成人快手

Rhaglenni S4C i gael eu cynnwys ar sianel Ryan Reynolds

Rob McElhenney a Ryan ReynoldsFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Bydd chwe awr o raglenni Cymraeg yr wythnos yn cael eu dangos ar blatfform ffrydio yn yr UDA, yn dilyn cytundeb rhwng S4C a sianel sydd berchen i'r actor Ryan Reynolds.

Fe fydd y rhaglenni Cymraeg yn cael eu dangos bob ddydd Mercher ar Maximum Effort Channel, sy'n sianel ar blatfform Fubo.

Er mai platfform ffrydio ar gyfer chwaraeon byw yw prif ffocws Fubo, bydd dram芒u a rhaglenni dogfen S4C ymhlith y rheiny fydd ar gael i'w gwylio.

Dywedodd Mr Reynolds y byddai'r cytundeb yn golygu bod "cynulleidfa ehangach" yng ngogledd America yn gallu gwylio cynnwys Cymraeg.

Cymraeg gydag is-deitlau

Bydd y chwe rhaglen gan S4C fydd yn lansio'r arlwy Cymraeg ar Maximum Effort yn cynnwys tair gyda naws p锚l-droed iddynt - 'Y Wal Goch' (Afanti), 'Wrecsam Clwb Ni' (Wildflame) a 'Gareth Bale: Byw'r Freuddwyd' (Barn Media).

Yn ogystal 芒 hynny bydd modd i gynulleidfaoedd yn America wylio cyfres ddrama 'Bang' (Joio/Artists Studio), a'r rhaglenni dogfen 'Pen Petrol' (Rondo) ac 'Y Fets' (Boom).

Mae S4C wedi gwneud cytundebau gyda chwmn茂au eraill yn y gorffennol i ddangos rhaglenni i gynulleidfaoedd ehangach, gan gynnwys y ddrama Gymraeg gyntaf ar Netflix yn gynharach eleni.

Mae cynyrchiadau eraill hefyd wedi cael eu ffilmio'n ddwyieithog yn y gorffennol er mwyn ceisio manteisio ar farchnadoedd rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rhaglen ddogfen am eicon Cymru, Gareth Bale, ymhlith y rheiny fydd yn cael eu dangos i wylwyr yn yr UDA

Ond bydd y rhaglenni S4C sy'n cael eu dangos ar y Maximum Effort Channel, gan ddechrau ar 28 Mehefin, yn rhai Cymraeg yn unig gydag is-deitlau.

"Fel mae llawer o bobl wedi nodi, mae diffyg mawr o gynnwys Cymraeg ar gael i wylwyr yn America ei fwynhau," meddai Ryan Reynolds yn dilyn y cyhoeddiad.

"Mae hynny'n stopio heddiw. Wel, ddydd Mercher i fod yn gywir.

"Rydyn ni mor ddiolchgar i S4C am helpu i ddod 芒 rhaglenni Cymraeg i gynulleidfa ehangach."

'O fudd i'r sector cyfan'

Mae Ryan Reynolds eisoes wedi helpu dod 芒 Chymru i sylw rhyngwladol fel cyd-berchennog Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam, ochr yn ochr 芒 Rob McElhenney.

A dywedodd Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C, fod yr actor eisoes wedi dangos ei "ymroddiad" i Wrecsam a Chymru, a'i "gariad" tuag at yr iaith.

"Mae gan Gymru boblogaeth o ychydig dros dair miliwn, ond mae Ryan yn gallu cyrraedd degau o filiynau o bobl drwy'r cyfryngau cymdeithasol yn unig," meddai.

"Mae'n rhoi cyfle i ni ddangos diwylliant, iaith a thalent Cymru ar y llwyfan rhyngwladol."

Ychwanegodd y byddai hynny o fudd "i'r sector creadigol cyfan" yng Nghymru.