Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Mali H芒f
Tro Mali H芒f yw hi'r wythnos hon i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Cerddor a chantores o Gaerdydd yw Mali, sy'n bennaf yn creu cerddoriaeth pop electronig.
Ym mis Tachwedd mi ryddhaodd hi ei EP diweddaraf, 'Jig-So'.
Mae'r cyfnod diweddaraf wedi bod yn un prysur i Mali sydd wrthi'n ysgrifennu deunydd newydd gan gynnwys newydd o'r enw Esgusodion.
Bydd Mali hefyd yn ymddangos ar y prif lwyfan ar ddydd Sul g诺yl Tafwyl.
Beth ydi dy atgof cynta?
Fy mhen-blwydd yn bedair oed.
Rhedes i mas i鈥檙 ardd yn droednoeth i gael munud i fy hun achos roedd y syniad o fod yn 4 mor anhygoel.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
T欧 Mamgu a Dadcu yn Llanfarian ger Aberystwyth.
Wy鈥檔 caru eistedd lle oedd Dadcu yn arfer eistedd ac edrych allan ar wyrddni dyffryn yr Ystwyth.
Pan o鈥檔 i yn blentyn o Gaerdydd roedd e鈥檔 teimlo mor wahanol - yr adar, y coed, y m么r a hen fferm Dad, Tynrhelyg, jyst lawr y rhewl.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Melys, chwareus a charedig.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Pan o鈥檔 i'n 11 mlwydd oed roeddwn yn actio gyda phlant eraill mewn cynhyrchiad yr Urdd o 鈥榬 sioe gerdd Annie.
Fy rhan i oedd yr Arlywydd Franklin D Roosevelt a oedd mewn cadair olwyn.
Collais i fy nghiw, felly roedd yn rhaid rholio fy nghadair olwyn fy hun ymlaen i鈥檙 llwyfan ac wedyn eistedd lawr - ar y pryd ro鈥檔 i 鈥榥 hapus i gael chwerthiniad o鈥檙 gynulleidfa.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gormod i s么n amdano.
Un bach oedd y cyfweliad mwya' byr erioed - ar y teledu ar 么l g诺yl Triban.
Cyflwynydd: "Mali sut wnes ti fwynhau y perfformiad yna?"
Fi: "Diolch!" (a cerdded ffwrdd, camddealltwriaeth wrth gwrs!)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Yr ateb braidd yn boring yw pan o鈥檔 i yn gwylio'r rhaglen realiti I Kissed a Girl a gwrando ar ddwy ferch yn dweud wrth ei gilydd cymaint o鈥檔 nhw鈥檔 caru ei gilydd.
Yr ateb braidd yn od yw, y tro cyn hynny, dechreuais i grio wrth feddwl am y ffaith bod ni methu hedfan, pan o鈥檔 i yn gwisgo ffansi dress pili pala.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun ohonof i a fy chwaer Sioned yn wyth a chwe mlwydd oed mewn gwisgoedd Cymreig ar Ddydd G诺yl Dewi.
Mae e mor ddoniol ac yn symbol o鈥檔 perthynas agos a鈥檙 hiwmor 'da ni yn rhannu.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fel rhywun gyda ADHD rwy鈥檔 dueddol o ddatblygu stims.
Yr un mwyaf diweddar yw chwiban fel tegell neu aderyn - hyd yn oed pan rwy鈥檔 gwylio teledu gyda fy nghariad, fy ffrindiau a fy nheulu, sori pawb!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Llyfr - rhwng His Dark Materials gan Phillip Pullman - o achos y syniad bod pawb gydag anifail fel ffrind sy鈥檔 cynrychioli eu heneidiau neu The Buddha, Geoff and Me gan Edward Canfor-Dumas. Mae syniadau Bwdaidd yn dod yn fyw trwy stori hollol gyffredin.
Ffilm - Matilda, wedi ei weld cymaint o weithie rwy鈥檔 cofio llawer o鈥檙 deialog. Rwy鈥檔 caru鈥檙 neges bod y plentyn yn fwy call na鈥檙 oedolion a鈥檙 ffantasi o gael pwer hudol cyfrinachol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Thich Nhat Hanh, y meistr Zen, i brofi ei ddoethineb. Byse ni yn yfed te gyda llaw.
Frida Khalo y peintiwr Mecsicanaidd - cymaint o gwestiynau i ofyn iddi, a jyst i brofi ei nerth creadigol a phersonol mewnol.
A Bob Marley - mae鈥檔 amlwg pam.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwy鈥檔 casglu hwyaid rwber.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Rhywbeth sy鈥檔 cynnwys dawnsio, bwyd blasus, ffrindiau a theulu. Ac tu fas rhywle gyda golygfeydd hardd gyda fy nghath yn canu grwndi鈥oo a llwyfan ble gallaf wneud fy sioe byw ola!