成人快手

'Hanfodol nad yw Maes Awyr Caerdydd yn dibynnu ar deithwyr yn unig'

cargoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr hediadau gan European Cargo yw鈥檙 gwasanaeth nwyddau rheolaidd cyntaf ers 2010 ym Maes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檔 "hanfodol bwysig" bod Maes Awyr Caerdydd yn gwneud arian o ffynonellau newydd, a pheidio dibynnu yn unig ar incwm gan deithwyr, yn 么l y prif weithredwr.

Roedd Spencer Birns yn siarad 芒 成人快手 Cymru ar 么l lansio gwasanaeth cargo newydd rhwng de Cymru a China.

Yr hediadau gan European Cargo yw鈥檙 gwasanaeth nwyddau rheolaidd cyntaf ers 2010 ym Maes Awyr Caerdydd.

Dywedodd Mr Birns ei fod yn parhau i geisio cynyddu nifer y teithwyr, a'i fod dal am ailddechrau gwasanaeth Qatar Airways i Doha.

Mae European Cargo yn gwmni Prydeinig sydd eisioes yn hedfan o Bournemouth.

Mae'r cwmni yn hedfan deirgwaith yr wythnos o Gaerdydd a'r nod yw cynyddu i bedair taith yn y dyfodol.

"Mae'n newyddion gwych," meddai Mr Birns. 鈥淢ae鈥檔 rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno ers amser hir, yn ceisio sicrhau gwasanaethau cargo rheolaidd.

"Y tro diwethaf i ni gael hynny oedd 2010, felly mae cael cwmni newydd i gludo nwyddau yn wych."

"Mae鈥檔 wych i Gymru, mae鈥檔 wych i鈥檙 economi, ac mae鈥檔 wych i鈥檙 maes awyr."

Mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd tua hanner y cyfanswm oedd yn defnyddio'r maes awyr cyn y pandemig ac mae鈥檙 t卯m rheoli wedi gorfod canolbwyntio ar ddenu mathau eraill o incwm.

Dywedodd Mr Birns fod hediadau cargo yn "ran fawr o鈥檙 strategaeth arallgyfeirio".

Mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau hyfforddi ar y safle, yn ogystal 芒 chynnal gweithrediadau cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd a maes awyr Sain Tathan gerllaw, sydd hefyd yn cael ei weithredu gan d卯m rheoli Maes Awyr Caerdydd.

Mae gan British Airways hefyd adran cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd, ac mae鈥檙 rheolwyr yn honni bod tua 4,000 o swyddi鈥檔 cael eu "cefnogi" gan weithrediadau鈥檙 maes awyr ar draws y ddau safle.

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi 拢206m ychwanegol o arian cyhoeddus yn y maes awyr dros y deng mlynedd nesaf.

Mae鈥檙 Ceidwadwyr wedi beirniadu鈥檙 buddsoddiad newydd, a gwariant ariannol hir-dymor y llywodraeth ar weithrediadau鈥檙 maes awyr.

Dywedodd Mr Birns nad oedd ef am 鈥済ymryd rhan yn y wleidyddiaeth鈥 ond ei r么l oedd i redeg y busnes 鈥測 gorau ag y gallwn i鈥檙 perchnogion. A鈥檙 perchnogion, yn yr achos hwn, yw Cymru. Llywodraeth Cymru".

Dywedodd nad yw busnesau eraill yn y diwydiant hedfan yn talu sylw i鈥檙 鈥microcosm鈥 gwleidyddol.

鈥淢aen nhw鈥檔 gweld y ffaith ein bod ni鈥檔 eiddo i lywodraeth fel budd,鈥 meddai.

Dywedodd Mr Birns fod 98% o feysydd awyr y byd "yn eiddo i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu" a bod model perchnogaeth Caerdydd yn gyffredin.

鈥淩ydyn ni'n mynd i gyfarfod gyda chwmni hedfan ac maen nhw'n dweud, pwy yw eich cyfranddaliwr? Beth yw'r gefnogaeth? Beth yw鈥檙 strategaeth tymor hir?鈥

Dywedodd Mr Birns fod strategaeth ddeng mlynedd gyda buddsoddiad y llywodraeth yn golygu bod cwmn茂au hedfan yn 鈥渁wyddus i siarad am fuddsoddiad pellach鈥 yng Nghymru.

鈥淢ae鈥檙 byd allanol, rhyngwladol, byd-eang yn [ein gweld] llawer cryfach trwy fod yn y sefyllfa yna,鈥 ychwanegodd Mr Birns.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er bod rhai llwybrau hedfan wedi鈥檜 hychwanegu at fyrddau ymadael Maes Awyr Caerdydd, nid yw pob ymdrech i gynyddu鈥檙 opsiynau i deithwyr wedi gweithio.

Daeth Wizz Air 芒鈥檜 hediadau o Gaerdydd i ben, a daeth yr unig hediad uniongyrchol i Baris i ben ym mis Mawrth 2024.

Mae gobaith o hyd y gallai gwasanaeth Qatar Airways ailddechrau, a oedd yn cysylltu Caerdydd 芒鈥檙 ganolfan ryngwladol yn Doha. Dyw鈥檙 awyrennau ddim wedi hedfan ers dechrau鈥檙 pandemig.

Dywedodd Spencer Birns ei fod yn 鈥渁nnog y cwmni i ailgychwyn y gwasanaethau cyn gynted 芒 phosib".

"Rydyn ni鈥檔 dal i fod mewn trafodaethau masnachol gyda鈥檙 cwmni, a鈥檔 gobaith ni yw y byddan nhw鈥檔 ailgychwyn.鈥

Pynciau cysylltiedig