Tafarn eiconig y Vulcan yn ailagor yn Sain Ffagan

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd y Vulcan yn agor am y tro cyntaf ers 2012, yn ei gartref newydd, ddydd Sadwrn
  • Awdur, Daniel Heard
  • Swydd, 成人快手 Cymru

Mae tafarn newydd, hynaf Caerdydd yn barod i groesawu ymwelwyr unwaith eto yn amgueddfa Sain Ffagan.

Mae Gwesty鈥檙 Vulcan yn barod i agor ei ddrysau i鈥檙 cyhoedd, ond nid yn y man lle safodd am dros 170 o flynyddoedd.

Mae鈥檙 adeilad wedi cael ei ail-leoli, a'i ailadeiladu, un fricsen ar y tro, fel arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Cymru.

Bydd y Vulcan yn agor am y tro cyntaf ers 2012, yn ei gartref newydd, ddydd Sadwrn.

Cafodd y Vulcan ei gofrestru gyntaf fel "t欧 cwrw" yn 1853, yn Waunadda yng nghanol y ddinas.

Roedd hynny o fewn cymuned Wyddelig y brifddinas.

Yn ystod ei hanes, fe welodd yr adeilad nifer o newidiadau arwyddocaol, wrth i Gaerdydd ddod yn ddinas amlwg yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Peter Finch yn credu fod cael y Vulcan yno yn "ddatblygiad ardderchog ar gyfer yr amgueddfa"

Mae Peter Finch yn awdur a bardd, a oedd yn arfer yfed yn y Vulcan.

鈥淭afarn ar gyfer pobl dosbarth gweithiol oedd hwn," meddai.

鈥淩oedd arfer bod sawdust ar y llawr yn y degawdau cynt.

"Roedd yn dafarn gyfeillgar, un lle'r oedd pobl yn chwarae darts, lle'r oedd unigolyn yn gallu cael peint a siarad 芒 phobl.

鈥淩oedd yna elfen gyfeillgar i鈥檙 Vulcan, yn sicr.鈥

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Y Vulcan yn 2012, wedi iddi gau ei drysau i'r cyhoedd

Caeodd drysau鈥檙 Vulcan am y tro olaf yn 2012.

Ar 么l ymgyrch i'w hachub rhag cael ei dymchwel, cafodd yr adeilad ei chynnig i Amgueddfa Cymru.

Ym mis Mai 2012, dechreuodd aelodau o d卯m adeiladau hanesyddol Sain Ffagan gofnodi a datgymalu'r Vulcan, cyn ei drosglwyddo - darn wrth ddarn - draw i'r amgueddfa werin.

Disgrifiad o'r llun, "Ar 么l wynebu cael ei dymchwel, roedd y cynnig gan Sain Ffagan yn un gwych," medd y Farwnes Jenny Randerson

Mae鈥檙 prosiect wedi achosi teimladau cymysg ymhlith y rhai a fu'n ymgyrchu dros achub yr adeilad rhag cau, dros 15 mlynedd yn 么l.

Mae'r Farwnes Jenny Randerson yn gyn-Aelod Seneddol dros etholaeth Canol Caerdydd.

鈥淒wi鈥檔 cofio dweud ar y pryd y bydda i鈥檔 fodlon gorwedd o flaen y tapiau!鈥 meddai.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 angerddol dros gadw鈥檙 dafarn ar agor, ac o fewn y gymuned yr oedd hi wedi gwasanaethu am gymaint o amser.

鈥淥nd, ar 么l wynebu cael ei dymchwel, roedd y cynnig gan Sain Ffagan yn un gwych."

'Dim syniad am gryfder y teimlad'

Fe wnaeth deiseb gan gr诺p ymgyrchu Save the Vulcan ddenu miloedd o lofnodau, gan gynnwys yr actor Rhys Ifans a phrif ganwr y Manic Street Preachers, James Dean Bradfield.

