Ansicrwydd gwaith dur yn gysgod dros ganlyniadau myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Bydd myfyrwyr Lefel A ym Mhort Talbot y derbyn eu canlyniadau ddydd Iau yng nghysgod pryderon dros ddyfodol gwaith dur y dref a chyfleoedd i bobl ifanc.
Er bod Brandon Hookings, 18, yn gobeithio gadael y dref er mwyn astudio yn y brifysgol yng Nghaerfaddon fis nesaf, mae diswyddiadau'r gwaith dur wedi bod yn "ddinistriol" i nifer o'i deulu a'i ffrindiau.
Dywedodd fod rhai o'i gyfoedion wedi ystyried prentisiaethau peirianneg yn lleol, ond mae鈥檙 risgiau bellach yn rhy uchel.
鈥淩wy鈥檔 meddwl bod y dref yn mynd i gael trafferth pan fydd yn dechrau cau ac mae鈥檔 drist iawn oherwydd bydd yn effeithio ar fusnesau lleol hefyd,鈥 meddai Brandon.
Dywedodd Tata Steel eu bod wedi rhoi saib ar recriwtio prentisiaid newydd yn ne Cymru eleni wrth i鈥檙 cwmni ailstrwythuro.
Bydd effaith cau ffwrneisi chwyth Tata Steel ym Mhort Talbot i'w deimlo y tu hwnt i'r dref hefyd.
Aeth Meagan Griffiths, 18, i Ysgol Bro Dur Ystalyfera ond fe astudiodd yng ngholeg Castell-nedd ar gyfer ei Lefel A.
Mae hi'n gobeithio astudio Saesneg a'r cyfryngau yng Nghaerdydd, ond fe ddywedodd bod rhai o'i chyfoedion wedi gobeithio cael prentisiaeth peirianneg yn y gwaith dur yn y dyfodol, gan gynnwys ei brawd iau.
鈥淢ae鈥檔 drueni bod opsiwn mor dda yn cael ei gymryd i ffwrdd," meddai.
"Rwy'n credu y bydd yn gwthio pobl allan o'r ardal, yn enwedig os yw pobl yn edrych ar brentisiaethau eraill."
Mae Meagan hefyd yn aelod o gyngor ieuenctid Castell-nedd Port Talbot ynghyd a Maddie Pritchard, 18, o Ysgol Bro Dur Ystalyfera.
Dywedodd Maddie: "Mae pawb o gwmpas fan hyn yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio.
鈥淢ae yna rai aelodau o鈥檙 cyngor ieuenctid sydd 芒 rhieni鈥檔 gweithio yn y gwaith dur felly fe benderfynon ni wneud taith gerdded noddedig i godi arian i deuluoedd sy鈥檔 mynd i gael eu heffeithio ac fe wnaethon ni godi dros 拢800 iddyn nhw."
Mae Isabelle Rabey, 18, myfyrwraig yn ysgol Gatholig St Joseph ym Mhort Talbot, yn gobeithio cael y graddau i astudio Saesneg mhrifysgol Warwick fis nesaf.
Dywedodd fod addysg ei ffrind gorau wedi dioddef eleni ar 么l i鈥檞 thad golli ei swydd yn y gwaith dur.
鈥淯n diwrnod, deffrodd ei thad heb waith," meddai.
"Er ei fod yn gymwys iawn ac yn ffodus i ddod o hyd i swydd arall, roedd y sefyllfa wedi cael effaith sylweddol ar fy ffrind, gan amharu ar ei hastudiaethau.
"Ond cafodd ei chefnogi gan athrawon yn yr ysgol ac roedd un yn arbennig yn gefnogol iawn oherwydd rwy'n meddwl bod pobl yn fwy na deall y sefyllfa gyda'r gwaith dur oherwydd ei fod yn rhan mor fawr o fywydau pobl."
'Hynod falch o鈥檔 cynllun prentisiaid'
Dywedodd llefarydd Tata Steel: "Rydym yn hynod falch o鈥檔 cynllun prentisiaid sydd wedi ennill sawl gwobr, sy鈥檔 deillio o lwyddiant hyfforddiant yr Academi, a phartneriaethau cryf gyda cholegau lleol.
"Rydyn ni鈥檔 parhau i recriwtio prentisiaid newydd ar ein safleoedd eraill ar draws y Deyrnas Unedig ac rydyn ni鈥檔 sicr yn rhagweld y byddwn ni鈥檔 ail-ddechrau recriwtio prentisiaid newydd ar gyfer ein safleoedd yn ne Cymru yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni ddod 芒 chynhyrchu dur CO2 isel, technoleg newydd a buddsoddiadau pellach ar waith ar draws ein busnesau sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nghymru.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Mai