成人快手

Prif Weinidog Cymru: Beth sy鈥檔 digwydd nesaf?

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Vaughan Gething ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru ddydd Mawrth ar 么l i bedwar aelod o'i lywodraeth roi'r gorau iddi a mynnu ei fod yn gadael y r么l.

Drwy gydol ei gyfnod fel arweinydd Llywodraeth Cymru mae Mr Gething wedi cael ei feirniadu yn sgil ffrae am roddion i'w ymgyrch arweinyddiaeth a'i benderfyniad i ddiswyddo gweinidog.

Gyda鈥檙 llwch prin wedi setlo, mae鈥檙 sylw nawr yn troi at bwy fydd yn olynu Mr Gething a sut fydd y broses honno yn gweithio.

Mae Mr Gething wedi dweud ei fod yn bwriadu aros yn y swydd nes bydd ei olynydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref, ond nid dyma'r unig opsiwn sydd ar y bwrdd.

Mae 成人快手 Cymru'n deall fod Jeremy Miles - y dyn a ddaeth yn ail o drwch blewyn i Mr Gething yn yr ornest ychydig fisoedd yn 么l - yn debygol o ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru unwaith eto.

Ond mae un o'r enwau sydd wedi eu crybwyll, y cwnsler cyffredinol Mick Antoniw, wedi cadarnhau nad yw'n bwriadu ymuno 芒'r ras.

1. Coroni

Mewn egwyddor, gallai Llafur Cymru gytuno ar un person i ddod yn brif weinidog heb gystadleuaeth.

Byddai鈥檙 un enwebai hwn yn dal i wynebu pleidlais yn y Senedd i ddod yn brif weinidog yn ffurfiol, ond gallai osgoi ras ffurfiol ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Mae hyn wedi digwydd o'r blaen.

Yn 2000, pan ymddiswyddodd Alun Michael fel ysgrifennydd cyntaf Cymru, Rhodri Morgan oedd yr unig un i gael ei enwebu fel olynydd posib, ac fe gamodd i'r r么l heb ras am yr arweinyddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Rhodri Morgan (chwith) yn arwain Llafur Cymru rhwng 2000 a 2009

Yr ymgeisydd sydd fwyaf tebygol o allu cymryd lle Mr Gething fel hyn fyddai Jeremy Miles, a ddaeth yn ail agos yn ras arweinyddiaeth y gwanwyn.

Ond mae'r rhaniadau presennol o fewn Llafur Cymru yn golygu ei bod hi, o bosib, yn anodd i aelodau Llafur y Senedd daflu eu pwysau tu cefn i un ymgeisydd unigol y tro hwn.

2. Arweinydd dros dro

Mae rhai o fewn Llafur Cymru yn credu bod Mr Gething wedi colli ei awdurdod ac na ddylai barhau yn y swydd nes bod arweinydd newydd yn cael ei ddewis.

Mae s么n am benodi arweinydd dros dro, gyda鈥檙 prif chwip Jane Hutt yn cael ei hawgrymu fel rhywun fyddai'n gallu'r cyflawni鈥檙 r么l yn y tymor byr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jane Hutt (chwith) yn cael ei hystyried gan rhai o fewn y blaid fel p芒r diogel o ddwylo

Mae Ms Hutt yn cael ei hystyried yn b芒r diogel o ddwylo - ac yn rhywun allai sefydlogi'r llong nes bod arweinydd newydd yn cael ei ddewis yn ffurfiol.

Mae s么n am benodi arweinydd dros dro yn arwydd o'r drwgdeimlad o fewn Llafur Cymru ar hyn o bryd - ni all rhai yn y blaid ddirnad y syniad y bydd Mr Gething yn parhau'n brif weinidog tan yr hydref.

3. Cystadleuaeth dros yr haf

Y sefyllfa fwyaf tebygol, o bosib, yw bod Mr Gething yn gwneud yr hyn y mae wedi dweud ei fod yn bwriadu ei wneud ac yn aros ymlaen tan yr hydref.

Byddai gornest arweinyddiaeth ffurfiol - sy'n cynnwys nifer o ymgeiswyr Llafur Cymru - wedyn yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod yma.

Mae disgwyl i bwyllgor gwaith Llafur Cymru gyfarfod ddydd Sadwrn i benderfynu ar gamau nesaf y blaid ac amlinellu amserlen o ddigwyddiadau.

Gallwch ddarllen mwy am yr ymgeiswyr posib i gymryd lle Mr Gething yma.

4. Etholiad cynnar i'r Senedd

Bron cyn gynted ag y cyhoeddodd Mr Gething ei ymddiswyddiad, daeth Plaid Cymru allan yn galw am gynnal etholiadau nesaf y Senedd yn gynnar.

Dywedodd Plaid Cymru nad oedd yn deg fod pobl Cymru yn cael trydydd prif weinidog mewn mater o fisoedd, gan ddadlau y dylai'r cyhoedd gael cyfle i ddweud eu dweud.

Ond mae'n anodd gweld sut y byddai'n digwydd gyda Llafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn y syniad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae etholiad nesaf Senedd Cymru i fod i gael ei gynnal yn 2026

Mewn egwyddor, gallai鈥檙 gwrthbleidiau yn y Senedd orfodi etholiad cynnar drwy wrthod penodi'r arweinydd newydd sy'n cael ei ddewis gan Lafur Cymru yn brif weinidog drwy bleidlais yn y Senedd.

Byddai hefyd yn bosib pe bai dwy ran o dair o鈥檙 Senedd yn pleidleisio o blaid etholiad cynnar.

Mae'n aneglur gweld sut gallai'r naill sefyllfa na'r llall ddigwydd ar hyn o bryd.

Mae鈥檔 werth nodi pe bai etholiad Senedd cynnar yn 2024, mae deddfwriaeth yn mynnu y byddai angen un arall yn 2026 o hyd.