Difrod Storm Bert mewn lluniau

Ar draws Cymru fe wnaeth Storm Bert adael ei h么l wrth i lifogydd a thirlithriadau greu niwed i gymunedau.

Unwaith eto, bedair blynedd ers Storm Dennis, roedd Pontypridd yn un o'r llefydd i gael ei daro waethaf wedi i Afon Taf orlifo.

Wrth i nifer gyhuddo'r awdurdodau o rybuddion annigonol a diffyg cynllunio i osgoi llifogydd dinistriol, dyma rai o luniau'r dyddiau diwethaf sy'n dangos maint y difrod.

Disgrifiad o'r llun, Wedi glaw trwm fe wnaeth Afon Taf, sy'n llifo drwy Bontypridd, orlifo ar 24 Tachwedd

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty

Disgrifiad o'r llun, Rhai o drigolion Pontypridd yn gwneud eu gorau i roi'r d诺r yn 么l i'r Afon Taf

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty

Disgrifiad o'r llun, Gweithwyr o'r gwasanaeth t芒n yn pwmpio d诺r o Stryd Sion, Pontypridd

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty

Disgrifiad o'r llun, A'r trigolion yn gwneud eu gorau i arbed eu cartrefi
Disgrifiad o'r llun, Heol y Felin, yng nghanol Pontypridd - stryd gyfarwydd iawn i nifer aeth i'r Eisteddfod Genedlaethol fis Awst, gafodd ei chynnal gerllaw ym Mharc Ynysangharad

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty

Disgrifiad o'r llun, Y Lido ym Mharc Ynysangharad

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty

Disgrifiad o'r llun, Roedd nifer o siopau ar Heol y Felin wedi eu difrodi
Disgrifiad o'r llun, Yn ardal Casnewydd fe wnaeth Afon Ebwy orlifo gan achosi llifogydd ar safle Clwb Rygbi Pont-y-Cymer
Disgrifiad o'r llun, Dyma'r olygfa yng Nghwmtyleri ym Mlaenau Gwent ar ddydd Llun 25 Tachwedd ar 么l i'r glaw achosi tirlithriad o hen domen lo yn yr ardal
Disgrifiad o'r llun, Roedd y tirlithriad yn agos iawn i dai yno
Disgrifiad o'r llun, Y mwd a'r d诺r budur ddaeth i lawr o'r domen lo
Disgrifiad o'r llun, Roedd sawl tirlithriad wedi digwydd ar draws Cymru yn cynnwys yr un yma ym Mhontblyddyn, Sir y Flint
Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd y gwasanaeth t芒n eu galw i'r A4106 - Ffordd Bwlch rhwng Treorci a Nantymoel - oherwydd tirlithriad
Disgrifiad o'r llun, A'r olygfa ar fferm yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog wedi i 10 o bobl gael eu hachub ar 么l i dirlithriad ddinistrio eu cartref

Ffynhonnell y llun, Rod Davies

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr Afon Wnion yn Nolgellau wedi gorlifo i'r ffordd osgoi sy'n mynd o dan bont fawr y dref