成人快手

Eluned Morgan: 'Wedi gwrando ar bobl' wrth ddewis ei chabinet

Y Cabinet Newydd Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cyrmu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cabinet newydd ei gyhoeddi ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan yn dweud mai'r peth pwysicaf iddi hi oedd "gwrando ar bobl ar draws Cymru" i glywed eu blaenoriaethau nhw wrth iddi ddewis ei chabinet newydd.

Ddydd Mercher, cyhoeddodd y byddai'r cyn-brif weinidog, Mark Drakeford yn aros yn y cabinet fel ysgrifennydd Cyllid a'r Gymraeg, ac mai Jeremy Miles yw'r ysgrifennydd iechyd newydd.

Yn ogystal 芒 bod yn ddirprwy brif weinidog, mae Huw Irranca-Davies yn parhau yn ysgrifennydd newid hinsawdd a materion gwledig.

Dyw Lesley Griffiths a Mick Antoniw, a ymddiswyddodd o'r llywodraeth ar yr un pryd 芒 Jeremy Miles a Julie James, ddim wedi cael swyddi yn y cabinet.

Mae modd darllen y rhestr yn llawn yma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eluned Morgan yw'r fenyw gyntaf i arwain Llywodraeth Cymru

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Eluned Morgan: "Ni'n ymwybodol iawn fod deunaw mis gyda ni i fynd nes yr etholiad nesaf ac felly mae'n amlwg fod yn rhaid i ni flaenoriaethu rhai pethau dros bethau eraill".

"Dwi wedi bod yn cwrdd 芒 miloedd o bobl," meddai gan ychwanegu mai'r hyn roedd hi am ei wneud oedd "sicrhau 'mod i'n cwrdd 芒 thrawstoriad mwy eang o'r boblogaeth".

"Beth fydd yn bwysig nawr yw sicrhau ein bod ni'n cadw at y blaenoriaethau hynny".

Iechyd i gael 'blaenoriaeth' gan y Llywodraeth

Jeremy Miles yw'r Ysgrifennydd Iechyd newydd - un o'r swyddi pwysicaf gyda mwy na hanner cyllideb 拢20bn Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y prif weinidog fod "cyfrifoldeb mawr arno fe i sicrhau ein bod ni'n dod a'r waiting lists i lawr".

"O'dd e'n gwybod fod gwaith mawr i ni" ond aeth Ms Morgan ymlaen i ddweud fod Jeremy Miles yn brofiadol yn dilyn ei gyfnod fel ysgrifennydd Addysg a'r Economi.

"Bydd challenge o'i flaen e, ond byddwn ni gyd fel Llywodraeth yn sicrhau fod iechyd yn cael y flaenoriaeth sydd angen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn ysgrifennydd cyllid a hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg

Enw cyfarwydd arall yn y cabinet yw'r cyn-brif weinidog, Mark Drakeford sydd wedi ei benodi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a鈥檙 Gymraeg.

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "falch dros ben" iddo gytuno i fod yn rhan o'r cabinet newydd.

Dywedodd y bydd yn "bwysig iddo fe weithio gyda llywodraeth newydd yn San Steffan".

Wrth gyfeirio at y ffaith mai'r Blaid Lafur sydd mewn grym yn San Steffan dywedodd Eluned Morgan bod hynny wedi "trawsnewid" y sefyllfa.

"Ma' gyda ni nawr berthynas rili da gyda Llywodraeth newydd yn San Steffan," meddai.

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd fod y cabinet newydd yn debyg i gabinet y cyn-brif weinidog, Vaughan Gething.

"Mae dal yn edrych yn gabinet Vaughan Gething-aidd iawn mewn llawer o ffyrdd.

"Mae'r ffaith fod Julie James a allai fod yn un eithaf ymylol, a hithau'n cael ei hystyried yn effeithiol yn cadarnhau'r syniad 'ma, yn y b么n fod 'na lawer iawn o ddilyniant o gyfnod Vaughan Gething".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones fod y cabinet newydd yn debyg i gabinet y cyn-brif weinidog, Vaughan Gething

Wrth ymateb i'r ffaith bod Mark Drakeford yn parhau yn y cabinet fel ysgrifennydd Cyllid a'r Gymraeg, dywedodd Richard Wyn Jones: "Mae'r ffaith fod o'n aros na wan... yn benodiad rhyfedd ar un ystyr, ella ei bod hi eisiau ei brofiad o mewn llywodraeth mewn cyfnod anodd".

Er ei fod yn cydnabod fod gan Mark Drakeford "ymrwymiad personol" at y Gymraeg ag yntau wedi ail-afael yn yr iaith fel oedolyn mae Richard Wyn Jones yn dweud bod yna "gwestiwn wedyn yngl欧n 芒 strategaeth a pholis茂au".

"Mae'n anodd iawn gwybod ar hyn bryd beth yw'r strategaeth y tu 么l i'r apwyntiadau yma".