³ÉÈË¿ìÊÖ

'Pump y cant o gopa'r Wyddfa wedi'i orchuddio â microblastigau'

Yr WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Mae 5% o gopa'r Wyddfa wedi'i orchuddio â microblastigau," medd Owen Derbyshire o Cadw Cymru'n Daclus

  • Cyhoeddwyd

Mae cynhadledd amgylcheddol ieuenctid yn cael ei chynnal ar Yr Wyddfa am y tro cyntaf i geisio mynd i'r afael â llygredd plastig ar y mynydd.

Mae 5% o gopa'r Wyddfa wedi'i orchuddio â microblastigau, yn ôl Owen Derbyshire sy'n siarad yn y gynhadledd ddydd Mawrth.

O dros 200 o geisiadau, mae 15 grŵp wedi cyrraedd y rownd derfynol ac wedi cael eu dewis i fynychu’r gynhadledd COPA1 er mwyn cyflwyno eu ‘Syniadau Mawr’.

Bydd y buddugwyr yn derbyn grant datblygu o £1,500 wedi ei ariannu’n gan y Loteri Genedlaethol.

Bydd panel o arbenigwyr adnabyddus yn beirniadu y gystadleuaeth gan gynnwys yr AS lleol Liz Saville Roberts a'r gantores Casi Wyn ac fe fydd cymorth ar gael i ddisgyblion i wireddu eu syniadau.

Disgrifiad o’r llun,

'Ers cychwyn y flwyddyn ni'n gwybod fod gwirfoddolwyr a grwpiau wedi casglu dros 1.3 tunnell o blastig,' medd Owen Derbyshire

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Owen Derbyshire, o'r grŵp Cadw Cymru'n Daclus: "Ni'n gwybod bo 'da ni her genedlaethol o gwmpas plastig un tro yn benodol.

"Mae cynnydd cyffredinol wedi bod o ran cyfraddau sbwriel plastig un tro ar draws Cymru gyfan.

"O ran Yr Wyddfa'n benodol, mae 5% o gopa'r Wyddfa wedi'i orchuddio mewn microblastigau sy'n stat anhygoel i ddeud y gwir.

"Ers cychwyn y flwyddyn ni'n gwybod fod gwirfoddolwyr a grwpiau wedi casglu dros 1.3 tunnell o blastig sy'n cynrychioli tua 700 bag o sbwriel."

Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni'n gobeithio Yr Wyddfa fydd y mynydd gyntaf di-blastig," meddai Mei o Ysgol Brynrefail

Un o'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad yw Mei o Ysgol Brynrefail.

"Syniad fi ydi fod ni am gael clipiau dwbl a bagiau plastig so fedra rywun gasglu'r bagiau plastig fel 'da chi'n cerdded i fyny a wedyn fydd na biniau i chi eu rhoi nhw," meddai.

"Dwi'n meddwl fod hi'n syniad reit dda a 'da ni'n gobeithio mai'r Wyddfa fydd y mynydd cyntaf di-blastig."

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion yn cyflwyno eu 'Syniad Mawr' yn COPA1

Dywedodd Alec Young, swyddog prosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig: "Ma hon yn cynhadledd hollol unigryw i dod â'r syniadau mawr at ei gilydd gan blant lleol, pobl ifanc lleol i drio datrys y problem 'ma o sbwriel ar Yr Wyddfa.

"Yn amlwg ma'n her fawr i gael gwared o'r holl microblastigau a'r plastig sy'n cael ei ddarganfod arna fo, ond 'da ni'n rili gobeithio erbyn diwedd y diwrnod fydd gennym ni dri syniad i symud ymlaen i fynd i'r afael â'r broblem."