Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Gallai coedwigwyr ifanc ddatrys argyfwng gweithlu'
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 成人快手 Cymru
Dylai pobl ifanc sy鈥檔 angerddol am yr amgylchedd hyfforddi fel coedwigwyr yn 么l y diwydiant ac maen nhw yn "sicr o gael swyddi".
Mae myfyrwyr hyd yn oed yn rhoi'r gorau i'w graddau ar 么l cael cynnig swyddi llawn amser gan gwmn茂au sy鈥檔 鈥渄aer鈥 angen staff.
Dywedodd arweinwyr y diwydiant coedwigaeth fod "argyfwng" gweithlu yn bygwth targedau plannu coed uchelgeisiol y Deyrnas Unedig i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Dywedodd llywodraethau Cymru a'r DU eu bod yn buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant.
Bwriad prosiect newydd ym Mhrifysgol Bangor yw mynd i'r afael 芒 chamsyniadau cyffredin am y diwydiant a denu gweithlu iau a mwy amrywiol.
Mae myfyrwyr yn y gr诺p 'Ysbrydoli Coedwigwyr y Dyfodol' yn bwriadu defnyddio鈥檙 cyfryngau cymdeithasol ac ymweld ag ysgolion i rannu eu straeon eu hunain.
"Mae unrhyw un sy'n clywed am goedwigaeth yn meddwl mai dynion mawr gyda llifiau cadwyn yn torri coed i lawr ydi o," medd y myfyriwr meistr Mercy Babatunji, gan gyfeirio at y ffaith bod yna gymaint o wahanol gyfleoedd gyrfa.
Dywedodd merch 25 oed o dalaith Ondo yn Nigeria ei bod yn gobeithio gweithio fel coedwigwr trefol ar 么l gorffen ei hastudiaethau, gan hyrwyddo a rheoli coed mewn trefi a dinasoedd.
"Rydyn ni i gyd yn gwybod am effeithiau difrifol newid hinsawdd," meddai.
"Mae angen mwy o bobl ar lywodraethau ledled y byd i astudio coedwigaeth a mynd i'r maes hwn."
Yn 么l Katie Somerville-Hall, 24 o Reading, roedd myfyrwyr wedi cael gwybod ar eu diwrnod agored bod "pawb yn cerdded i mewn i swydd wedyn".
"Mae'n sector sy'n tyfu gyda llawer mwy o swyddi nag sydd o bobl gyda'r arbenigedd i'w gwneud - sy'n fonws enfawr," meddai.
鈥淩wy鈥檔 hoff iawn o鈥檙 syniad o gael effaith gadarnhaol ar dirwedd ac amgylchedd dros gyfnod hir, gobeithio,鈥 ychwanegodd Beth Scott, 26 o Swydd Stirling.
Mae ganddi swydd eisoes wedi'i threfnu gyda chwmni coedwigaeth gartref yn Yr Alban unwaith y bydd ei thraethawd hir wedi'i gyflwyno ym mis Medi.
"Mae'r cwrs wedi dangos i mi pa mor amrywiol y gall y diwydiant fod - o goedwigaeth fasnachol, drwy agweddau mwy cymdeithasol coed a choetiroedd, i'r buddion amgylcheddol," meddai.
Roedd y myfyrwyr yn cydnabod eu bod wedi "syrthio" i mewn i goedwigaeth, ar 么l astudio cyrsiau eraill fel bioleg neu ecoleg ar lefel israddedig.
Roeddent yn teimlo bod "diffyg ymwybyddiaeth" yn gyffredinol am y pwnc fel opsiwn i bobl ifanc.
Cannoedd o swyddi gwag
Mae Bangor yn un o dair prifysgol yn unig ar draws y DU sy鈥檔 hyfforddi coedwigwyr i lefel gradd ar hyn o bryd, tra bod y ddarpariaeth mewn colegau addysg wedi ei disgrifio'n 鈥渁rgyfyngus鈥 yn 2021 mewn adroddiad gan sefydliadau coedwigaeth blaenllaw.
鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 rhagweld bod tua 500 o swyddi proffesiynol heb eu llenwi yn y DU ar hyn o bryd ac mae鈥檔 debyg y bydd 10,000 o swyddi cymorth pellach,鈥 esboniodd Dr Tim Pagella, sy鈥檔 rhedeg y rhaglen goedwigaeth israddedig ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r gweithlu'n heneiddio hefyd - erbyn 2030 disgwylir y bydd tua 20% o'r coedwigwyr presennol wedi ymddeol.
"Rwy'n credu ei fod yn argyfwng i ni. Pan fyddwn yn meddwl am newid hinsawdd mae coed yn un o'r pethau cyntaf rydyn ni'n siarad amdano, ac eto mae'r proffesiwn sy'n darparu coed i ni yn ei chael hi'n anodd recriwtio pobl."
Dywedodd fod sawl achos o fyfyrwyr yn mynd ar brofiad gwaith a ddim yn dod yn 么l.
"Maen nhw wedi mynd yn syth i mewn i swydd gyda char neis, cyflog da a choetir i鈥檞 redeg."
Ond mae'r sector yn dioddef problem delwedd sydd angen mynd i'r afael 芒 hi, meddai, gan annog mwy o drafodaeth am goedwigaeth - "disgyblaeth hynod eang" - yn y cwricwlwm ysgol.
Mae llywodraethau wedi ymrwymo i gyflymu鈥檙 broses o blannu coed er mwyn helpu i amsugno allyriadau carbon, gyda tharged y DU o greu 30,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn erbyn 2025.
I roi cyd-destun, mae un hectar tua'r un maint ag un cae rygbi.
Mae'n amhosib gwadu, medd Dr Pagella, bod y targedau hyn mewn perygl oherwydd prinder coedwigwyr proffesiynol yn dod drwy'r system.
Mae gan y sefydliad sy'n gofalu am iechyd a diogelwch mewn coedwigaeth bryderon hefyd am brinder gweithlu'r DU.
Yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos hon, mae Cytundeb Diogelwch y Diwydiant Coedwig (FISA) wedi lansio bwrsariaeth newydd i gefnogi myfyrwyr ar gyrsiau gradd coedwigaeth proffesiynol.
"Rydym angen pobl ifanc sy'n ddeinamig, wedi'u haddysgu ac yn ffocysedig i arwain y diwydiant coedwigaeth i鈥檙 dyfodol," esboniodd cyfarwyddwr FISA, Sean Reilly.
Honnodd nad oedd y diwydiant wedi cael ei ystyried yn ddewis gyrfa "proffesiynol" yn y DU yn y degawdau diwethaf a bod angen i hynny newid.
"Yn y rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd mae coedwigwr yn cael ei weld fel rhywun gyda lefel uchel o sgil a sy鈥檔 chwarae r么l ganolog o fewn cymuned neu amgylchedd leol," ychwanegodd.
"Pan fyddwch chi'n meddwl am ansawdd eich bywyd, y rhyngweithio 芒 natur a'r amgylchedd rydych chi'n gweithio ynddo - coedwigaeth yw un o'r gyrfaoedd gorau posib."
Ymateb y llywodraethau
Dywed Llywodraeth Cymru fod gan y sector coedwigaeth "r么l hollbwysig i'w chwarae yn nyfodol amgylcheddol ac economaidd Cymru".
Ychwanegodd llefarydd: 鈥淢ae鈥檙 gwaith rydyn ni鈥檔 ei wneud fel rhan o鈥檔 Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren i Gymru a鈥檔 Cynllun Sgiliau Sero Net yn archwilio sut gallwn ni sicrhau bod gennym ni鈥檙 sgiliau cywir a鈥檙 hyfforddiant cywir ar gyfer y dyfodol鈥
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn gwario 拢4.9m ar brosiectau i gefnogi addysg a sgiliau coedwigaeth o dan y Gronfa Natur ar gyfer yr Hinsawdd.
Mae hyn yn cynnwys "Rhaglen Prentisiaeth Coedwigwr Proffesiynol newydd ym Mhrifysgol Cumbria, y brentisiaeth coedwigaeth lefel gradd gyntaf sydd wedi'i chynnig yn y DU".