成人快手

'Mynd i ganolfan chwarae yn dr卯t oherwydd costau byw'

Canolfan chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog canolfan chwarae yn dweud mai "goroesi" mae'r busnes, gyda chostau'n cynyddu a phobl yn gwario llai yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae'r argyfwng wedi'i gwneud hi'n anodd i rieni gyda phlant ifanc yn enwedig, gyda chost dyddiau allan a gweithgareddau yn gallu bod yn sylweddol.

Dywedodd Jason Vann, sy'n rhedeg y canolfan chwarae Planet Play gyda'i wraig yn Nhowyn, Sir Conwy, fod hyn yn cael sgil-effaith ar fusnesau ond bod yn rhaid dod o hyd i ffyrdd i helpu teuluoedd.

Ers symud ei fusnes i Dowyn o'r Rhyl tair blynedd yn 么l, mae Mr Vann yn dweud fod Planet Play wedi cael enw da yn yr ardal am gynnig adloniant cost-effeithiol i blant ifanc.

I ddenu mwy o deuluoedd, mae'r safle yn cynnig mynediad a chinio i blant am 拢8.50, yn ogystal 芒 chynlluniau talu "hyblyg" ar gyfer achlysuron fel part茂on pen-blwydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"'Da ni'n gweld pobl oedd yn arfer dod yma'n rheolaidd yn gwneud o fwy fel tr卯t y dyddiau yma," meddai Jason Vann

"'Da ni'n trio cadw'r prisiau mor isel 芒 phosib, oherwydd 'da ni'n deall y pwysau sydd ar rieni - yn enwedig rhieni sydd 芒 mwy nag un plentyn," meddai Mr Vann.

"Mae tripiau a gweithgareddau i deulu o bedwar, er enghraifft, yn gallu bod yn hynod o ddrud a 'da ni'n trio cynnig opsiwn sydd ddim yn torri'r banc.

"'Da ni'n gweld pobl oedd yn arfer dod yma'n rheolaidd yn gwneud o fwy fel tr卯t y dyddiau yma.

"'Da ni'n cael llawer o deuluoedd mawr yn dod oherwydd bo' nhw'n gwybod eu bod nhw'n gallu aros am mor hir 芒 maen nhw isio, a bod eu plant yn cael rhywbeth i fwyta hefyd. Mae'n ddigon iddyn nhw am y diwrnod wedyn.

"Mae'r cynnig o chwarae a chinio wedi bod yn boblogaidd iawn. Dyna'r un mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd amdano.

"Mae 'na bwysau ar rieni hefyd pan mae'n dod at bethau fel part茂on pen-blwydd, a dyna pam 'da ni'n cynnig cynlluniau talu sy'n benodol i'r rhiant.

"Maen nhw'n talu deposit o 拢30 o flaen llaw ac wedyn yn talu mewn rhandaliadau mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jason Vann mai "goroesi" mae Planet Play yn Nhowyn

Er bod y cynigion wedi bod yn boblogaidd gyda rhieni, yn 么l Mr Vann mae'n "linell fain rhwng agor a chau" i'r busnes, oherwydd bod costau'n dal i godi.

Mae Planet Play wedi'i leoli mewn hen eglwys, sy'n gostus i gadw'n gynnes yn y gaeaf yn enwedig, meddai, ac mae'n rhaid cwtogi oriau'r ganolfan ar amseroedd distaw er mwyn sicrhau nad yw'n gwneud gormod o golled.

"Dim ond fi a fy ngwraig sy'n gweithio yn y ganolfan. Fedran ni ddim fforddio staff o gwbl a 'da ni methu deall i ddeud y gwir sut y mae rhai canolfannau yn gwneud hynny," meddai Mr Vann.

"'Da ni wedi gweld cymaint o ganolfannau yn cau oherwydd eu bod nhw methu fforddio'r costau.

"Goroesi ydan ni yma. 'Da ni byth am fod yn gyfoethog trwy wneud hyn, ond drwy gario 'mlaen i gyllido a chadw llygad ar y manylion bach, fyddwn ni'n iawn gobeithio."

'Gwerthu fy nghar a fy ngemwaith'

Dywedodd Laura Stokes, 33 o Bontypridd, ei bod hi'n anodd gwneud pethau sy'n hwyl i'w merch pan mae hi i ffwrdd o'i gwaith.

"Mae popeth wedi mynd yn ddrytach a dwi'n gweithio'n rhan amser, felly tra dwi i ffwrdd gyda hi dwi'n hoffi llenwi'r amser 芒 phethau hwyl i'w gwneud," meddai.

"Ond mae'n costio dipyn, hefo prisiau'n mynd i fyny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Laura Stokes o Bontypridd fod "popeth wedi mynd yn ddrytach"

Dywedodd mam arall o Gaerdydd, oedd am aros yn ddienw, ei bod hi'n teimlo'n ffodus i gael to uwch ei phen.

"Dwi 'di gwerthu fy nghar a fy ngemwaith i roi'r gorau i fy mhlant," meddai.

"Dwi'n meddwl fod y llywodraeth angen camu fewn. Dylen ni ddim bod mewn sefyllfa eto ble dyw'n plant ni methu cymdeithasu.

"Dyw rhieni methu dysgu bob dim i'w plant adref oherwydd maen nhw'n gweithio gormod."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Talia McMillian yn rhedeg cyfrif Instagram yn argymell pethau i wneud gyda phlant

Mae Talia McMillian wedi dechrau cyfrif Instagram yn argymell pethau i wneud gyda phlant, o lefydd sy'n rhad ac am ddim i lefydd mwy costus.

鈥淢ae yna gymaint o deithiau cerdded a llefydd sydd 芒 mynediad am ddim sy鈥檔 hyfryd, ond 'da ni鈥檔 cael llawer o law felly mae pawb yn chwilio am rywbeth dan do,鈥 meddai.

鈥淲edi dweud hynny, mae mwyafrif y llefydd 'da ni鈥檔 ymweld 芒 nhw nawr yn codi t芒l am barcio, neu mae ganddyn nhw gaffi, felly 'da chi鈥檔 gwybod eich bod chi鈥檔 mynd i fod yn gwario rhywbeth.

鈥淒wi wedi bod yn ymweld 芒 llawer o鈥檙 un llefydd ers blynyddoedd ac mae鈥檔 wallgof gweld y gwahaniaeth mewn prisiau nawr, ac mae gennych chi rai sy鈥檔 codi t芒l am oedolion a hyd yn oed babanod ifanc iawn.鈥

'Buddsoddi dros 拢100m'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩ydym yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant fforddiadwy o safon, ac yn buddsoddi dros 拢100m trwy ein rhaglenni Dechrau鈥檔 Deg a鈥檙 Cynnig Gofal Plant.

鈥淢ae ein Cynnig Gofal Plant hefyd yn darparu 30 awr o ofal plant wedi鈥檌 ariannu yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, ar gyfer plant tair a phedair oed rhieni cymwys, gan gynnwys y rhai mewn addysg neu hyfforddiant.

"Rydym hefyd yn cefnogi'r sector gofal plant drwy fuddsoddi 拢70m mewn grantiau cyfalaf i ddarparwyr, yn ogystal 芒 chyllid ar gyfer hyfforddi a datblygu staff."

Pynciau cysylltiedig