Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lle oeddwn i: Siân James a streic y glowyr
Daeth Siân James i’r amlwg yn ystod streic y glowyr 1984-85, 40 mlynedd yn ôl, fel aelod blaenllaw a huawdl o’r gymuned gref o fenywod oedd yn cydlynu’r ymdrech enfawr i fwydo teuluoedd y streicwyr a chasglu arian a nwyddau i’w cadw i fynd.
Roedd hi’n fam ifanc ar y pryd a’i gŵr, Martin, yn löwr ym mhwll Aber-nant.
Bu Siân ar y llinell biced ei hun hefyd. Mae’n cael ei phortreadu yn y ffilm Pride gan yr actores Jessica Gunning.
Sbardunodd ei phrofiad yn ystod y streic hi i fynd yn ôl i addysg gan ennill gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe cyn dod yn Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Abertawe rhwng 2005-2015.
Dyma atgofion Siân James:
Dechrau'r streic
Pan ddechreuodd y streic yn y mis Mawrth, 1984, o’n i’n 24, Rhodri’n saith a Rowena’n bedair. O’n i wedi gadael yr ysgol a phriodi yn 16 ac o’n ni’n byw yng Nghae’r Bont.
Roedd yn haf hyfryd y flwyddyn honno, lot o haul, a fi’n cofio cerdded y plant nôl a mlân lot ar hyd yr A465 i dŷ Mam-gu ac ymweld â thylwyth.
Roedd y ddwy fam-gu’n byw yn agos; o’n i’n byw yn rhif 10, Mam-gu, mam Mami, yn byw yn rhif 13 a mam Dadi yn byw dau bentre lan y cwm ar ffiniau Aber-craf, gyda mam a tad Martin yn byw yn Aber-craf hefyd.
Wedyn yn mis Tachwedd oedd Martin wedi cael ei arestio ar y llinell biced. Erbyn iddyn nhw fynd i’r llys o’n nhw wedi eu gwahardd o bob llinell biced yn y wlad. Felly o’n i’n teimlo bod rhaid i fi wneud mwy.
Y mwya’ o’n nhw’n taro nôl aton ni, y mwya’ o’n i’n teimlo, a miloedd o fenywod eraill yn ystod y streic, bod rhaid i ni wneud mwy.
Yn Aber-nant, lle roedd Martin yn löwr, a Betws a Chynheidre, ac i raddau Treforgan a Blaenant, roedd lot o Gymraeg. Felly pan oedd pobl yn dod i chwilio am rywun i siarad o’n nhw’n chwilio am bobl oedd yn gallu gwneud back to backs [cyfweliadau yn Saesneg ac yn Gymraeg] ac yma roedden nhw’n dod.
Mae’r hen gymdogion i gyd wedi marw nawr, pobl fel Hefina Headon, Edwina Roberts a’r cynghorydd o Ystradgynlais, Betty Rae Watkins, ond Cymraeg oedd yr iaith o’n ni’n ei siarad gyda’n gilydd ac yn y Gymraeg o’n ni’n gweithredu.
O’n ni mewn sefyllfa hollol arbennig yng Nghymru. O’n ni ddim yn gweld y wasg yng Nghymru fel y gelyn ac o’n i’n ceisio esbonio hwn i’r merched o’n i’n cwrdd â nhw pan o’n i’n mynd lan i Sheffield a siarad am beth oedd yn digwydd yng Nghymru.
O’n nhw’n dweud 'Why are you talking to the press?' Ac o’n i’n dweud bod y bobl o’n ni’n siarad â nhw yn bobl fel ni; llawer ohonyn nhw â’u tadau wedi bod yn lowyr.
Nid felly oedd hi gyda phapurau fel y Daily Mirror, Daily Mail a’r Sun. Fi’n cofio faint o bobl oedd yn darllen y News of the World ar y pryd, a doedd y wasg genedlaethol ddim yn ffrindiau i ni na’r undebau.
O’ch chi’n gwybod ble oedd pobl yn darllen y papurau yma achos pan o’ch chi’n mynd lan at y gât yn gwerthu tocynnau raffl neu gasglu bwyd neu arian, beth bynnag oedd ar glawr y papur y diwrnod hynny, dyna peth oedd pobl yn codi gyda chi wrth y drws!
O’n i’n byw ar £20 yr wythnos. Dyw e ddim yn cymryd economic genius i weithio mas bod chi’n ffaelu talu’ch biliau. Ond dalon ni’n dyledion i gyd yn ôl ar ôl y streic.
