Yr ysgol yn Singapore sy鈥檔 llawn o athrawon Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Tydi hi ddim yn beth anghyffredin mewn ysgol i glywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, eisteddfod yn uchafbwynt y flwyddyn a chaneuon Cymraeg mewn gwasanaeth bore... ond yn Singapore?
Dyna鈥檙 sefyllfa mewn un ysgol draw ar yr ynys Asiaidd diolch i bennaeth o Gymru sydd wedi recriwtio nifer o鈥檌 gyd-wladwyr.
A gyda鈥檙 athrawon yn mwynhau鈥檙 profiad o gael dosbarthiadau sydd hanner maint rhai gartref a鈥檜 nosweithiau yn rhydd o waith papur, mae鈥檔 bosib fydd mwy yn cael eu temtio i symud draw...
Diflasu ar fywyd dosbarth canol Cymraeg
Edward Jones sydd wedi cychwyn y cyfan, a hynny ar 么l iddo fo a鈥檌 wraig wneud penderfyniad go fawr. Fe werthon nhw eu cartref a mynd i deithio鈥檙 byd gyda鈥檜 dau o blant yn 2016 鈥 ar 么l cael llond bol ar fywyd dosbarth canol Cymraeg.
Roedd o鈥檔 bennaeth ar Ysgol Gymraeg Cwmbr芒n ers 13 o flynyddoedd ac yn gwneud y swydd ers iddo fod yn 30. Er ei fod o'n hoff iawn o'r ysgol, doedd o ddim yn hoffi'r syniad o wneud yr un peth am flynyddoedd lawer eto ac roedd o'n chwilio am newid.
鈥淩oedd rhaid i fi fynd i rywle 鈥 roedd o ychydig o Groundhog Day,鈥 meddai wrth Cymru Fyw.
鈥淩o鈥檔 i鈥檔 gweithio mewn swydd dda ac yn byw mewn t欧 pedwar llofft efo gardd - bywyd dosbarth canol Cymraeg Caerdydd a ro鈥檔 i wedi cael llond bol ar fywyd person dosbarth canol Cymraeg Caerdydd.
鈥淒o鈥檔 i ddim isio鈥檙 t欧 mawr yma, yn torri鈥檙 gwair neu鈥檙 clawdd bob wythnos. Neshi siarad efo fy ngwraig, gafon ni chat un nos Wener a gwneud y penderfyniad, ac wedyn dechrau gwneud cynlluniau yn y dirgel i ddechrau a rhoi鈥檙 t欧 ar y farchnad.鈥
Ar 么l gwerthu鈥檙 t欧, fe ddefnyddion nhw鈥檙 elw i deithio鈥檙 byd ac addysgu鈥檙 plant eu hunain.
Roedden nhw鈥檔 ariannu eu taith drwy edrych ar 么l anifeiliaid anwes a thai pobl oedd yn mynd i ffwrdd.
Dros gyfnod o flwyddyn fe aethon nhw i 15 gwlad - yn cynnwys Canada, Awstralia, Seland Newydd, Thailand, Vietnam, Cambodia a'r UDA - lle'r roedden nhw'n edrych ar 么l ci pit bull o'r enw McBain yn San Diego.
Chile a Singapore
Ond wrth deithio roedd Edward wedi dechrau methu'r gwaith a sylweddolodd mai鈥檙 ffordd ymlaen oedd gwneud yr un swydd ag oedd o wedi ei fwynhau yng Nghymru... ond yn rhywle arall.
Fe gafodd swydd mewn ysgol gynradd enfawr yn Chile am ddwy flynedd, a鈥檌 blant yn gorfod dysgu Sbaeneg yn sydyn iawn er mwyn cyfathrebu a gwneud eu gwaith ysgol.
Yna fe gafodd swydd pennaeth yn Singapore, gan lanio yno ar ddydd Nadolig 2019. Tair wythnos yn ddiweddarach roedd Covid wedi cyrraedd ac roedd yn rhaid ymdopi mewn gwlad newydd gyda chyfyngiadau llym ar fywyd bob dydd a theithio.
Ond bedair blynedd yn ddiweddarach, mae鈥檙 pandemig yn teimlo鈥檔 bell i ffwrdd a鈥檙 pennaeth erbyn hyn wedi setlo a rhoi stamp Cymreig ar yr ysgol.
Athrawon da o Gymru
鈥淒wi wedi bod yn ffodus i benodi nifer o athrawon o Gymru,鈥 meddai. 鈥淩oedd 'na chwech neu saith yma, mae cwpwl wedi mynd adra llynedd am resymau teuluol ond mae gynnon ni dal bump o Gymru - efo tri ohonyn nhw'n sy鈥檔 siarad Cymraeg.
