成人快手

Dros 500 o ymatebion i arolwg toiledau Machynlleth

Toiledau machynlleth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Cynghorydd Kim Bryan fod llawer o waith adnewyddu ar y toiledau

  • Cyhoeddwyd

Mae arolwg yngl欧n 芒 cheisio ailagor toiledau cyhoeddus Machynlleth wedi derbyn dros 500 o ymatebion o fewn ychydig ddyddiau o gael ei gyhoeddi.

Fe gafodd y toiledau cyhoeddus eu cau fis Ionawr 2023 yn sgil y gost uchel o'u cynnal a'u cadw, a'r ffaith eu bod yn cael eu fandaleiddio yn gyson.

Ond mae rhai o fusnesau'r dref yn poeni a gallai'r diffyg cyfleusterau arwain at lai o ymwelwyr.

Erbyn hyn mae Cyngor Tref Machynlleth wedi sefydlu gr诺p gweithredu sy'n gobeithio derbyn cyllid er mwyn ailagor y toiledau yn fuan.

Er mai Cyngor Powys sy'n berchen ar adeilad y toiledau, maen nhw wedi deud wrth y gr诺p y bydden nhw'n trosglwyddo perchnogaeth yr adeilad i'r cyngor tref.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynghorydd Kim Bryan yn "gobeithio'n fawr allwn ni gael cyllid, cychwyn y gwaith a gweld y toiledau yn cael eu hailagor".

Dywedodd y Cynghorydd Kim Bryan o Gyngor Tref Machynlleth fod cau'r toiledau cyhoeddus wedi bod yn "broblem barhaus i fusnesau, ymwelwyr a phobl leol".

Mae'r Cynghorydd Bryan yn aelod blaenllaw o'r gr诺p sy'n ceisio am gyllid i ail agor y toiledau.

Dywedodd fod y gr诺p yn "gweithio'n galed i gael cyllid er mwyn adnewyddu'r toiledau ac i ychwanegu paneli solar er mwyn lleihau cost egni".

Ychwanegodd eu bod wedi gwneud yr arolwg er mwyn casglu barn y gymuned am y sefyllfa.

Pum diwrnod wedi i'r adolygiad gael ei lansio, mae 520 o ymatebion wedi dod i law.

Bydd yr adolygiad yn cau ar 17 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan ei bod yn "gobeithio'n fawr allwn ni gael cyllid, cychwyn y gwaith a gweld y toiledau yn cael eu hailagor".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llinos Griffith yn poeni am yr effaith ar fusnesau lleol

Yn 么l Llinos Griffith, sy'n gynghorydd tref ac yn aelod o'r gr诺p gweithredu, mae'n bosib bod busnesau'r dref ar eu colled oherwydd y diffyg toiledau.

"Ma' lot o bobl yn siarad gyda fi fel cynghorydd am y ffaith bod y toiledau ar gau," meddai.

"Falle bod y dref yn colli pobl busnes achos os yw pobl yn pasio trwy a dim toiledau ar agor, falle bo' nhw'n dewis mynd i rywle arall.

"Dwi wedi clywed hynny gan ambell un, bod pobl ddim yn stopio 'ma, a bo' nhw'n mynd i rywle arall.

"Mae o'n ofid i lot o fusnesau ac i'r dref hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eleanor Hennighan yn poeni fod y diffyg toiledau yn "hel pobl o Mach"

Dywedodd Eleanor Hennighan, perchennog siop sglodion yn y dref, fod y cyngor sir yn "hel pobl o Mach".

"Ma' fe yn broblem fawr... Ma' pobl yn talu 拢2 i barcio car, a dim toiled yno, felly ma' nhw'n rhedeg rownd y gornel i'r siop chips a just yn defnyddio'r toiled heb ofyn na dim byd, ond allwn ni ddim rhoi bai ar y bobl.

"Mae mwy o giw am y toiled na sydd 'na am takeaway weithiau!

"Ma' pobl yn pasio trwy Machynlleth, yn mynd i Aberdyfi, yn mynd i Aberystwyth neu Borth - dim pentref ydyn ni, ancient capital of Wales ma' fe'n dweud ar y ffordd mewn i'r dref, a ry'n ni heb doiled, ma' fe'n drueni."

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Powys nad yw gweithredu ar y toiledau cyhoeddus yn "swyddogaeth statudol" gan y cyngor a'u bod wedi penderfynu "rhai blynyddoedd yn 么l i beidio 芒 gweithredu'r toiledau cyhoeddus er mwyn gwarchod prif swyddogaethau statudol y cyngor".

"Nid oedd hwn yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn", meddai'r cyngor sir, gan ychwanegu ei fod wedi cael ei wneud "o ystyried pwysau ariannol meysydd eraill fel gofal cymdeithasol ac addysg".

Mae'r cyngor sir wedi "darparu gwybodaeth i'w helpu [y cyngor tref] i wneud cais am arian grant posibl ac ymchwilio iddo er mwyn helpu i gynnal y toiledau".

Dywed Cyngor Powys: "Yn anffodus, fe wnaeth Cyngor Tref Machynlleth benderfynu eu bod yn peidio gweithredu'r toiledau mwyach, ac maen nhw wedi bod ynghau ers hynny."

Pynciau cysylltiedig