成人快手

Cyflog gweithwyr sector cyhoeddus i godi rhwng 5 a 6%

meddygon iau
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr y sector gyhoeddus.

Bydd nyrsys, staff eraill y gwasanaeth iechyd ac athrawon yn derbyn cynnydd o 5.5% a bydd meddygon a deintyddion yn derbyn 6% - wedi'i 么l-ddyddio i fis Ebrill yn unol 芒 Lloegr.

Mae swyddogion yn hyderus y byddan nhw'n cael mwy o arian gan Lywodraeth y DU i dalu am y cynnydd ond maen nhw'n dweud ar hyn o bryd ei bod yn amhosib dweud faint o arian ychwanegol fydd ei angen.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod angen i weithwyr y sector gyhoeddus "gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith hanfodol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd athrawon yn derbyn cynnydd o 5.5% yn eu cyflogau

"Mae pobl ledled Cymru wedi dweud wrthon ni dros yr haf mai gweithwyr y sector cyhoeddus yw asgwrn cefn y gwasanaethau ry'n ni gyd yn dibynnu arnyn nhw 鈥 o'r nyrsys yn ein Gwasanaeth Iechyd i athrawon mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled Cymru," meddai Ms Morgan mewn datganiad.

"Mae'r dyfarniadau cyflog hyn yn arwydd o'n gwerthfawrogiad a'n parch tuag at eu gwaith caled.

"Ond mae'r cyhoedd hefyd wedi pwysleisio eu bod eisiau i wasanaethau cyhoeddus wella 鈥 yn enwedig yn y Gwasanaeth Iechyd ac addysg.

"Byddwn ni'n gweithio gyda'r gwasanaethau hyn i weithredu ar yr hyn ddywedodd pobl wrthon ni yn yr ymarfer gwrando dros yr haf."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o brotestiadau wedi eu cynnal dros y misoedd diwethaf yn galw am gyflogau uwch

Daw'r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth Cymru dderbyn yr argymhellion cyflog gan gyrff adolygu cyflogau annibynnol yn llawn ar gyfer 2024-25.

Bydd meddygon iau yn cael 拢1,000 ychwanegol ac fe fydd gweithwyr cyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Banc Datblygu Cymru yn derbyn cynnydd o 5% ar gyfartaledd.

Dywed swyddogion bod y cynnydd sy'n cael ei argymell i athrawon yn unol 芒'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr.

Bydd hi'n rhaid i'r codiadau cyflog gael s锚l bendith undebau. Fe fydd ymgynghoriad pedair wythnos yn dechrau'n syth ar gyflogau athrawon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'r dyfarniadau cyflog hyn yn arwydd o'n gwerthfawrogiad a'n parch tuag at eu gwaith caled," medd Eluned Morgan

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Rebecca Evans: "Ry'n ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur i sicrhau setliadau cyflog teg sy'n fforddiadwy ond sydd hefyd yn cydnabod cyfraniad enfawr gweithwyr y sector cyhoeddus."

Mae cyrff adolygu cyflogau annibynnol yn gwneud argymhellion i lywodraethau yngl欧n 芒 chyflogau.

Nid yw rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys staff llywodraeth leol, gwasanaethau t芒n ac achub a gofal cymdeithasol, yn cael eu cynnwys gan y cyrff adolygu cyflogau annibynnol ac ymdrinnir 芒 nhw drwy broses ar wah芒n.

Ymateb yr undebau

Croeso gofalus sydd i'r newydd gan undeb y prifathrawon, NAHT Cymru.

"Tra'n bo' ni'n deall y bydd y cynnydd yn cael ei ariannu'n llawn, fe fyddwn yn cadw llygad manwl i sicrhau fod holl gostau ysgolion yn cael eu hariannu - nid cyfartaledd," meddai Laura Doel ar ran yr undeb.

Dywedodd BMA Cymru - sy'n cynrychioli meddygon - eu bod yn croesawu'n fras y codiad cyflog i feddygon iau, ymgynghorwyr ac arbenigwyr.

Ond dywedodd llefarydd na fydd modd gwybod yn iawn beth fydd y cynnydd t芒l i feddygon nes bod trafodaethau yn dechrau - rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi oedi, meddai.

Wrth ymateb dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj, bod y symud ymlaen ar gyflogau sector cyhoeddus yn rhywbeth i'w groesawu, yn ogystal 芒鈥檙 ffaith bod y cynigion cyflog "uwchlaw chwyddiant ac yn debyg i鈥檙 hyn sydd wedi'i gynnig gan Lywodraeth y DU i weithwyr yn Lloegr".

Ond wrth gyfeirio at y ffaith bod y codiadau cyflog yn hwyr fe ychwanegodd: "Ry'n ni wedi pwysleisio i'r llywodraeth pa mor bwysig yw hi i osgoi oedi fel hyn yn y dyfodol."

'Ddylai Cymru ddim gorfod aros'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: 鈥淢ae鈥檔 amlwg ei fod er budd cenedlaethol y DU i ddod 芒鈥檙 streiciau hyn i ben, ond caniataodd gweinidogion Llafur yn y Senedd iddynt lusgo ymlaen.

"Yn wahanol i weinidogion Llafur yn y Senedd, fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn blaenoriaethu prosiectau diddim sy鈥檔 tynnu sylw oddi ar ein gwasanaethau cyhoeddus.鈥

Ychwanegodd Heledd Fychan o Blaid Cymru: 鈥淩ydym yn glir na ddylai gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru orfod aros am gyhoeddiadau yn Lloegr cyn derbyn gwell cynigion cyflog.

"Dyna pam mae angen model ariannu teg ar frys i roi diwedd ar ddibyniaeth Cymru ar benderfyniadau gwleidyddol a wneir dros y ffin."

Pynciau cysylltiedig