Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cofio sefydlu Cymru Fyw 10 mlynedd yn 么l
Ddeng mlynedd yn 么l fe lansiwyd gwasanaeth ar-lein newydd ac unigryw yn y Gymraeg - 成人快手 Cymru Fyw.
Erbyn heddiw mae dal i fyny gyda newyddion y dydd, darllen erthyglau nodwedd a gwneud ambell i gwis - i gyd am Gymru ac yn y Gymraeg - yn rhan o batrwm dyddiol i ddegau o filoedd o Gymru. Ond ddegawd yn 么l doedd 'na ddim sicrwydd y byddai'r gwasanaeth yn dod i fodolaeth o gwbl.
Huw Meredydd Roberts, cyn-reolwr gwasanaethau ar-lein Cymraeg y 成人快手, sy'n cofio n么l i'r cyfnod o sefydlu'r wefan.
Ychydig dros 10 mlynedd yn 么l, ro鈥檔 i鈥檔 eistedd mewn swyddfa yn y 成人快手 yn Llundain ac roedd un o staff y gorfforaeth yn eitha鈥 blin efo fi.
Ro鈥檔 i wedi mynd yno i egluro pam ein bod ni鈥檔 dymuno sefydlu gwasanaeth newydd o鈥檙 enw 成人快手 Cymru Fyw, ond doedd yr unigolyn yma ddim yn cytuno 芒鈥檙 weledigaeth honno!
Ro鈥檔 i鈥檔 deall ei bryder, er mod i ddim yn cytuno. Roedd hi鈥檔 gyfnod pan oedd y 成人快手 yn ceisio symleiddio ei darpariaeth ar-lein, a chynnig rhywbeth mwy clir a thaclus. Y broblem oedd bod y syniad o greu gwasanaeth newydd ac unigryw yn Gymraeg yn creu ychydig o gur pen ac yn 鈥榙ipyn o boendod i鈥檙 rhai sy鈥檔 credu mewn trefn鈥.
Dadlau dros sefydlu'r gwasanaeth
Nid dyma鈥檙 ddadl gyntaf na鈥檙 olaf i ni orfod ei chael wrth sefydlu Cymru Fyw ond dwi鈥檔 falch i ddweud ein bod ni wedi llwyddo i gael y maen i鈥檙 wal, wrth gwrs. Mae anghytuno yn beth iach mewn sefydliad mawr - weithiau mae鈥檔 rhaid ymladd eich cornel i symud pethau ymlaen ac mae creu rhywbeth newydd yn aml yn arwain at ychydig o ddadlau a phryder.
A dwi hefyd yn falch i ddweud, ar 么l i ni gytuno i sefydlu Cymru Fyw, mi gawson ni gefnogaeth fendigedig gan dimau technegol y 成人快手 鈥 cefnogaeth fu鈥檔 hanfodol i sicrhau llwyddiant y gwasanaeth newydd.
Ac un o lwyddiannau mawr Cymru Fyw yn ystod y 10 mlynedd gyntaf ydy ei gallu i arloesi鈥檔 dechnegol 鈥 o lansio yr ap newyddion cyntaf yn Gymraeg yn 2014 i greu sianel newydd ar WhatsApp eleni lle gallwch chi gael y newyddion diweddaraf i鈥檆h ff么n.
Beth petai neb yn defnyddio Cymru Fyw?
Mae鈥檙 成人快手 yn lle arbennig i weithio, ond ddim yn lle hawdd i fethu, yn enwedig gyda menter newydd sy鈥檔 costio arian ac amser.
Mae hynny鈥檔 naturiol o ystyried y pwysau sydd ar y 成人快手 wrth ddefnyddio arian cyhoeddus y drwydded. Ac roedden ni wedi gwneud gymaint o waith ymchwil a gwaith paratoi wrth sefydlu Cymru Fyw, roedden ni gyd yn teimlo bod angen iddi lwyddo.
Roeddwn i鈥檔 bersonol yn teimlo鈥檔 lwcus iawn i gydweithio gydag unigolion a thimau cynhyrchu talentog oedd yn rhannu鈥檙 angerdd tuag at greu gwasanaeth o鈥檙 safon uchaf posib, ar lefel fyd-eang.
