Dyn, 49, yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio yn Abertawe

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Joshua Norman, 27, ar 么l cael ei ganfod ag anafiadau difrifol ar 11 Medi

Mae dyn o Abertawe wedi ymddangos yn y llys wedi鈥檌 gyhuddo o lofruddio dyn arall o鈥檙 ddinas.

Yn Llys y Goron fore Llun fe siaradodd Paul Rosser, 49 oed o Gendros, i gadarnhau ei enw.

Bu farw Joshua Norman, 27, ar 么l cael ei ganfod ag anafiadau difrifol ar Heol y Cwm yn ardal Hafod ar 11 Medi.

Mae dyn arall wedi cael ei ryddhau ar fechn茂aeth tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal gan Heddlu鈥檙 De.

Bydd Paul Rosser yn parhau yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos eto yn Llys y Goron Abertawe ar 1 Tachwedd.