成人快手

Cymraes yn rownd derfynol Canwr y Byd

Jess Robinson yn canu yn y rownd gynderfynol Cwpan y Byd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jessica Robinson yn perfformio yn rownd gynderfynol Canwr y Byd

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf mewn 38 o flynyddoedd, bydd Cymraes yn ymddangos ar lwyfan rownd derfynol cystadleuaeth Canwr y Byd.

Jessica Robinson, soprano 32 oed o Landysilio yn Sir Benfro, fydd yn cynrychioli Cymru ar 么l bod yn fuddugol mewn rownd gynderfynol a gynhaliwyd nos Lun.

Cyhoeddir enw enillydd cystadleuaeth Canwr y Byd nos Sul gyda chynrychiolwyr o鈥檙 Alban, dwy o Dde Affrica, yr Eidal a Chymru yn cystadlu am y tlws a gwobr ariannol o 拢20,000.

Yn y gorffennol, bu鈥檔 fan cychwyn allweddol i yrfaoedd rhai o s锚r opera mwyaf y byd, gan gynnwys Syr Bryn Terfel, ac eleni mae鈥檙 gystadleuaeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed.

Disgrifiad,

Sgwrs gyda Jessica Robinson am ei thaith i gystadleuaeth Canwr y Byd 2023

'Wedd rhywbeth yn wahanol yn Jess'

Mae cyn-athrawes ganu Jessica, Eilyr Thomas o Landysilio, yn ei chofio鈥檔 iawn yn dod ati am wersi canu.

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, bu鈥檔 dweud sut y daeth Jessica ati yn bum mlwydd oed am wersi.

鈥淲edd rhywbeth yn wahanol yn Jess", meddai.

"Wedd ansawdd yn ei llais hi. Wedd rhyw wytnwch 鈥榥a a wedd hi鈥檔 benderfynol o wneud popeth yn iawn.

"Wedd dim ifs na buts yn y cwestiwn o gwbl, a wedd hi o hyd yn serchog.鈥

Ffynhonnell y llun, Eilyr Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jess a'i hathrawes Eilyr Thomas, fu'n ei dysgu pan yn blentyn

'Fel potel bop, yn llawn fizz'

Drwy鈥檙 Clwb ffermwyr Ifanc yng Nghlunderwen y daeth Shan Griffiths i adnabod Jess yn iawn a gweld sut gallai droi ei llaw at sawl peth.

"Roedd hi鈥檔 Steddfod, barnu stoc, tynnu rhaff - a chynrychioli Cymru yn y gamp honno - drama, pantomeim, arwain c么r y clwb a caligraffi cain.

"Roedd ei dawn hi ym mhob math o feysydd.

"Enillodd hi鈥檙 unawd dan 26 saith gwaith, ac unawd sioe gerdd dair gwaith.鈥

Ffynhonnell y llun, Jessica Robinson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jessica yn cystadlu yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2016

'Jess yw鈥檙 topic yn bobman'

Mae Eilyr Thomas yn falch iawn o lwyddiant ei chyn-ddisgybl.

"Beth dwi wedi syfrdanu yw ma鈥檙 ardal i gyd yn ymfalch茂o yn llwyddiant Jess.

"Lle bynnag ewch chi yn Llandysilio, Clunderwen, Jess yw鈥檙 topic yn bob man."

Ffynhonnell y llun, Shan Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jess a'i g诺r Dyfed ar ddiwrnod eu priodas, gyda Shan Griffiths

Adref yn gwylio鈥檙 gystadleuaeth ar y teledu fydd Shan, ond llwyddodd Eilyr i gael tocyn ar gyfer y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant.

鈥淔yddai鈥檔 eistedd yn y neuadd ac yn clapio dwylo gyment gallai", meddai.

"Mae Jess yn berson sy鈥檔 llawn brwdfrydedd ac yn berson hapus iawn, iawn ac mae hynny yn beth mawr pan bo chi yn gorfod brwydro am eich bywoliaeth ym myd cerdd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tlws Canwr y Byd

Ymgeisiodd dros 500 o gantorion am y gystadleuaeth eleni, ond dim ond 16 gyrhaeddodd y rowndiau cynderfynol yng Nghaerdydd.

Bydd tair gwobr yn cael eu dyfarnu yn y rownd derfynol nos Sul:

  • 成人快手 Canwr y Byd Caerdydd yn cael Tlws Caerdydd a 拢20,000

  • Tlws Gwobr y G芒n 成人快手 Canwr y Byd Caerdydd a 拢10,000

  • Gwobr Cynulleidfa鈥檙 Fonesig Kiri Te Kanawa, 拢2,500 a thlws grisial.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwobr Cynulleidfa鈥檙 Fonesig Kiri Te Kanawa

Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru fydd Cadeirydd y rheithgor am y brif wobr, a bydd dwy gerddorfa yn cyfeilio i鈥檙 cystadleuwyr - Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 成人快手 a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Bydd Jessica yn cystadlu am ddwy wobr nos Sul, sef y Brif Wobr a Gwobr y Gynulleidfa.

O ran y cantorion Cymreig sydd wedi ymddangos yn y rownd derfynol yn y gorffennol, ym 1987 fe gyrhaeddodd y soprano Ann Williams King, Syr Bryn Terfel ym 1989, a鈥檙 tenor Gwyn Hughes Jones oedd y diwethaf yn 1997.

Bellach, gallwn ychwanegu enw Jessica at y rhestr hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Jessica Robinson

Pynciau cysylltiedig