Pan lansiwyd y gwasanaeth, roedd yr wythnosau cyntaf yn rhai pryderus. Be鈥 fyddai鈥檔 digwydd os na fyddai Cymru Fyw yn llwyddo? Beth os fyddai neb yn ei defnyddio? Ond, mae鈥檔 rhaid rhoi cyfle i unrhyw wasanaeth newydd ffeindio鈥檌 draed ac, er mawr ryddhad, fe gododd y nifer o bobl oedd yn defnyddio鈥檙 gwasanaeth.
Fe ddyblodd nifer y defnyddwyr o 10,000 yr wythnos i 20,000 ac, ymhen amser, fe ddyblodd hynny eto i 40,000. Erbyn heddiw, dwi ar ddeall fod gan Cymru Fyw tua 50,000 o ddefnyddwyr unigryw wythnosol.
Mae hynny鈥檔 ffigwr rhyfeddol, ac mae鈥檙 timau cynhyrchu sy鈥檔 cynnal y gwasanaeth o ddydd i ddydd, o awr i awr, yn haeddu clod am hynny. Oes unrhyw wasanaeth arall yn y 成人快手 sy鈥檔 gallu dweud bod eu cynulleidfa wedi tyfu bum gwaith yn fwy mewn 10 mlynedd?
Her cystadlu gyda Saesneg ar y we
Roedd her fawr arall yn ein hwynebu wrth sefydlu Cymru Fyw, fel pob gwasanaeth ar-lein Cymraeg, sef bod llawer o siaradwyr Cymraeg wedi arfer 芒 defnyddio鈥檙 we yn Saesneg.
Wrth i鈥檙 we dyfu a thyfu, roedd 鈥榥a berygl i鈥檙 Gymraeg fynd ar goll yn anferthedd y platfform byd eang. Roedd cynnwys Saesneg gymaint yn haws i ddod o hyd iddo, a pheiriannau chwilio yn ffafrio ieithoedd mwy poblog, a hynny ar draul ieithoedd lleiafrifol.
O ganlyniad, roedd llawer o siaradwyr Cymraeg yn dueddol o ddefnyddio鈥檙 we yn Saesneg, ac roedd hynny鈥檔 risg go iawn i鈥檙 iaith, ac yn parhau i fod heddiw.
Hybu'r defnydd o'r we yn y Gymraeg
Fe ddywedodd John F Kennedy unwaith bod 鈥渓lanw uchel yn codi鈥檙 cychod i gyd鈥. Mae鈥檔 ymadrodd roedden ni鈥檔 defnyddio鈥檔 aml yn nyddiau cynnar Cymru Fyw i gyfleu鈥檙 syniad bod gan y gwasanaeth bwrpas ehangach.
Rhan o鈥檙 her i ni oedd nid yn unig i drio codi鈥檙 defnydd o Cymru Fyw, ond hefyd hybu鈥檙 defnydd o鈥檙 we yn Gymraeg, a thrio bod yn gatalydd i鈥檙 newid diwylliannol hwnnw.
Roedden ni鈥檔 cydnabod bod Cymru Fyw yn rhan o ddarlun llawer ehangach, a bod gwasanaethau eraill fel , , cyfryngau cymdeithasol (fel Facebook, X ac Instagram), a鈥檙 cannoedd o wefannau eraill Cymraeg, i gyd yn rhan o鈥檙 tirlun yma. Dyna pam bod Cymru Fyw wastad wedi rhoi pwyslais ar dynnu sylw defnyddwyr at gynnwys Cymraeg sydd ar wefannau eraill, tu hwnt i鈥檙 成人快手.
Yn 2018 鈥榥es i adael y 成人快手 er mwyn dilyn cyfeiriad gwahanol, felly o bellter ydw i鈥檔 gweld pethau erbyn hyn. Fel defnyddiwr dwi鈥檔 troi at Cymru Fyw sawl gwaith bob dydd, i wybod be鈥 sy鈥檔 digwydd yng Nghymru.
Ac wrth edrych ymlaen i鈥檙 10 mlynedd nesaf, mi fydd llwyddiant Cymru Fyw yn dibynnu i raddau ar ei gallu i addasu ac arloesi, ar y gefnogaeth y bydd yn parhau i'w derbyn, ac ar ei pharodrwydd i fentro ac efallai i wneud ambell i gamgymeriad ar hyd y ffordd.
Mae 鈥榥a gyfnod cyffrous o flaen Cymru Fyw - gobeithio鈥檔 wir geith hi gyfle i hwylio鈥檔 rhydd, a bydd y llanw yn parhau i godi.