Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Achosion o'r frech goch yn arwain at rybudd i rieni
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi dweud eu bod yn cysylltu gyda rhieni sydd wedi bod mewn cyswllt gydag achosion o'r frech goch.
Mae'r bwrdd iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio wedi i ddau achos o'r haint ddod i'r amlwg ym Mlaenau Gwent.
Bydd rhieni a gofalwyr plant wnaeth ymweld 芒'r uned frys i blant yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbr芒n dros benwythnos y Pasg yn cael neges i ddweud eu bod wedi bod mewn cyswllt gydag achos o'r frech goch.
Mae'r frech goch (measles) yn afiechyd sy'n lledaenu鈥檔 sydyn ac yn gallu achosi problemau difrifol mewn rhai pobl.
Mae rhieni wedi cael eu rhybuddio i frechu eu plant, gyda'r brechiad MMR yn cael ei ystyried yn hynod effeithiol a diogel gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Beverly Griggs o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod "achosion o'r frech goch yn cynyddu yn y DU, a dylai plant dderbyn dau ddos o MMR i roi'r amddiffyniad gorau iddynt yn erbyn y frech goch".
Ychwanegodd nad oes angen i rieni wneud unrhyw beth os nad ydyn nhw wedi derbyn neges sy'n dweud yn wahanol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i rieni ffonio eu meddyg teulu neu uned frys cyn mynd 芒 phlentyn sydd 芒 thwymyn a brech yno, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael eu hynysu oddi wrth eraill.