Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor RCT yn amddiffyn eu record ar addysg Gymraeg
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud eu bod yn 鈥済wbl ymrwymedig鈥 i addysg Gymraeg, wedi i Gymdeithas yr Iaith eu cyhuddo o 鈥渁dael plant y Cymoedd i lawr鈥.
Mae鈥檙 ymgyrchwyr iaith yn galw ar y cyngor i fynd ati ar frys i wneud yn iawn am 鈥渄degawdau o ddiffyg gweithredu鈥.
Fel mae鈥檔 sefyll, mae tua 20% o blant y sir yn derbyn addysg Gymraeg, a dydy鈥檙 cyngor ddim wedi agor ysgol Gymraeg newydd ers i鈥檙 cyngor ei hun gael ei sefydlu yn 1996.
Yn 么l Cyngor Rhondda Cynon Taf, maen nhw'n 鈥測mrwymedig鈥 i gyrraedd y targedau sydd wedi eu gosod yn y eu Cynllun Strategaeth Addysg Gymraeg.
Mewn llythyr agored gan gr诺p addysg Cymdeithas yr Iaith, beirniadwyd penderfyniad y cyngor i gau Ysgol Pont Si么n Norton, gan ddweud bod 鈥渉awl teuluoedd i gael addysg Gymraeg ar garreg y drws wedi diflannu dros nos鈥.
Maen nhw hefyd yn beirniadu ymgynghoriad diweddar y cyngor ar newid cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o un ddwy-ffrwd i ysgol cyfrwng Saesneg yn unig.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am gadw'r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Dolau, a chynyddu darpariaeth Gymraeg yr ysgol gyfan dros amser fel bod holl blant yr ysgol yn cael addysg Gymraeg yn y pendraw.
Ond yn 么l y llefarydd ar ran y cyngor, mae鈥檙 ardal wedi gweld buddsoddiad 鈥渁rwyddocaol鈥 i addysg Gymraeg, sy鈥檔 鈥渇wy na digonol鈥 i ateb y galw.
Mae Lowri Mared yn rhiant lleol a fu鈥檔 ymgyrchu yn erbyn penderfyniad y cyngor i gau Ysgol Pont Si么n Norton.
鈥淢ae鈥檔 siom fod y cyngor ddim yn gweld taw cam yn 么l i鈥檙 Gymraeg oedd y penderfyniad i ail-leoli ysgol Pont Si么n Norton y tu allan i gymuned gogledd Pontypridd,鈥 meddai.
Yn ei barn hi, drwy gymryd y penderfyniad yma, mae鈥檙 cyngor yn 鈥渄iystyru'r sgil-effaith ar yr iaith yn gyfan gwbl鈥.
鈥淏ydd rhai plant nawr yn gorfod pasio saith ysgol Saesneg ar y ffordd i'w hysgol Gymraeg agosaf," meddai.
"Bydd ardaloedd Cilfynydd, Glyncoch ac Ynysybwl yn colli鈥檙 iaith gan fod y cyngor wedi gwneud addysg Gymraeg yn amhosib i lawer."
Mae 14 ysgol gynradd Gymraeg yn y sir, a phedair ysgol uwchradd Gymraeg; Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Gyfun Garth Olwg, Ysgol Gyfun Llanhari ac Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Yn 么l Toni Schiavone o gr诺p addysg Cymdeithas yr Iaith: 鈥淢yth yw鈥檙 stori o dwf o ran addysg Gymraeg yn y sir.
"Mae 80% o blant y sir yn cael eu haddysg yn Saesneg, a bydd eu mwyafrif llethol yn gadael yr ysgol heb fod yn hyderus yn y Gymraeg.鈥
Yn ei farn ef, mae diffyg twf addysg Gymraeg yn yr ardal yn 鈥済adael plant y Cymoedd i lawr鈥.
Mae Mr Schiavone hefyd yn pryderu nad yw鈥檙 sefyllfa鈥檔 gwella yn sgil y penderfyniad diweddar i gau Ysgol Pont Si么n Norton ac ymgynghori nawr i droi Ysgol Gynradd Dolau yn ysgol cyfrwng Saesneg.
Dywedodd fod y rhain yn 鈥済amau gwag difrifol鈥 sy鈥檔 鈥渕ynd 芒 ni i鈥檙 cyfeiriad anghywir鈥.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i weld pob plentyn yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050.
Yn 么l gwaith ystadegol a gomisiynwyd gan y Gymdeithas, er mwyn sicrhau bod holl blant Rhondda Cynon Taf yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, byddai angen i 40.2% o ddisgyblion cynradd y sir gael addysg Gymraeg erbyn 2035.
Fel mae'n sefyll, 16% o blant cynradd y sir sydd mewn ysgol Gymraeg.
Mae鈥檙 Gymdeithas yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i 鈥渨eddnewid cynlluniau presennol鈥 er mwyn creu twf cyflym i鈥檙 iaith Gymraeg.
Yn 么l Toni Schiavone, mae鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni yn cynnig 鈥渃yfle mawr鈥 i鈥檙 cyngor i 鈥渄dechrau o ddifri ar y llwybr i roi鈥檙 Gymraeg i bob plentyn yn y sir鈥.
'Cwbl ymrwymedig'
Ond mae llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf yn pwysleisio eu bod yn "gwbl ymrwymedig" i dargedau'r llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r cyngor yn awyddus i nodi ei chyd-fuddsoddiad o 拢15.5m yn Nyffryn Cynon er mwyn creu adeiladau dysgu newydd yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ac ar gyfer estyniad "sylweddol" yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberd芒r.
Ar ben hyn, dywedodd y bydd ysgol Gymraeg "newydd sbon", Ysgol Awel Taf, yn agor yn Rhydyfelin ym mis Medi eleni yn dilyn buddsoddiad o 拢14m.
Mae'r cyngor yn awyddus i "barhau i flaenoriaethu addysg Gymraeg" ac yn gobeithio sicrhau buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru, meddai'r llefarydd.
Ond roedd Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i nodi nad ysgol "newydd sbon" fydd Ysgol Awel Taf, ond un adeilad newydd yn lle dwy ysgol flaenorol, sef adran Gymraeg Ysgol Heol y Celyn ac Ysgol Pont Si么n Norton.
Ychwanegodd llefarydd fod Ysgol Pont Si么n Norton yn "cael ei chau yn wyneb gwrthwynebiad chwyrn gan rieni a'r gymuned".