成人快手

Pledio'n ddieuog i lofruddio dosbarthwr parseli

Mark LangFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Mark Lang, 54, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 15 Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Aberd芒r wedi pledio'n ddieuog i lofruddio dosbarthwr parseli yng Nghaerdydd ddiwedd mis Mawrth.

Bu farw Mark Lang, 54, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 15 Ebrill, dros bythefnos wedi iddo gael ei lusgo o dan ei fan cludo parseli.

Yn Llys y Goron Merthyr fe wnaeth Christopher Elgifari hefyd wadu cyhuddiad o ladrata.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'w achos ddechrau ddiwedd Medi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Christopher Elgifari yn cael ei dywys i'r llys ddydd Iau

Clywodd cwest i farwolaeth Mr Lang, o ardal Cyncoed, ei fod wedi marw o anafiadau i'w ymennydd ac ataliad trawmatig ar y galon.

Roedd hefyd wedi dioddef anafiadau difrifol i'w gorff yn y digwyddiad ar 28 Mawrth.

Pynciau cysylltiedig