'Codi 20,000 o dai fforddiadwy cyn 2026 yn dal yn bosib'

Disgrifiad o'r llun, Mae Julie James yn dal yn credu bod modd cyrraedd y nod heriol o godi 20,000 o dai fforddiadwy cyn diwedd tymor y Senedd presennol

Mae'r Gweinidog Cyflawni, Julie James, yn dweud y bydd yn gwneud popeth posib i helpu Llywodraeth Cymru wireddu eu haddewidion ond yn cyfaddef mai "amser byr iawn" sydd yna i wneud hynny cyn etholiadau'r Senedd yn 2026.

Dywedodd hefyd bod yr ymroddiad ym maniffesto Llafur Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy cyn diwedd tymor y Senedd yn mynd rhagddo "o drwch blewyn", ond mae hi'n grediniol bod modd cyrraedd y nod.

Fe fydd y cyn weinidog Lee Waters, oedd yn gyfrifol am y ddeddf 20mya ddadleuol, yn helpu'r llywodraeth gyrraedd y targed tai.

Roedd Ms James yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar raglen ³ÉÈË¿ìÊÖ Politics Wales ynghylch y rôl a gafodd ei chreu gan y Prif Weinidog Eluned Morgan yn yr haf.

Dywedodd mai ei chyfrifoldeb yw helpu'r ysgrifenyddion cabinet a sicrhau bod pethau'n rhedeg yn llyfn.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Julie James mai helpu ysgrifenyddion cabinet wireddu cynlluniau eu hadrannau yw byrdwn ei rôl newydd o fewn Llywodraeth Cymru

"Mae wnelo fe â gwireddu ein haddewidion maniffesto a chwblhau ein rhaglen ddeddfwriaeth yn y cyfnod byd iawn o amser sydd gyda ni ar ôl i wneud hynny a chyflawni'r hyn ar ran pobl Cymru wnaethon ni ei addo," dywedodd.

"Fe wnaf beth bynnag sydd angen. Mae gen i enw am siarad yn blaen ond hefyd am gydweithio ag eraill i gael y maen i'r wal.

"Mae gyda ni, mwyaf tebyg, 14, 15 mis i weithredu. Unwaith mae etholiad 2026 ar y gorwel mae'n dod yn anodd iawn i gael pethau trwodd nad sy'n hollol gydsyniol...

"Rwy' yna i helpu trafod, hwyluso pethau a gwneud yn siŵr bod y pethau hyn yn digwydd."

Ar ben y flaenoriaeth o fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG, dywedodd Ms James ei bod yn helpu'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, i ddod â phobl at ei gilydd i ledu'r arferion gorau ar draws Cymru.

Wrth ei holi a fyddai mwy o gleifion yn cael triniaethau yn Lloegr i helpu lleihau rhestrau aros yng Nghymru fel rhan o gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU, atebodd mai mater i'w drafod gyda Mr Miles yw hynny.

"Dydw i ddim yna yn lle'r ysgrifenyddion cabinet," meddai. "Rhaid i chi siarad â nhw ynghylch manylion eu portffolios. Yna i helpu rwyf innau."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae'r corff sy'n archwilio gwariant cyhoeddus wedi mynegi amheuon y bydd modd cyrraedd y targed cartrefi fforddiadwy heb arian ychwanegol sylweddol.

Dywedodd Ms James: "Rydym yn llythrennol wedi cyrraedd pwynt o gynllunio manwl ar lefel safleoedd.

"Roedden nhw'n dal gadael ar hynny o drwch blewyn o ganlyniad i'r pandemig a'r argyfwng costau byw ond gallen ni dal wneud e. Rydym jest angen y manyldra i sicrhau bod y tai hynny yn cael eu codi."

Fe fydd Lee Waters, meddai, yn cynorthwyo'r ysgrifennydd cabinet - Jayne Bryant sy'n gyfrifol am y portffolio tai - trwy edrych "yn fanwl ac yn gyflym iawn" i bob cais cynllunio sy'n cael eu cyflwyno.

Mewn ymateb i gyfweliad Julie James, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies bod Eluned Morgan a Jeremy Miles "wedi bod yn cynnig gobaith ffug i bobl sy'n aros mewn poen ar restrau aros GIG Cymru".

"Mae'r gwir mas nawr gan y Gweinidog Cyflawni Llafur na fydd y cytundeb yma yn cynnig unrhyw ryddhad i'r miloedd o bobl sy'n aros yma yng Nghymru.

"Dylai'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd [Iechyd] ymddiheuro, llyncu eu balchder a gwneud beth sydd orau i gleifion yng Nghymru a chael cytundeb cymorth a fydd yn defnyddio'r capasiti sbâr yn rhannau eraill y DU – yr hyn roedd eu cyhoeddiad gwreiddiol yn amlwg yn credu sy'n bodoli."