Cannoedd mewn gorymdaith i alw am ysgol arbennig newydd

Disgrifiad o'r llun, Fe ddaeth pobl allan o'u ceir a'u tai i ddangos eu cefnogaeth i'r bobl oedd yn gorymdeithio
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru

Mae 'na amcangyfrif bod tua 300 o bobl wedi gorymdeithio trwy ganol Llanelli ddydd Sadwrn wrth i'w hymgyrch barhau dros ysgol newydd i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r ymgyrchwyr yn honni bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi torri addewid a wnaed saith mlynedd yn 么l i ariannu adeilad newydd i ddisgyblion Heol Goffa.

Dywedodd un rhiant oedd yn yr orymdaith nad yw'r adeilad presennol yn addas bellach.

Dywedodd Hannah Coles: "Mae fy mab sydd mewn wheelchair, so fe'n gallu mynd mewn rhai places yn yr ysgol."

Yn 么l y cyngor, maen nhw wedi comisiynu adolygiad annibynnol o ddarpariaeth addysg arbennig yn ardal Llanelli, ac fe fyddan nhw'n gwrando ar ddysgwyr, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ystod yr adolygiad hwnnw

Disgrifiad o'r llun, Mae mab Alex Dakin, Jac, yn ddisgybl yn Heol Goffa

Mae Ysgol Heol Goffa yn darparu addysg i blant rhwng tair a 19 oed, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae anghenion y plant yn amrywio o rai canolig i anghenion dwys iawn. Mae 124 o blant yn yr ysgol ar hyn o bryd.

Brynhawn Sadwrn fe wnaeth ymgyrchwyr ymgynnull tu allan i Ysgol Heol Goffa cyn gorymdeithio i Theatr y Ffwrnes yng nghanol y dref ar gyfer rali i hyrwyddo'r ymgyrch.

Yn 么l ymgyrchwyr, mae cyfanswm o dros 9,000 o bobl wedi arwyddo deisebau papur ac ar-lein yn galw ar yr awdurdod i gadw at yr addewid gwreiddiol.

Yn 么l Cyngor Sir Caerfyrddin, maen nhw eisoes yn gwario 拢500,000 i "wella'r cyfleusterau presennol" yn Ysgol Heol Goffa.

Disgrifiad o'r llun, Owen Jenkins, Cadeirydd Llywodraethwyr Heol Goffa, yn credu "bod arian yn rhywle"

Un oedd yn yr orymdaith oedd Owen Jenkins, Cadeirydd Llywodraethwyr Heol Goffa.

Dywedodd: "Mae e just yn dangos cyflwr truenus yr adeilad yn y lle cyntaf ond hefyd dy鈥檔 ni wedi gweld ysgolion yn cael eu penderfynu arnyn nhw, eu cynllunio a鈥檜 hadeiladu ers 2017, felly mae arian yna yn rhywle."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Hannah Coles nad yw ei mab, sydd mewn cadair olwyn, yn gallu mynd i rai ardaloedd yn yr ysgol

Roedd rhieni plant sy'n ddisgyblion yn yr ysgol hefyd yn yr orymdaith.

Dywedodd un rhiant, Hannah Coles: "Fi yma i ddweud, doedd yr ysgol ddim yn purpose built. Mae fy mab sydd mewn wheelchair, so fe'n gallu mynd mewn rhai places yn yr ysgol."

Mae mab Alex Dakin, Jac yn ddisgybl yn Heol Goffa ac mae'n dweud bod "eisiau ysgol newydd a dyw'r cyngor ddim yn 'neud digon i helpu".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Nia Griffith AS Llanelli bod yn rhaid i'r Cyngor "gymryd y cyfrifoldeb"

Mae hon wedi troi yn ffrae wleidyddol, gyda rhai yn feirniadol o weinyddiaeth Plaid Cymru, sydd yn rhedeg y Cyngor.

Yn ystod yr orymdaith dywedodd Nia Griffith AS Llanelli: "Dy鈥檔 nhw [y Cyngor] ddim yn gallu dweud bod bai ar unrhyw un arall.

"Mae鈥檙 dewis gyda nhw a os maen nhw moyn bod mewn pwer, mae鈥檔 rhaid iddyn nhw gymryd y cyfrifoldeb a sicrhau bo nhw鈥檔 ymateb i anghenion y bobl yma yn Llanelli.

"Fel 鈥榙an ni gyd yn gwybod, mae cymaint o dewisiadau chi鈥檔 gallu gwneud yng nghyllideb y Cyngor. Dylen nhw ail feddwl y peth yma i sicrhau bod ysgol Heol Goffa yn cael ysgol newydd."

Adolygiad ar waith

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg wedi ei ddewis i arwain yr adolygiad sydd bellach ar waith.

Bydd David Davies yn trafod gyda dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill, ac fe fydd yr "holl gynigion a gaiff eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies fod darparu'r addysg orau yn "hollbwysig" i'r cyngor

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr aelod cabinet sy鈥檔 gyfrifol am addysg, fod "darparu'r addysg orau posib i'n dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol yn hollbwysig i ni fel cyngor ac i gorff llywodraethu Ysgol Heol Goffa".

"Mae ein hymroddiad i fuddsoddi i wella'r ddarpariaeth ADY yn Llanelli cyn gryfed ag erioed, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chorff llywodraethu Ysgol Heol Goffa er mwyn darparu addysg o'r radd flaenaf i'n dysgwyr,鈥 meddai.

Yn 么l Becki Davies, sy'n rhiant yn yr ysgol ac yn ysgrifennydd gr诺p gweithredu Ysgol Heol Goffa: "Gadewch i ni ddangos i Lanelli, ac yn bwysicach i Gyngor Sir Caerfyrddin, ein bod ni'n dwli ar yr ysgol a beth yw p诺er y gymuned.

"Ochr yn ochr, gyda'n gilydd, fe allwn ni wneud gwahaniaeth."