成人快手

Gething i roi dros 拢31,000 o'i ymgyrch i'r Blaid Lafur

Vaughan Gething
  • Cyhoeddwyd

Bydd mwy na 拢31,600 o arian ymgyrch arweinyddiaeth Gething yn cael ei roi i'r Blaid Lafur, medd ffynhonnell o'i ymgyrch wrth 成人快手 Cymru.

Fe dderbyniodd Vaughan Gething 拢251,600 yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i ddod yn brif weinidog.

Roedd hyn yn cynnwys 拢200,000 gan gwmni oedd yn cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Mae aelodau amlwg o'r Blaid Lafur, gan gynnwys aelod o'r cabinet, Mick Antoniw, wedi rhybuddio鈥檙 blaid i beidio cymryd unrhyw arian a roddwyd gan gwmni y Dauson Environmental Group.

Mae Jeremy Miles, gwrthwynebydd Gething yn y ras arweinyddiaeth, eisoes wedi dweud nad oes ganddo unrhyw arian yn weddill o'r 拢61,000 yr oedd wedi'i godi.

Mae rheolau'r ymgyrch, yn nodi bod yn rhaid i unrhyw roddion ariannol sydd dros ben fynd i'r Blaid Lafur.

'Dim byd ar 么l' yng nghyfrif Miles

Dywed y ffynhonnell o'r ymgyrch mai penderfyniad Llafur Cymru yw sut caiff yr arian ei wario, ond mae Vaughan Gething eisiau i'r arian fynd tuag at raglenni amrywiaeth.

Mae'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi dweud wrth 成人快手 Cymru fod y rhoddion sydd wedi eu trosglwyddo i Lafur yn mynd tuag at y blaid yn ganolog, yn hytrach na Llafur Cymru.

Wrth siarad ar raglenni'r 成人快手 fore Iau, fe wnaeth Mr Miles gadarnhau ei fod wedi ffeilio ei gyfrifon, ac mai'r dyddiad cau ar gyfer hynny oedd dydd Iau.

"Does dim byd ar 么l yn fy nghyfrif," dywedodd.

Mae cofnodion y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod Mr Gething wedi derbyn dwy rodd o 拢100,000 gan Dauson Environmental Group, y naill yn Rhagfyr a'r llall yn Ionawr.

Roedd hefyd wedi derbyn 拢25,000 gan gwmni tacsi Veezu, 拢21,600 gan Jeanne Marie Davies a 拢5,000 gan Christopher Lyon.

Dywedodd ffynhonnell o'r ymgyrch: "Yn sgil dyddiau cau dychwelyd ffurflenni'r etholiad rydym yn gallu cadarnhau fod yna 拢31,636 yn weddill.

Bydd y blaid a th卯m yr ymgyrch yn gwneud y trefniadau angenrheidiol er mwyn trosglwyddo'r arian."

Pynciau cysylltiedig