成人快手

Dynes feichiog 'yn ofnus' wrth i uned famolaeth gau

Georgia Louise EdwardsFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Georgia Louise Edwards "mewn panig llwyr" ynghylch lle y bydd yn geni ei babi

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes sy'n feichiog am y tro cyntaf yn dweud ei bod "mewn panig llwyr" am nad nad ydi hi'n gwybod lle y bydd hi'n geni ei babi wrth i uned famolaeth gau ar gyfer gwaith adnewyddu.

Mae unedau mamolaeth a newydd-anedig Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau am 12 wythnos 鈥渁r gyfer gwaith adnewyddu hanfodol".

Dywedodd Georgia Louise Edwards, o Faesteg, ei bod wedi clywed am yr adrannau'n cau ar Facebook, ac nad oedd staff yr ysbyty wedi gallu rhoi atebion iddi am gynllun arall.

鈥淒wi'n teimlo 'mod i'n cyfri'r dyddiau i gwrdd 芒 fy mab, ond 'dwi hefyd yn cyfri'r dyddiau i鈥檙 panig o beidio gwybod lle fyddai'n mynd,鈥 meddai.

鈥淔e wnes i ddarganfod drwy Facebook mewn gwirionedd... roedd pobl 'dwi'n 'nabod wedi rhannu'r neges, wnes i ddim hyd yn oed cael gwybod gan yr ysbyty.

鈥淩oedd yn frawychus iawn, ro'n i wedi dychryn [ac] mewn panig llwyr.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n mynd i fod yn achos o ffonio o gwmpas a gweld lle sydd ar gael tra mod i ar fin cael y babi," meddai Georgia

Mae disgwyl i fab Georgia gael ei eni ar 11 Tachwedd a dywedodd y fenyw 24 oed bod yn "rhaid i mi aros wedyn am fy apwyntiad gyda'r fydwraig, ond doedden nhw eu hunain ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd, do'n nhw methu rhoi unrhyw atebion.

鈥淒ywedon nhw y gallai Abertawe fod yn opsiwn, neu Ferthyr Tudful, ond mae'r rheiny o leiaf awr i ffwrdd.鈥

Mewn datganiad oedd yn egluro y byddai'r adrannau'n cau dros dro, dywedodd Bwrdd Cwm Taf Morgannwg y bydd y prosiect 拢1m 鈥測n sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig gofal diogel ac effeithiol i鈥檔 teuluoedd鈥.

Ychwanegodd: 鈥淥s ydych chi, neu'ch anwyliaid, yn cael babi yn ystod y cyfnod hwn, byddwch chi eisoes wedi trafod gyda鈥檆h bydwraig gymunedol, ac wedi penderfynu lle bydd eich genedigaeth yn digwydd.鈥

Mae ysbytai eraill yr ardal yn cynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, Ysbyty Singleton yn Abertawe, neu Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, gyda'r bwrdd iechyd yn gofyn i bobl gadarnhau eu dewis erbyn 36 wythnos o feichiogrwydd.

Dywedodd Ms Edwards fod meddyg wedi dweud wrthi yn ystod apwyntiad ei fod o ond wedi cael gwybod tua wyth wythnos o flaen llaw ble y byddai'n gweithio tra bod yr adrannau yn cael eu hadnewyddu.

Dywedodd Ms Edwards mai ei dewis delfrydol fyddai mynd i Ganolfan Geni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Rhondda Cynon Taf,聽ond bod llawer o feini prawf er mwyn cymhwyso i fynd yna, a dim ond tri gwely oedd ganddyn nhw.

鈥淒oes gen i ddim cynllun yn ei le ar hyn o bryd. Maen nhw wedi dweud wrtha i am ddewis ysbyty a gobeithio am y gorau.

"Mae'n mynd i fod yn achos o ffonio o gwmpas a gweld lle sydd ar gael tra 'mod i ar fin cael y babi," meddai.

'Angen mwy o drefn'

Ychwanegodd ei bod yn teimlo bod "angen cynllun fwy penodol" a "llawer mwy o drefn".

Dywedodd nad oedd ei phartner yn gyrru, felly byddai'n rhaid i un o'i rhieni fynd 芒 hi i'r ysbyty.

Mae'n bosib y bydd ei rhieni'n gweithio ar y pryd a byddai mynd i ysbyty pellach yn ychwanegu at yr amser.

鈥淎r y pwynt yma, dwi鈥檔 meddwl bydd rhaid i mi yrru fy hun,鈥 meddai.

Mae Cwm Taf Morgannwg wedi cael cais am sylw.