Menyw ar feic wedi marw mewn gwrthdrawiad 芒 lori
- Cyhoeddwyd
Mae menyw oedd yn seiclo wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori yn Sir G芒r.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A476 ger Ffairfach, ar gyrion Llandeilo, toc wedi 17:00 ddydd Llun.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bu farw'r fenyw oedd ar y beic yn y fan a'r lle.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.