Fi’n meddwl weithie ffordd yffarn nathon ni fe, yn byw ar fresh air? O’n ni’n cael family allowance ar ddydd Llun, parsel bwyd o’r support group ar y dydd Mercher a wedyn ar y dydd Gwener oedd y siec yn dod gan nawdd cymdeithasol felly o’ch hi’n byw dau neu dri diwrnod ar y tro.
Ac roedd pobl leol mor garedig – rywun yn rhoi chwech pice ar y maen mewn bag i fynd i’r plant; y gymdoges dros yr hewl yn prynu twrci bach i ni a rywun arall yn gadael bocs o fwyd gyda llysiau i ginio.
Ond wnes i ddim teimlo unwaith bod ni methu mynd ymlaen. Hyd yn oed ar y diwedd roedd gen i fwy yn y tanc, ac roedd gan fy ngŵr fwy yn y tanc. Sai’n gallu siarad am bobl eraill ond nag o’n ni wedi cyrraedd diwedd yr egni oedd gyda ni.
Mynd mynd i'r brifysgol
Oedd popeth wedi newid ar ôl y streic. Aeth Martin nôl i’r pwll am gyfnod – oedd e ddim yn gweld eisie’r swydd o gwbl, ond oedd e’n gweld eisie’r dynion a’r cwmni.
Nag o’n i’n meddwl yn ystod y streic y bydden i byth yn astudio cerdd grefyddol o’r ail ganrif ar bymtheg ond hei, ma raid i rywun neud e!
Roedd na bobl oedd yn gefnogol i ni oedd yn awyddus iawn i’n hybu ni. Pobl fel Helen Prosser o Gymdeithas yr Iaith a’r hanesydd Hywel Francis, cadeirydd ein grŵp codi arian ni, y ddau yn ymwneud ag addysg oedolion.
Ac roedd pobl fel ein ffrindiau yn y grŵp Lesbians and Gays Support the Miners [testun y ffilm Pride] fel Roy James, Derek Hughes a Jonathan Blake yn dweud bod ni ffaelu stopio pan fydd y streic wedi dod i ben ar ôl dod drwy gymaint.
A hefyd, roedd e’n dechre nharo i bod y bobl oedd yn dweud wrthon ni beth i’w wneud wedi graddio, o’n nhw ddim wedi gadael ysgol pan o’n nhw’n 16. O’n i’n ymwybodol iawn mod i heb gwblhau’n addysg.
Pam astudio gradd mewn Cymraeg? O’n i’n teimlo bod gwendid da fi yn y mywyd a hynny oedd yr iaith. O’n i’n siarad tafodiaith lafar Cwm Tawe. Y math o addysg o’n i wedi cael yn yr ysgol oedd addysg ble o’n i’n gwybod mwy am yr ymerodraeth a Shakespeare na Dafydd ap Gwilym a’n hanes ni’n hunain.
O’n i yn y coleg rhwng 1986 – 89. Oedd e ddim yn hawdd i fod yn fam ac yn wraig a teithio bob dydd nôl a mlaen i Abertawe. O’dd Martin a finne’n cwrdd weithie yn y bore, fe’n dod off y bws o’r gwaith a fi’n sefyll ar y stop i fynd ar y bws i Abertawe.
Oedd y plant yn dod lan i’r brifysgol gyda fi weithiau ac o’n nhw meddwl bod mynd i’r brifysgol fel ryw drip i wonderland! O’n nhw’n cael crwydro’r campws ac, eto fyth, o’n nhw’n ehangu eu gorwelion hefyd.
Pan bennodd y streic o’n i’n berson oedd yn fwy bodlon byth i gymryd rhan a o’n i’n meddwl mai’r ffordd naturiol ymlaen ar ôl y brifysgol oedd gwleidyddiaeth.
O’n i wedi ystyried yn ystod y streic, a dwi’n siŵr bod miloedd o bobl eraill yng Nghymru hefyd, bod dim lot i help yn dod o San Steffan i ni. Diflannodd swyddi 23,000 o ddynion mewn un go pan gaeodd y pyllau yma.
Nag wy’n dweud y byddai’r swyddi yna yn dal i fodoli neu na fydden ni wedi ystyried bod e’n cael effaith ar yr amgylchfyd, ond os bydde gyda ni senedd ar y pryd, o leia bydden ni wedi gallu cynllunio a bydde fe ddim wedi bod yn gymaint o sioc i’n cymdeithasau ni. A dyna pam dwi wedi bod mor gefnogol o ddatganoli.
Dwi wedi bod mewn sefyllfa arbennig iawn, dwi wedi cael fy nghyfle i ddweud fy stori i ac i hybu pobl eraill i ddweud eu straeon nhw, mae stori gan bawb ac mae’n bwysig i ni glywed ein straeon ni yng Nghymru.