Stereophonics i berfformio yng Nghymru yn 2025

Ffynhonnell y llun, Stereophonics

Mae'r band byd-enwog Stereophonics wedi cyhoeddi eu taith fwyaf erioed ar gyfer Haf 2025.

Dyma daith gyntaf y band o Gwmaman ers tair blynedd.

Bydd y band yn perfformio yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar Orffennaf 12, 2025.

Dywedodd prif ganwr y band, Kelly Jones fod "bod n么l ar y l么n gyda fy ffrindiau gorau, yn chwarae'r clasuron i bobl mewn llefydd y tu allan yn ystod Haf 2025 yn fy ngwneud yn hynod gyffrous".

Bydd y band yn ymweld 芒 rhai o leoliadau mwyaf y DU ac Iwerddon yn ystod y daith gan gynnwys St. Anne's Parl yn Nulyn, Cork Virgin Media Park a Finsbury Park yn Llundain.

Bydd tocynnau ar gyfer y daith ar werth ar Hydref 11 am 09:00.