Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am wella system ddraenio Pontypridd yn dilyn llifogydd
Mae busnesau ym Mhontypridd yn galw am weithredu er mwyn atal draeniau rhag gorlifo mewn tywydd garw yn dilyn y llifogydd diweddar.
Dywedodd perchnogion busnesau ar Heol y Felin fod y llifogydd wedi digwydd o ganlyniad i'r draeniau yn gorlifo yn hytrach na d诺r yn llifo o afon Taf.
Wrth siarad 芒'r 成人快手 fore Sadwrn, dywedodd dau berchennog busnes eu bod eisiau gweld datrysiad technegol er mwyn atal yr un broblem rhag digwydd eto yn y dyfodol.
'Roedd y cyfan yn dod i fyny o'r draeniau'
Dywedodd Josh Downes, perchennog siop farbwr ar Heol y Felin, fod perchnogion busnes eisiau gwybod pwy sy'n gyfrifol.
"Fe ddaeth llawer [o dd诺r] trwy'r draen, ac ar y funud rydym yn ceisio canfod pwy sy'n gyfrifol am y system ddraenio ar ein stryd".
"Mae'r broblem un ai lawr i'r cyngor neu D诺r Cymru.鈥
Fe wnaeth Enrico Orsi, sy'n rhedeg Zucco's Juice Bar gytuno gyda Josh: "Dy'n ni ddim hyd yn oed dros y rhan waethaf o'r gaeaf eto.
"Felly gall y math yma o lifogydd ddigwydd eto wythnos nesaf. 鈥楴i鈥檔 teimlo fel bo' ni'n troi yn yr unfan ar y funud."
"Rydym yn trio gwthio i gael rhywbeth wedi ei wneud er mwyn atal y stryd rhag profi llifogydd eto.
"Roeddwn yma'r bore pan ddaeth y llifogydd i mewn, ac roedd y cyfan yn dod i fyny o'r draeniau. Roedd hi fel ffynnon.
"Rydym yn teimlo bod modd datrys hyn. Felly rydym am wthio er mwyn cael y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau bod dyfodol i'r stryd."
Dywed D诺r Cymru nad oedd y llifogydd ar Heol y Felin wedi eu hachosi gan garthffosydd yn gorlifo.
Dywedon nhw mai鈥檙 draeniau yw'r broblem, ac mai Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd 芒 chyfrifoldeb amdanyn nhw.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael cais am ymateb. Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd yr Awdurdod eu bod yn adolygu'r hyn a ddigwyddodd ym Mhontypridd yn sgil y llifogydd diweddar.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: 鈥淢ae ein t卯m Rheoli Perygl Llifogydd yn cynnal ymchwiliadau lle'r oedd y llifogydd, er mwyn deall yn well sut a pham mae gwahanol ddigwyddiadau llifogydd wedi digwydd.
"Ar hyn o bryd, mae dros hanner yr achosion o lifogydd wedi deillio o lifogydd y brif afon - gan gynnwys Heol y Felin, Stryd Sion a Ffordd Berw ym Mhontypridd".