Mynediad at ofal iechyd yn 'ynysu' rhai pobl anabl
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 30 o bobl anabl wedi dweud wrth raglen 成人快手 Wales Live eu bod yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio cael mynediad at ofal iechyd.
Yn eu plith mae Elin Williams o Sir Conwy, sy鈥檔 byw gyda chyflwr llygad dirywiol, ac sydd wedi rhannu ei phryderon am y diffyg hygyrchedd sydd o鈥檌 chwmpas wrth gael gofal iechyd.
Mae Dylan Thomas o Chwilog hefyd wedi rhannu ei bryder ynghylch diffyg ymwybyddiaeth rhai meddygon am gyflyrau llai amlwg.
Yn 么l sefydliad Anabledd Cymru, mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn nodi mai rhwystrau amgylcheddol, sefydliadol ac agweddau pobl sy'n atal pobl anabl rhag cyfrannu'n llawn mewn cymdeithas - nid eu cyflyrau meddygol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "siomedig iawn clywed y straeon hyn".
"Mae ein Tasglu Hawliau Anabledd yn gweithio gyda phobl anabl a sefydliadau i wneud argymhellion i wella bywydau pobl anabl yng Nghymru," meddai.
'Gallu bod reit anodd'
Mae Elin Williams yn gweithio i gymdeithas Anabledd Cymru ac mae ganddi hi gyflwr o鈥檙 enw Retinitis Pigmentosa.
Fe soniodd am un achos lle鈥檙 oedd hi鈥檔 gorfod gofyn i rywun arall ddarllen gwybodaeth bersonol amdani gan nad oedd y llythyr wedi鈥檌 anfon mewn modd hygyrch, er ei bod wedi gwneud cais i gael llythyr hygyrch.
鈥淢ae gen i鈥檙 hawl i鈥檞 ddarllen gyntaf," meddai.
"Mae diffyg hygyrchedd o ran cael gwybodaeth, llythyrau ac apwyntiadau ddim yn cael eu hanfon mewn modd hygyrch.
鈥淢ae byw fel person anabl mewn byd sydd ddim wedi cael ei ddyfeisio ar fy nghyfer i, mae鈥檔 gallu bod reit anodd ar brydiau.
"Mae鈥檙 diffyg hygyrchedd o fy nghwmpas yn ffactor mawr at hynny ac wedi arwain at gyfnodau o deimlo fy mod wedi cael fy ynysu o gymdeithas ar y cyfan."
Ychwanegodd mai prin iawn ydy鈥檙 enghreifftiau positif o hygyrchedd pan ddaw at ofal iechyd i bobl anabl.
Dywedodd: 鈥淢ae nifer o鈥檔 haelodau ni鈥檔 dweud am y cymaint o rwystrau sy鈥檔 eu hwynebu nhw, ac mae鈥檔 effeithio ar sut maen nhw鈥檔 teimlo o ran eu lle nhw mewn cymdeithas a鈥檜 lle nhw i gael gwasanaethau cyfartal.鈥
Profiadau gan ragor o bobl
Mae enghreifftiau gan bobl anabl a rannwyd gyda 成人快手 Wales Live yn cynnwys:
Dynes sy'n dweud iddi dalu am ofal iechyd preifat ar 么l i feddygon wrthod ei sylwadau yn nodi nad oedd symptomau newydd oedd ganddi yn rhan o'i hanabledd. Ar 么l cael profion preifat, gafodd gadarnhad ei bod yn gywir;
Dynes yn dweud bod diffyg ffyrdd o gysylltu 芒'i meddyfa yn ei hatal rhag cysylltu 芒 nhw. Yn ddiweddar ffoniodd hi 339 o weithiau cyn cael ateb;
Dynes fyddar yn honni bod ysbyty wedi canslo dehonglwyr iaith arwyddo iddi, gan eu bod wedi ei gweld yn siarad. Roedden nhw wedi cymryd yn ganiataol y gallai ddarllen gwefusau.
'Meddwl mod i鈥檔 gwneud yr holl beth fyny'
Un arall sydd wedi wynebu sawl her pan ddaw at ofal iechyd ydy Dylan Thomas o Chwilog.
Mae Dylan yn byw gyda chyflwr Dystonia, sy鈥檔 achosi i gyhyrau鈥檙 corff symud yn afreolus, sy鈥檔 gallu bod yn boenus iawn ar adegau.
Dywedodd fod rhai cyfnodau lle nad yw鈥檔 gallu symud o gwbl.
鈥淥edd lot o feddygon, dwi鈥檔 meddwl, erioed wedi clywed am y cyflwr," meddai.
"Felly pan o鈥檔 i鈥檔 cael y trawiadau yma neu鈥檙 cyfnodau yma o ffitiau, oeddwn i鈥檔 gweld o'n y nodiadau bod nhw鈥檔 meddwl mod i鈥檔 'neud yr holl beth fyny.
鈥淥edd o鈥檔 ddigalon, o鈥檔 i鈥檔 teimlo fel hogyn bach eto.
鈥淓rs i mi gael diagnosis, mae pethau wedi gwella.
"Mae鈥檙 profiadau wedi bod yn rhyfedd iawn - un ai cael fy anwybyddu, neu rywun yn dweud mod i鈥檔 'neud o fyny.
鈥淧an mae gen ti gyflwr sydd ddim yn gyfarwydd iawn i lot o bobl, mae hynny yn mynd i ddigwydd.
"Ond dydi hynny ddim yn rhoi鈥檙 hawl i bobl feddygol drin rhywun, a deud wrth rywun, mor ddifeddwl.鈥
'Siomedig iawn'
Wrth ymateb i achos Dylan, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nad oedden nhw'n gallu ymateb i achosion unigol, ond yn 么l Dylan, fe dderbyniodd lythyr yn ymddiheuro yn dilyn ei gyfnod yn yr ysbyty.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae鈥檔 siomedig iawn clywed y straeon hyn ac rydym yn disgwyl i bobl ag anableddau gael eu clywed a鈥檜 trin 芒 pharch pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau鈥檙 GIG.
鈥淢ae ein Tasglu Hawliau Anabledd yn gweithio gyda phobl anabl a sefydliadau i wneud argymhellion i wella bywydau pobl anabl yng Nghymru.
"Mae gwella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a herio enghreifftiau o eithrio a鈥檌 effeithiau niweidiol, yn brif flaenoriaethau i鈥檙 gr诺p.
鈥淭rwy Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth i Bobl 芒 Nam ar y Synhwyrau, rydym hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod anghenion cyfathrebu a gwybodaeth cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, rhieni a gofalwyr yn cael eu diwallu鈥檔 gyson wrth gael mynediad at ofal iechyd.
"Mae gwaith yn mynd rhagddo i roi argymhellion yr adolygiad hwn ar waith.鈥