成人快手

Strade: RT Davies yn 'bryderus' am fyw yn lleol

Gwesty'r Strade
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl y bydd dros 200 o geiswyr lloches yn aros mewn 77 o ystafelloedd yng Ngwesty'r Strade

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y byddai鈥檔 pryderu petai鈥檔 byw mewn rhan o Sir Gaerfyrddin ble mae bwriad i gartrefu cannoedd o geiswyr lloches.

Bwriad y Swyddfa Gartref yw cartrefu hyd at 207 o geiswyr lloches yng Ngwesty'r Strade yn ardal Ffwrnais, Llanelli o ddechrau Gorffennaf.

Mewn cyfweliad gyda 成人快手 Cymru, dywedodd y byddai'r diffyg gwybodaeth swyddogol gan ei blaid ei hun yn ei bryderu pe bai'n byw yna.

Mae鈥檙 Aelod o'r Senedd dros Lanelli, hefyd wedi dweud ei fod yn bryderus o鈥檙 diffyg gwybodaeth sydd ar gael, a'i fod hefyd yn poeni am bresenoldeb grwpiau asgell dde eithafol, sydd yn creu tensiwn yn Llanelli.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Andrew RT Davies yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

'Wrth gwrs y byddwn i鈥檔 poeni'

Wrth siarad ar raglen Wales Live, dywedodd Andrew RT Davies: "Wrth gwrs byddwn i'n poeni os oes rhywbeth yn digwydd yn fy nghymuned leol, pe bawn i'n byw yn Ffwrnais, ac nad ydw i wedi cael gwybodaeth amdano...

"Ac yn y pen draw, fydden i ddim am weld hyn yn digwydd mewn gwesty sy鈥檔 darparu cyflogaeth a chyfleusterau lleol.

"Ond allwch chi ddim ysgaru oddi wrth y darlun cenedlaethol sef y cynnydd amlwg yn nifer y bobl sy'n croesi鈥檙 sianel.

鈥淩haid i ni wneud yn si诺r, cyn lleoli pobl, fod caniat芒d trigolion lleol wedi ei geisio, bod gwybodaeth yn cael ei darparu i drigolion lleol, ac nad yw pobl yn cael eu gorfodi ar gymunedau oherwydd mae hynny鈥檔 annerbyniol.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lee Waters, AS Llanelli wedi mynegi pryder am bresenoldeb grwpiau asgell dde eithafol yn yr ardal

Yn ogystal 芒鈥檙 cynllun i gartrefu 207 o geiswyr lloches yn Ffwrnais, mae cynlluniau hefyd i gartrefu 400 o geiswyr lloches ar safle yn Sir y Fflint.

Yn 么l y Swyddfa Gartref, mae鈥檙 cynlluniau yn angenrheidiol gan fod mwy na 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ar gost o 拢6m y diwrnod i drethdalwyr.