鈥淧an wnaethon ni ddechrau鈥檙 ymgyrch yma, doedd ddim syniad gennym ni ar y pryd o gryfder y teimlad a fyddai'n dod i'r amlwg,鈥 meddai Rachel Cable, oedd yn aelod o鈥檙 gr诺p ymgyrchu.

鈥淲naethon ni archebu ystafell fawr yn y brifysgol, dros y ffordd o鈥檙 Vulcan, ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus cyntaf, ac ar y pryd, o鈥檔 i鈥檔 poeni y byddai neb yn troi lan!

鈥淥nd daeth dros 100 o bobl, ac fe wnaeth y gr诺p dyfu o fan'na. Roedd yr ymateb yn hollbwysig i鈥檔 hymgyrch ni.鈥

Ffynhonnell y llun, Rachel Cable

Disgrifiad o'r llun, Rachel Cable (trydydd o'r dde) ac aelodau eraill ymgyrch Save the Vulcan

Pan fydd y drysau'n agor yn Sain Ffagan, bydd y dafarn yn bodoli fel yr oedd yn y flwyddyn 1915 - blwyddyn arwyddocaol i'r Vulcan.

Ar y pryd, roedd y dafarn newydd weld cyfnod o adnewyddu, gan gynnwys ychwanegu teils gwyrdd a brown i du allan yr adeilad, a newid hefyd i'r tu mewn.

Pan fydd yr adeilad yn ailagor, bydd yn cynnig tri math o gwrw, wedi'u bragu gan Gwmni Bragu Sir Forgannwg.

'Profiad gwahanol'

Mae yna obeithion ymhlith cyn-gwsmeriaid y dafarn, a'r rhai a ymgyrchodd dros ei achub, y bydd y Vulcan yn cyfrannu llawer i鈥檞 gartref newydd.

鈥淒wi鈥檔 credu ei fod yn ddatblygiad ardderchog ar gyfer yr amgueddfa,鈥 meddai Peter Finch.

鈥淢ae'n arbrawf mawr iddyn nhw, ond dwi鈥檔 hapus y bydd yr adeilad nawr yn sefyll yna.

"Mae鈥檔 mynd i fod yn brofiad gwahanol ymweld 芒鈥檙 Vulcan mewn amgueddfa, ond mae'n rhaid i ni wneud y gorau o鈥檙 sefyllfa.鈥

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r t卯m yn Sain Ffagan hyd yn oed wedi llwyddo i achub hen doiledau nodweddiadol y Vulcan

Ychwanegodd y Farwnes Randerson ei bod "wedi bod i Sain Ffagan nifer o weithiau i weld y Vulcan yn cael ei ailadeiladu鈥.

鈥淲rth weld hynny, ti鈥檔 sylweddoli cymaint y bydd yr adeilad yn cyfrannu at yr amgueddfa," meddai.

鈥淢ae yna nifer o adeiladau diddorol yno ar hyn o bryd, a nawr, mae yna dafarn. Felly, mewn ffordd, mae gennych chi'r gymuned lawn yno."

Dywedodd Rachel Cable ei bod yn "gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli pobl a fydd yn ymweld 芒鈥檙 dafarn i adrodd eu straeon eu hunain am y Vulcan".

鈥淏eth maen nhw'n ei gofio am yr adeilad, a hefyd o鈥檙 gymuned, y straeon, yr hanes, ac yn bwysig, treftadaeth pob dydd, sy'n cael ei anghofio weithiau."

Does dim llawer o amgueddfeydd ble mae ymwelwyr yn gallu mynd i dafarn 'go iawn', a chael peint 'go iawn'.

Ond o ddydd Sadwrn, bydd modd gwneud hynny yng Ngwesty'r Vulcan, wrth i'r drysau agor i'r cyhoedd unwaith eto, gan ychwanegu pennod newydd i hanes yr adeilad arbennig.