Un o 'gewri' mudiad yr Hoelion Wyth, John Y Graig, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae un o sylfaenwyr mudiad yr Hoelion Wyth wedi marw yn 99 oed.
Roedd John Davies, neu 'John y Graig', yn byw yn Aberporth ac yn un o'r pedwar sefydlodd y gymdeithas ym 1973.
Bwriad y gymdeithas, yn 么l eu gwefan, yw bod yn "fudiad Cymraeg, gwledig, werinol i ddynion y werin gyda phwyslais mawr ar hwyl ac ysgafnder a gwerinol".
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd John Jones, Cadeirydd y gymdeithas eu bod nhw'n "ffarwelio 芒鈥檙 hoelen loywaf yn ein Cymdeithas, un yn sicr na welwn mo鈥檌 debyg fyth eto".
Ar wefan y gymdeithas, mae dyfyniad gan y diweddar John Davies yn egluro sut aethon nhw ati i sefydlu'r mudiad.
鈥1973 oedd hi. Roedden ni鈥檔 meddwl fod angen rhywbeth i dynnu鈥檙 dynion at ei gilydd i gael cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.
"Roedd Dic Jones yno rwy鈥檔 cofio. Cynigiodd Gwynfor Harries y gof yr enw Hoelion Wyth 鈥 a dyna鈥檙 gymdeithas ar ei thraed.鈥
Cangen John y Graig yn Aberporth oedd y cyntaf i gael ei sefydlu, ond bellach mae 'na bum cangen arall o'r Hoelion Wyth - Banc S卯on Cwilt, Wes Wes (Ardal T欧 Ddewi), Hen-Dy-Gwyn, Beca (Efailwen) a Chors Caron.
'Yr hoelen loywaf'
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y cadeirydd, John Jones: "Gyda thristwch y cyrhaeddodd y newyddion am farwolaeth un o gewri鈥檙 Hoelion wyth, John Y Graig, yn 99 oed.
"Roedd yn fynychwr rheolaidd yn y cyfarfodydd Cenedlaethol tan yn ddiweddar iawn. Parchwyd ei farn gadarn a鈥檌 sylwadau craff ar bob achlysur."
Yn 2017, fe osododd y gymdeithas blac ar ei gartref "am ei waith i sefydlu鈥檙 Hoelion a鈥檌 gyfraniad amhrisiadwy am flynyddoedd maith".
"O ystyried rhai o enwogion cenedlaethol ein gwlad a dderbyniodd yr anrhydedd hon, megis Caradog Jones (y dringwr), Delme Thomas (y chwaraewr rygbi) a Dai Jones (Llanilar) i enwi ond tri, mae enw John Y Graig yn gorwedd yn gysurus yn eu plith.
"Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu wrth i ni ffarwelio a鈥檙 hoelen loywaf yn ein Cymdeithas - un yn sicr na welwn mo鈥檌 debyg fyth eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2017