Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eisteddfod yr Urdd: 'Braint' cantorion lleol wrth rannu r么l Llywydd y Dydd
Mae'r cantorion Si芒n James a Linda Griffiths yn rhannu dyletswyddau Llywydd y Dydd ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn eleni.
Dywedodd Si芒n James, o Lanerfyl, ei bod yn "fraint mwy na fedrai mynegi" i fod yn Llywydd y Dydd mewn Eisteddfod mor agos i'w chartref.
"Oedd Linda a fi yn ysgol - a dweud y gwir Linda ddaru ysbrydoli fi i gystadlu yn yr unawd alaw werin," meddai.
Dywedodd Linda Griffiths: "Dwi'n un o ferched yr ardal, un o ferched Maldwyn, a dwi'n cael y fraint o fod yn un o lywyddion y dydd efo Si芒n heddiw.
"Dwi'n teimlo 'mod i'n cael fy sboelio am fod pobl eraill wedi gwneud y gwaith i gyd a dwi just 'di dod yma i fwynhau'r diwrnod achos - er fy mod i wedi cael fy magu ar ffarm sy'n edrych i lawr ar faes y Steddfod - mi symudais i'r coleg yn Aberystwyth ac i Geredigion felly dwi wedi bod yn byw yng Ngheredigion.
"Ond mae'n neis cael dod yn 么l i Sir Drefaldwyn."