Cyfres yr Hydref: Cymru yn colli yn erbyn Awstralia

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r canlyniad yn golygu fod t卯m Warren Gatland wedi colli 11 g锚m brawf o'r bron am y tro cyntaf erioed

Mae Cymru yn dal i chwilio am fuddugoliaeth ar 么l colli eu hail g锚m yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn Awstralia o 20-52 yn Stadiwm Principality.

Mae'r canlyniad yn golygu fod t卯m Warren Gatland wedi colli 11 g锚m brawf o'r bron am y tro cyntaf erioed.

Er i Gymru frwydro'n 么l o ddechrau gwael, roedd y Wallabies yn gyfforddus trwy gydol y g锚m wrth iddyn nhw sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd.

Fe fydd g锚m nesaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn, 23 Tachwedd.

Roedd hi'n ddechrau gwael i Gymru a oedd dan bwysau o'r funud gyntaf.

Ar 么l cyfnod estynedig ar y droed flaen, daeth cais cyntaf y Wallabies gan y cefnwr Tom Wright.

Aeth Awstralia ymlaen i fwynhau un o'u cyfnodau gorau o'r g锚m, gyda dau gais a dau drosiad yn y 10 munud canlynol.

Gyda chwarter y g锚m wedi'i chwarae, roedd Cymru ar ei h么l hi o 0-19.

Ond fe ymatebodd t卯m Gatland yn gryf, ac aethent ymlaen i gipio'r momentwm am weddill yr hanner.

Aaron Wainwright oedd y cyntaf i daro'n 么l, gyda Gareth Anscombe yn sgorio'r trosiad.

Yna roedd Anscombe yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb o fewn 10 munud wedi i Gymru ddechrau rheoli'r meddiant.

Daeth Awstralia'n 么l i'r g锚m yn y munudau olaf, ond fe wnaeth y Cymry amddiffyn yn dda i gadw'r sg么r yn 13-19 ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyma fuddugoliaeth fwyaf erioed Awstralia yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd

Fe ddechreuodd Awstralia'r ail hanner fel y cyntaf, gyda chais gan Matt Faessler a Noah Lolesio yn llwyddiannus gyda'i ail drosiad o'r g锚m.

Roedd y Cymry dan bwysau unwaith eto ac fe fanteisiodd Awstralia o fewn munudau gyda'r bachwr Faessler yn tirio am y trydydd tro.

Cafodd canolwr Awstralia Samu Kerevi gerdyn coch yn gynnar yn yr ail hanner am dacl beryglus ar Jac Morgan.

Roedd Gatland wedi gweld digon ac fe newidiodd hanner y t卯m, gyda Ryan Elias, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Tommy Reffell, Sam Costelow ac Eddie James yn camu i'r maes.

Ond nid oedd hynny yn ddigon i newid momentwm y g锚m, a gyda 20 munud i fynd roedd Awstralia ar y blaen o 13-40 ar 么l cais arall gan Wright a Lolesio'n dilyn gyda'r trosiad.

Fe wnaeth cais gan Ben Thomas a throsiad Costelow ei gwneud hi'n 20-40 ond roedd yr ymwelwyr yn ddigon cyfforddus erbyn hynny.

Aeth Awstralia ymlaen i osod record newydd am eu buddugoliaeth fwyaf erioed yng Nghaerdydd, gyda dau gais gan Len Ikitau a Wright i orffen y g锚m.