鈥'Dan ni鈥檔 siarad efo鈥檔 gilydd yn Gymraeg yn y 'stafell athrawon, mae鈥檙 plant yn dweud pen-blwydd hapus wrtha i yn Gymraeg ar ddiwrnod fy mhen-blwydd, a wnaeth nhw ganu Calon L芒n ar gyfer eitem i鈥檙 gwasanaeth yn ddiweddar.鈥
Mae鈥檔 ysgol ryngwladol, sy鈥檔 derbyn plant rhwng oed meithrinfa a blwyddyn chwech, ac mae鈥檙 430 disgybl yn dod o 35 gwlad wahanol.
Mae nifer o'r athrawon hefyd o dramor ac felly mae dathlu diwylliannau gwahanol yn dod yn naturiol. Ac un o uchafbwyntiau鈥檙 flwyddyn bob mis Mehefin erbyn hyn ydi eisteddfod ysgol gyda phawb yn cael cyfle i gystadlu 鈥 ac mae hyd yn oed seremoni Cadeirio.
A tydi鈥檙 Gymraeg ddim yn ddiarth i鈥檙 plant gan eu bod nhw wedi hen arfer clywed yr iaith ar ddechrau gwasanaethau'r bore diolch i'r g芒n Sgwennu Stori gan Gildas.
鈥淒wi鈥檔 cyflwyno鈥檙 g芒n i鈥檙 plant ac yn egluro bod o鈥檔 s么n bod pawb yn sgwennu stori o鈥檜 bywyd eu hunain. Mae鈥檔 g芒n sy鈥檔 codi hiraeth arna i hefyd 鈥 ro鈥檔 i鈥檔 arfer ei chware yn ysgol Cwmbr芒n, wedyn mynd 芒 fo i Chile a鈥檌 chwarae i 900 o blant yn yr ysgol, a r诺an yn Singapore.鈥
Ychwanegodd bod yr ysgol yn elwa o gael staff o Gymru wrth i'r plant ddysgu am ddiwylliant gwahanol gan athrawon da:
鈥淒wi鈥檔 hysbysebu yn Gymraeg a Saesneg ar Facebook. Mae rhai o鈥檙 athrawon yma yn tynnu coes bod rhaid dod o Gymru a siarad Cymraeg i ddysgu yma, ond dwi鈥檓 yn derbyn unrhywun 鈥 dwi eisiau鈥檙 athrawon gorau posib.
鈥淥s ydyn nhw鈥檔 siarad Cymraeg dwi鈥檔 gwybod amdanyn nhw o flaen llaw 鈥 yn gwybod eu bod nhw鈥檔 bobl cryf ac yn gallu copeio efo byw mewn gwlad ddiarth ar ben eu hunain, a鈥檜 bod nhw鈥檔 athrawon da, a phroffesiynol, ac wedi cael y gefnogaeth orau yng Nghymru.
鈥淏e' dwi鈥檔 edrych amdano ydi rhywun sydd wedi cael magwraeth efo cefndir capel neu eisteddfod neu addysg Gymraeg, a鈥檙 profiadau mae hynny wedi rhoi iddyn nhw. Maen nhw鈥檔 tueddu i fod yn greadigol, ac wrth gwrs efo profiad o ddwyieithrwydd 鈥 sy鈥檔 bwysig mewn ysgol fel hon.鈥
Ac mae鈥檔 dweud nad y plant yn unig sy鈥檔 elwa ond hefyd yr holl athrawon yn yr ysgol.
鈥淢ae'r athrawon o Gymru yn dod ag ysbryd cadarnhaol i鈥檙 ysgol,鈥 eglurodd. 鈥淢ae鈥檔 bosib bod rhai wedi bod mewn ysgol lle mae 30 o blant mewn dosbarth, rhai mewn sefyllfa anodd a鈥檙 sialensiau sy鈥檔 gallu dod efo hynny, efo lot o waith papur i鈥檞 wneud gyda鈥檙 nosau.
鈥淲edyn maen nhw鈥檔 dod i鈥檙 ysgol yma lle mae 15 o blant mewn dosbarth, i gyd efo ymddygiad gwych, a'r rhieni i gyd yn gefnogol, ac maen nhw'n cael amser digyswllt yn ystod y dydd i wneud y gwaith papur a鈥檙 gwaith paratoi, ac mae鈥檔 braf i鈥檞 weld.
鈥淢aen nhw鈥檔 rhyfeddu a rhai鈥檔 dweud 鈥榙ylwn i wedi dod yma yn gynt鈥.
"Ac mae hynny鈥檔 lledaenu i staff sydd yma ers cyfnod hir, neu heb weithio yn unlle arall ac maen nhw'n sylwi bod pethau鈥檔 dda yma.鈥
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018