Lluniau ffug 'ofnadwy' o Alex Jones fel hysbyseb ar WalesOnline
- Cyhoeddwyd
Mae cyhoeddwr digidol wedi ei feirniadu am gynnwys hysbysebion gyda lluniau "ofnadwy" o'r cyflwynydd teledu Alex Jones a'r Canghellor.
Fe welodd defnyddwyr ap WalesOnline, sy'n cael ei weithredu gan gwmni Reach, luniau wedi eu creu gan ddeallusrwydd artiffisial o Rachel Reeves a Ms Jones gyda gwaed a chleisiau ar eu hwynebau.
Wrth glicio ar y lluniau, roedd yr hysbysebion yn tywys y darllenwyr i erthyglau oedd wedi'u dylunio i edrych fel safle Newyddion 成人快手, ond oedd yn hyrwyddo arian digidol crypto.
Mae Reach wedi cael cais am ymateb.
Mae Reach, y cwmni cyhoeddi mwyaf yn y DU ac Iwerddon, yn gyfrifol am rai o frandiau mwyaf adnabyddus y diwydiant newyddion - gan gynnwys y Mirror a'r Express.
Mae gweithrediadau Cymreig Reach yn cynnwys WalesOnline a phapurau fel y Western Mail a'r South Wales Evening Post.
Fe ymddangosodd y lluniau ffug o Alex Jones a Rachel Reeves ymysg erthyglau go iawn ar ap WalesOnline.
Roedd darllenwyr a oedd yn gwasgu ar y lluniau yn cael eu tywys i erthygl ffug oedd wedi'i ddylunio i edrych fel safle Newyddion 成人快手, a oedd yn hyrwyddo cryptoarian.
'Croesi'r llinell'
Mae'r aelod cabinet ar gyfer diwylliant i Gyngor Caerdydd, Jennifer Burke-Davies, wedi dweud bod yr hysbysebion yn "ofnadwy".
Wrth ysgrifennu ar X, dywedodd Ms Burke-Davies: "Oes gan Reach neu WalesOnline gyfrifoldeb i wirio'r hyn sy'n cael eu harddangos fel hysbysebion ar eu platfformau? Mae'r math yma o luniau yn croesi'r llinell."
Dywedodd defnyddiwr arall ar X fod yr hysbysebion yn "dystopaidd" a "sothach".
Mae Alex Jones a'r Canghellor wedi cael cais i ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Medi