Cyhuddo dyn o ymosod ar ferch 11 oed yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar ferch 11 oed yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig tua 17:30 ddydd Gwener, 25 Hydref rhwng Clwb Golff Caerdydd a Ffordd Pentwyn yn ardal Pontprennau y brifddinas.
Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad blaenorol fod dyn wedi dechrau siarad gyda'r ferch 11 oed, oedd yn mynd 芒'i chi am dro, cyn ymosod arni, ei gwthio i'r llawr a rhedeg i ffwrdd.
Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd y llu bod y dyn 31 oed o ardal Waunadda'r ddinas hefyd wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad 芒 digwyddiad arall ar 23 Hydref.
Mae yna honiad ei fod wedi gwneud "awgrymiadau anweddus" i ferch 15 oed ar fws rhwng Y Barri a Chaerdydd.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol trwy gyffwrdd merch dan 13 oed ac o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rhywiol.