成人快手

Menter yr Eagles i brynu tafarn yn Llanuwchllyn

Disgrifiad,

"'Da ni'n ofnadwy o ddiolchgar i bawb sydd wedi'n cefnogi ni," meddai Gwenllian Roberts o Fenter yr Eagles

  • Cyhoeddwyd

Mae menter gymunedol yn Llanuwchllyn wedi llwyddo i gyrraedd eu targed ariannol, a bellach yn bwrw ymlaen 芒 chynlluniau i brynu'r dafarn leol.

Fe gyhoeddodd perchnogion tafarn yr Eryrod yn gynharach eleni y byddai'r dafarn yn mynd ar werth - gan sbarduno ymdrech godi arian gan Fenter yr Eagles.

Mae 拢300,000 wedi'i godi mewn cyfranddaliadau, tra bod y fenter hefyd wedi derbyn arian drwy Gronfa Ffyniant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Grisial Llewelyn, cadeirydd y fenter, fod hon wedi bod yn "ymdrech aruthrol" sy'n dangos beth yw "grym a gwerth cymuned".

Bwriad y fenter yw prynu'r dafarn gan Eleri a Meirion Pugh, sydd wedi bod yn berchnogion am dros 20 mlynedd.

Mae tenant eisoes wedi ei ddewis i redeg y dafarn, y siop a'r bwyty ar ran y gymuned - a'r gobaith yw y bydd y tenant newydd yno erbyn y Nadolig.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth criw o gantorion lleol, gan gynnwys Osian Huw Williams, ryddhau c芒n fel rhan o'r ymdrech i godi arian

Yn ogystal 芒'r arian a gafodd ei godi mewn cyfranddaliadau, dywedodd y fenter eu bod nhw wedi derbyn 拢128,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd.

Cafodd fersiwn Gymraeg o'r g芒n Hotel California gan yr Eagles ei chyhoeddi fel rhan o'r ymdrechion i godi arian hefyd.

'Y cam cyntaf'

Dywedodd Grisial Llewelyn: "Rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan y gefnogaeth a gafwyd gan y gymuned yma yn Llanuwchllyn a gan ffrindiau a sefydliadau o bob rhan o Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn wir y byd.

"Er ein bod wedi sicrhau arian i brynu鈥檙 Eryrod, mae angen gwneud rhywfaint o waith datblygu ar yr adeilad felly rydym yn gadael ein cronfa ar agor i鈥檙 rhai nad oeddent am brynu cyfranddaliad ond a allai fod eisiau cefnogi ein menter.

"Rydym hefyd yn awyddus iawn i bwysleisio pa mor uchelgeisiol ydyn ni... gwelwn bryniant yr Eryrod fel y cam cyntaf tuag at gyflawni nifer o brosiectau a gweithgareddau pellach fydd o fudd i鈥檙 gymuned gyfan, o鈥檙 presennol i鈥檙 dyfodol鈥.

Pynciau cysylltiedig