成人快手

Gohirio'r gwaith o drwsio'r A470 yn dilyn damwain tr锚n

Llun o'r twll yn y ffordd.
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig bron i flwyddyn yn 么l

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith o drwsio rhan o'r A470 ym Mhowys wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd yn sgil y ddamwain rhwng dau dr锚n yn y canolbarth ddechrau'r wythnos.

Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r ffordd rhwng gogledd a de Cymru gau ym mhentref Talerddig am 7 wythnos cyn y Nadolig.

Ond mae'r sefyllfa wedi ei hadolygu yn dilyn y ddamwain dr锚n a fu ar y rheilffordd ger yr A470 nos Lun.

Bu farw Tudor Evans, 66 oed o Gapel Dewi ger Aberystwyth, wedi'r ddamwain ac anafwyd 15 o bobl eraill.

Pan fydd y gwaith yn digwydd, bydd y dargyfeiriad swyddogol yn mynd 芒 cherbydau ar lwybr hir ar hyd ffyrdd 鈥楢鈥 cyfatebol, drwy Gaersws, y Drenewydd a鈥檙 Trallwng.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgwyl dargyfeiriad am y gorllewin trwy Gaersws, Y Drenewydd (A483), Y Trallwng a Mallwyd (A458)

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: 鈥淢ae fy meddyliau gyda phawb a effeithiwyd gan y digwyddiad ar y rheilffordd, ac mae fy nghydymdeimlad gyda theulu'r dyn a gollodd ei fywyd.

"Gohirio'r gwaith yn Nhalerddig tan y Flwyddyn Newydd yw'r peth iawn i'w wneud ar hyn o bryd i roi amser i'r gymuned ddod i delerau 芒'r digwyddiadau trist.

"Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn tarfu cyn lleied 芒 phosibl, byddai dechrau'r gwaith yr wythnos nesaf wedi dod ag ansicrwydd ar adeg anodd.

"Byddwn yn darparu diweddariadau pellach ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer y gwaith ffordd.鈥

Bydd goleuadau traffig yn parhau ar y ffordd am weddill y flwyddyn, gydag un l么n ar gau.

Pynciau cysylltiedig