Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adolygiad mamolaeth Abertawe 'yn gwbl annibynnol'
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd Iechyd 成人快手 Cymru
Mae cadeirydd dros dro adolygiad annibynnol i wasanaethau mamolaeth a babanod newydd-anedig yn ardal Abertawe wedi mynnu fod yr adolygiad yn "gwbl annibynnol" o'r bwrdd iechyd.
Mae'n dilyn beirniadaeth gan rai teuluoedd sydd wedi disgrifio'r broses fel "sgam" ac yn honni eu bod wedi cael eu "hanwybyddu".
Ond mae Dr Denise Chaffer, sy'n gyn-lywydd y Coleg Nyrsio Brenhinol ym Mhrydain, yn mynnu bod ei th卯m "wir am glywed" gan unrhyw deulu sydd 芒 phrofiad o'r gwasanaethau.
Fe gafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ym mis Rhagfyr 2023 yn dilyn pryderon y gallai mamau a babanod fod wedi cael niwed o ganlyniad i ffaeleddau yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Roedd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru hefyd wedi dod i'r casgliad, yn dilyn ymweliad, na allai diogelwch na lles mamau a babanod gael ei warantu, gyda Llywodraeth Cymru wedyn yn cyhoeddi y byddai'r gwasanaethau yn cael eu monitro yn agosach.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fod gwasanaethau mamolaeth y bwrdd, fel unedau eraill ar draws y DU, dan bwysau parhaus yn rhannol o ganlyniad i brinder bydwragedd.
Adolygiad cynhwysol a thrylwyr yw'r nod
Ers ei sefydlu mae rhai teuluoedd wedi codi cwestiynau am ba mor annibynnol yw'r adolygiad, a'r hyn maen nhw'n ei weld fel diffyg ymdrech i ymgysylltu 芒 nhw.
Ond yn ei chyfweliad cyntaf ers cael ei phenodi'n gadeirydd dros dro ym Mehefin, mae Dr Chaffer yn mynnu bod gan y bwrdd iechyd "ddim dylanwad o gwbl" ar y gwaith.
"Fy ymrwymiad i yn llwyr yw cael yr adolygiad mwyaf cynhwysol, trylwyr y gallwn ni ei gyflawni yn seiliedig ar dystiolaeth... Mae'n gwbl annibynnol o'r bwrdd iechyd."
"[Does ganddyn nhw] ddim dylanwad o gwbl. Yn wir, rydym yn sicrhau nad yw pobl sy'n rhan o'r ymchwiliad yn dod o Abertawe na wedi gweithio yno - fel eu bod yn rhan o d卯m annibynnol."
Ond fe gyfaddefodd Dr Chaffer bod yna "rhywfaint o rwystredigaeth" wedi bod ynghylch "dechrau araf" yr adolygiad, cyn mynnu fod "cynnydd sylweddol" bellach yn digwydd.
Fel rhan o'r adolygiad fe fydd "t卯m clinigol annibynnol" yn edrych ar tua 150 o achosion rhwng 2020 a 2022 lle gallai problemau fod wedi cael effaith ar ofal mamau a babanod.
Bydd yna "broses hunangyfeirio" hefyd lle gall unrhyw un sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau mamolaeth ar unrhyw adeg gwrdd yn gyfrinachol 芒 "bydwragedd annibynnol".
Mae "t卯m ymgysylltu 芒 theuluoedd" newydd hefyd wedi'i sefydlu.
Casgliadau posib erbyn haf 2025
Er bod Dr Chaffer yn dweud ei bod "yn rhy gynnar yn y broses" eto i nodi unrhyw bryderon neu wersi penodol, mae'n dweud ei bod yn gobeithio y gall yr adolygiad ddod i gasgliadau erbyn haf 2025.
"Yr hyn rwy'n ei ddweud wrth deuluoedd yw bod eich llais chi yn bwysig iawn. Rydym wir eisiau clywed oddi wrthych.
"Bydd pawb ddim am ddod i gyfarfod gr诺p. Efallai y byddan nhw eisiau cyfarfod unigol.
"Mae'r t卯m ymgysylltu wedi cynnig mynd i gartrefi pobl os taw dyna'r hyn maen nhw'n ei ddymuno.
"Ein neges i bawb yw... mae dros 3,000 o fenywod yn defnyddio'r gwasanaethau hyn bob blwyddyn - felly gadewch i ni glywed gan bawb oherwydd dyma eich gwasanaethau chi."
Fe gymerodd Dr Chaffer yr awenau fel cadeirydd dros dro'r adolygiad ar 么l i'r cadeirydd blaenorol gamu o'r neilltu yn yr haf, yn dilyn galwadau gan rai teuluoedd am ei hymddiswyddiad.
Dywedodd Margaret Bowron KC ei bod yn "edifar" camu o'r neilltu ond ei bod wedi dod i sylweddoli bod ei phenodiad "yn tynnu sylw oddi ar y nod".
Mae Llais - y corff sy'n cynrychioli safbwyntiau cleifion yng Nghymru - hefyd wedi codi pryderon am ddiffyg cyfranogiad teuluol, ond cadarnhaodd Dr Chaffer fod y sefydliad bellach yn gweithio'n agos gyda'r adolygiad ar "ddarn cyfochrog o waith yn ymwneud ac ymgysylltu 芒 theuluoedd".
Fis diwethaf fe ddaeth i'r amlwg bod nifer o deuluoedd a gafodd ei heffeithio wedi penderfynu lansio eu hadolygiad eu hunain i wasanaethau mamolaeth, gan honni eu bod wedi "colli ffydd" yn yr adolygiad swyddogol.