod beth welais ac yn gwybod beth wnes i deimlo, ac yn gwybod fod yna bethau nad ydw i’n medru eu hesbonio.

Mae yna rywbeth yno; efallai eu bod nhw efo chi yn darllen hwn dros eich ysgwydd.