成人快手

Wyddoch chi... am forlewod Llyn Tegid a鈥檙 Rhyfel Mawr?

molroi bala
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dau o forlewod Joseph Woodward yn cael eu bwydo yng Nglan-llyn yn 1917 - (Drwy garedigrwydd Archifau a'r Casgliadau Arbennig Prifysgol bangor

  • Cyhoeddwyd

Efallai eich bod wedi clywed am anghenfil Llyn Tegid, ond oeddech chi鈥檔 gwybod bod y llyn ger Y Bala wedi bod yn gartref i forlewod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf?

Roedd Glan-llyn, lle mae gwersyll Yr Urdd heddiw, yn lleoliad arbrawf arbennig i geisio hyfforddi morlewod i ysb茂o ar longau tanfor yr Almaenwyr fel rhan o鈥檙 ymdrech ryfel.

Ers dechau鈥檙 rhyfel yn 1914 roedd nifer fawr o longau鈥檙 Llynges wedi cael eu dryllio gan longau tanfor yr Almaenwyr a鈥檙 fyddin yn poeni鈥檔 fawr am fygythiad y llongau-U peryglus ac yn chwilio am atebion.

Tua 1916, daeth y dyn sioeau, 鈥楥apten鈥 Joseph Woodward, ymlaen a chynnig y gallai ddysgu鈥檙 morlewod roedd wedi eu hyfforddi i wneud triciau yn ei sioeau enwog, i ddarganfod llongau-U yn hytrach nac adlonni ar lwyfan.

Ffynhonnell y llun, Chris Woodward
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poster o'r cyfnod, yn hysbysebu sioeau Capten Woodward

Ar 么l arbrofi i ddechrau mewn pyllau nofio yn Glasgow a Westminster, cafodd degau o鈥檌 anifeiliaid eu symud i Lan-llyn ar lannau Llyn Tegid.

Yn 么l yr hanes rhoddodd y tirfeddiannwr Syr Watkin Williams-Wynn, perchennog plasty Glan-llyn ar y pryd, le i gartrefu tua 50 o forlewod ar ei stad a rhoi defnydd o鈥檌 gychod i鈥檙 t卯m hyfforddi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyn Tegid ym Meirionnydd

Y syniad oedd eu hyfforddi i glywed a dilyn s诺n tebyg i long danfor gan anfon signal yn 么l i ddangos y lleoliad. Roedden nhw鈥檔 cael eu gwobrwyo gyda thunelli o bysgod.

Yn 么l archifau Prifysgol Bangor: 鈥淵n anffodus nid oedd yn dasg hawdd eu rheoli - er mwyn cadw llygad ar y morloi roedd yn rhaid eu paentio mewn lliwiau llachar a bu'n rhaid rhoi llawer iawn o bysgod iddynt i'w gwobrwyo.鈥

Treialon m么r... a methiant

Buon nhw yn y Bala rhwng diwedd Mawrth a dechrau Gorffennaf 1917.

Roedd yr hyfforddi yng Nglan-llyn wedi bod yn ddigon o lwyddiant i鈥檙 Morlys gytuno i fwrw mlaen i wneud treialon yn y m么r gyda llong danfor go iawn.

Dewiswyd dau f么r-lew i roi cynnig arni yng nghulfor y Solent ar arfordir de Lloegr gydag un o longau tanfor y Llynges.

Ond yn anffodus, yn y m么r mawr swnllyd oedd yn fwrlwm o bysgod blasus aeth yr holl hyfforddiant drwy鈥檙 ffenestr a threuliodd y morlewod oriau ar goll yn nofio ar 么l heigiau o bysgod.

鈥淒angosodd yr arbrawf mai am fwyd yr oedd eu greddf gryfaf ac nid dilyn llongau tanfor, ac ni wnaeth y cynllun fyth ddwyn ffrwyth,鈥 meddai鈥檙 cofnod yn archif Prifysgol Bangor.

Ffynhonnell y llun, Library of Congress
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poster arall o'r sioe yn dyddio cyn y rhyfel

Cafodd nifer o anifeiliaid eu defnyddio yn y Rhyfel Byd Cyntaf, o鈥檙 ceffylau ar y ffrynt i鈥檙 mulod a鈥檙 eliffantod ddefnyddiwyd i gario a thynnu peiriannau trwm.

Amcangyfrifir bod wyth miliwn o geffylau wedi鈥檜 eu lladd ar ddwy ochr yr ymladd. Cafodd c诺n a cholomennod eu defnyddio hefyd, y naill i synhwyro peryglon a鈥檙 llall i gario negeseuon.

Ond, ni fu raid i forlewod Joseph Woodward fynd i ryfel yn y diwedd ac aethant n么l i jyglo a diddanu, gyda Woodward erbyn hyn yn eu hysbysebu ar ei bosteri fel 鈥The Actual Admiralty U-boat Hunting Sea-Lions".

Triniaeth anfoesol o anifeiliaid?

Ond, er methiant y prosiect arbennig hwn, efallai nad oedd syniad Joseph Woodward, ymhell ohoni, er y byddai鈥檔 cael ei ystyried yn anfoesol heddiw o ran hawliau anifeiliaid; mae鈥檙 Unol Daleithiau wedi defnyddio morlewod a dolffiniaid mewn gweithgaredd milwrol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd fel rhan o鈥檜 rhaglen mamaliaid m么r dadleuol.

Mae adroddiadau fod hynny鈥檔 digwydd gyda morfilod yn Rwsia hefyd.

A phwy a 诺yr, tybed a ydi hi鈥檔 bosib mai un o ddisgynyddion coll morlewod Joseph Woodward allai fod wrth wraidd yr adroddiadau am weld 鈥榓nghenfil鈥 yn llyn Tegid yn yr 1970au?

Pynciau cysylltiedig