成人快手

Cerydd i weinidog am drydar am 'blant yn cael eu lladd'

Mick AntoniwFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mr Antoniw wedi cyfaddef bod y trydariad yn sarhaus ac yn amhriodol

  • Cyhoeddwyd

Bydd un o uwch wleidyddion Llywodraeth Cymru yn cael ei geryddu am drydar fod y "Tor茂aid mor hapus i weld pobl ac yn enwedig plant yn cael eu lladd a鈥檜 hanafu ar ein ffyrdd鈥.

Mae aelodau Pwyllgor Safonau鈥檙 Senedd yn dweud y dylai'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw gael ei geryddu gan Senedd Cymru am ymddygiad sy鈥檔 disgyn yn is na鈥檙 safonau disgwyliedig.

Ond wnaethon nhw ddim argymell y gosb fwy difrifol o waharddiad dros dro gan y sefydliad ym Mae Caerdydd.

Mae Mr Antoniw, prif gynghorydd cyfreithiol y llywodraeth Lafur, wedi cyfaddef bod ei sylwadau yn sarhaus ac yn amhriodol ac wedi eu dileu yn fuan ar 么l iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

Ar 16 Medi y llynedd rhannodd Mr Antoniw neges ar ei gyfrif X: 鈥淭or茂aid mor hapus i weld pobl ac yn enwedig plant yn cael eu lladd a'u hanafu ar ein ffyrdd. Cwbl anghyfrifol ond ddim yn syndod".

Gwnaethpwyd hynny yng nghyd-destun y ddadl am y terfyn cyflymder 20mya newydd a dadleuol ar ffyrdd cyfyngedig.

Cafodd y trydariad ei wneud mewn ymateb i un gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew R T Davies, oedd yn cynnwys llun o dudalen flaen papur newydd lle disgrifiwyd y terfyn cyflymder fel un 鈥渨allgof鈥.

Cwynodd cydweithiwr Tor茂aidd Mr Davies, Natasha Asghar AS, i鈥檙 Pwyllgor Safonau Ymddygiad fod y trydariad yn 鈥渉ollol amhriodol, 鈥 hynod sarhaus a chwbl ddiangen鈥 ac yn torri鈥檙 Cod Ymddygiad.

'Gosod esiampl wael iawn'

Mae Comisiynydd Safonau鈥檙 Senedd, Douglas Bain, yn nodi yn ei adroddiad fod 鈥渟ylwadau sarhaus o鈥檙 math yna am nifer fawr o鈥檙 etholwyr, nid yn unig yn sarhaus, ond gallent ddwyn anfri ar y Senedd鈥.

鈥淲rth eu gwneud gosododd yr aelod, sy鈥檔 uwch wleidydd, esiampl wael iawn, gan ddangos diffyg crebwyll ac arweinyddiaeth."

Dywedodd y Pwyllgor Safonau ei fod yn "cytuno 芒 barn y comisiynydd am y sylwadau a'u goblygiadau".

Dywedodd Mr Antoniw wrth y comisiynydd safonau ei fod, wrth ddefnyddio'r gair "hapus" yn bwriadu cyfleu bod y "Ceidwadwyr Cymreig yn gyffredinol (nid oedd wedi'i gyfeirio at unrhyw unigolyn) yn fodlon gwrthwynebu polisi oedd 芒'r nod o achub bywydau.

"Doeddwn i ddim yn defnyddio 鈥榟apus鈥 yn yr ystyr y byddai unrhyw un yn bersonol yn cael pleser o weld plant yn cael eu hanafu neu eu lladd ar ein ffyrdd," meddai.

Yn ystod Cwestiynau鈥檙 Prif Weinidog yr wythnos ar 么l y trydariad, gofynnodd Andrew RT Davies i鈥檙 Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, a oedd yn cytuno ei bod yn 鈥渋aith annerbyniol i鈥檞 defnyddio wrth geisio cymryd rhan mewn dadl ar bolisi y mae gennym anghytundeb yn ei gylch鈥.

Atebodd Mr Drakeford: "Tynnodd y cwnsler cyffredinol y neges i lawr ar unwaith ac mae wedi cydnabod ers hynny na fyddai wedi ei fynegi yn y modd hwnnw pe bai wedi bod mewn sefyllfa i roi ystyriaeth bellach iddo".

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Natasha Asghar fod y trydariad yn "sarhaus iawn"

Dywedodd y Pwyllgor Safonau fod "achos o dorri'r Cod Ymddygiad gan unrhyw Aelod o鈥檙 Senedd yn fater difrifol ym marn y pwyllgor. Mae enw da Senedd Cymru, a ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad, yn dibynnu ar allu'r aelodau i ddangos uniondeb ac arweiniad drwy eu gweithredoedd".

Ychwanegodd: "Mae defnydd o鈥檙 cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn fwyfwy cyffredin ymhlith cynrychiolwyr etholedig ac yn ddull pwysig o gyfathrebu a dadlau.

"Fodd bynnag, mae hefyd yn cyflwyno heriau i'r aelodau, o ystyried natur y rhyngweithio a'r potensial i鈥檞 camddefnyddio.

"Dylai aelodau wneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn parhau i ymgorffori'r egwyddorion arweinyddiaeth wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol."

Bydd Aelod o'r Senedd Pontypridd yn wynebu'r cynnig o gerydd yn Senedd Cymru ddydd Mercher nesaf 鈥 cynnig sy鈥檔 annhebygol o gael ei wrthwynebu.