'Popeth o fewn ein gallu' i adfer pwll glo Ffos-y-Fran
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid yng Nghyngor Merthyr Tudful wedi dweud eu bod yn gwneud "popeth y gallwn" i sicrhau fod pwll glo brig mwya鈥檙 Deyrnas Unedig yn cael ei adfer.
Mae鈥檙 cwmni sy鈥檔 rhedeg pwll glo Ffos-y-Fran wedi rhybuddio nad oes digon o arian wedi鈥檌 neilltuo i wella'r safle yn iawn fel y cafodd ei gytuno yn 2007.
Dywedodd un o swyddogion y cyngor wrth yr ymchwiliad yn y Senedd y gallai newidiadau i'r cynlluniau sydd wedi eu cynnig arwain at "gynllun gwell".
Fe wnaeth y cyngor anfon panel o chwech i amddiffyn y goruchwyliaeth o'r pwll glo, ar 么l gwrthod, i ddechrau, wahoddiad pwyllgor yr amgylchedd.
Trydydd cam y rhaglen
Mae Ffos-y-Fran yn cael ei ddisgrifio fel "cynllun adennill tir".
Y bwriad oedd troi鈥檙 safle anferth sy'n agos at gartrefi a busnesau ym Merthyr Tudful yn gaeau gwyrdd er budd y gymuned.
Dywedodd arweinydd cyngor Merthyr Tudful, Geraint Thomas, wrth ASau mai hwn oedd trydydd cam y rhaglen a ddechreuodd tua diwedd yr 80au i aildirlunio鈥檙 ardal, diwydiannol oedd "fel safle bomio".
Roedd costau adfer wedi'u gosod yn wreiddiol ar 拢15m ond mae hynny wedi cynyddu i rhwng 拢75-120m.
Roedd hynny鈥檔 seiliedig ar symud tair tomen fawr a oedd wedi casglu dros amser yn 么l i鈥檙 twll anferth a gafodd ei greu gan y mwyngloddio.
Ers i fwyngloddio ddod i ben ym mis Tachwedd 2023, mae trigolion lleol wedi codi pryderon bod y pwll yn llenwi 芒 d诺r, gan bryderu y gallen nhw gael eu gadael 芒 llyn a allai fod yn 鈥渂eryglus鈥 a 鈥渓lygredig鈥.
Mae'r cwmni sydd wedi rhedeg y safle ers 2015 - Merthyr (South Wales) Ltd - yn gweithio ar gynllun adfer diwygiedig i'w gyflwyno i'r cyngor i'w ystyried.
Roedd gweithredoedd y cwmni eisoes yn ddadleuol, ar 么l iddyn nhw barhau i gloddio am dros flwyddyn wedi i'r caniat芒d cynllunio ddod i ben - hynny cyn iddo gau ym mis Tachwedd 2023 a diswyddo 115 o staff.
Dywedodd David Cross, prif swyddog cynllunio Cyngor Merthyr Tudful, fod y cwmni'n bwriadu defnyddio'r 拢15m yr oedd wedi'i dalu i mewn i gyfrif banc sydd gan y cyngor.
Roedd y cyfrif wedi鈥檌 sefydlu i sicrhau bod rhywfaint o arian y cwmni鈥檔 cael ei ddiogelu ar gyfer y gwaith adfer, ond nid oedd o reidrwydd wedi鈥檌 fwriadu i fod yn ddigon i dalu鈥檙 costau cyfan.
"Maen nhw nawr yn edrych ar adfer y safle (gan ddefnyddio) y gronfa honno ... mae'n amlwg y byddai'n hollol wahanol i'r hyn a gytunwyd yn wreiddiol," meddai.
Pan ofynnwyd iddo a oedd y cyngor yn bryderus y gallai'r cwmni adael y safle, dywedodd Mr Cross eu bod mewn trafodaethau "eithaf cynhyrchiol" dros waith adfer yn y dyfodol.
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2023
Roedd disgwyl cynllun newydd ym mis Tachwedd, ac yn y cyfamser gallai gwaith adfer interim weld 54 hectar arall o dir i鈥檙 gorllewin o鈥檙 gwagle mawr yn cael ei atgyweirio.
"Gallai ailystyried yr adferiad ynddo'i hun gyflwyno cyfleoedd i gael cynllun gwell," meddai Mr Cross.
"Mae yna gyfle i gyflwyno elfennau a allai fod yn fwy ecolegol," ychwanegodd.
Dywedodd prif weithredwr y cyngor Ellis Cooper bod y cyngor wedi gwneud "popeth y gallwn... o ran ceisio delio 芒'r sefyllfa o'n blaenau".
Dywedodd swyddogion y cyngor wrth y pwyllgor eu bod ar ddeall y byddai'r cynigion adfer newydd yn cynnwys "corff o dd诺r".
Fe wnaeth Carwyn Morris, pennaeth peirianneg Cyngor Merthyr Tudful, gyfaddef fod "llawer o dd诺r o fewn y gwagle" ar hyn o bryd.
Fe wnaeth llythyr at y pwyllgor gan Awdurdod Glo'r DU amcangyfrif fod rhwng 1.4 a 1.7 m3 ar ei fwyaf 鈥 digon o dd诺r i lenwi tua 580 a 680 o byllau nofio maint Olympaidd.
Ond dywedodd Mr Morris hyd yn oed bryd hynny dim ond 10% o'r gwagle oedd hyn yn ei lenwi ac y byddai angen codi 55m arall cyn dod dros ymyl y pwll glo.
Dywedodd fod lefelau d诺r wedi disgyn ers hynny, a doedd dim perygl o lifogydd ar unrhyw adeg.
Fe wnaeth Merthyr (South Wales) Ltd wrthod gwahoddiad i ymddangos ger bron pwyllgor y Senedd ond anfonodd lythyr yn dweud bod lefelau d诺r yn y pwll yn cael eu monitro鈥檔 rheolaidd o dan arweiniad arbenigol.
Dywedodd y cwmni y byddai'n "amhriodol gwneud sylw pellach" ar y cynlluniau adfer cyn iddyn nhw gael eu cwblhau a'u cyflwyno i gyngor Merthyr Tudful i'w hystyried.