Achos cyfreithiol yn erbyn safle tirlenwi dadleuol yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmni sy'n berchen ar safle tirlenwi dadleuol ger Hwlffordd.
Mae'r broses yn parhau er nad yw'r awdurdod lleol wedi derbyn unrhyw gwynion am arogl gwael gan drigolion yn ystod y tri mis diwethaf.
Mae Cyngor Sir Benfro yn dwyn achos o "niwsans cyhoeddus" yn erbyn RML sy'n gweithredu safle tirlenwi Withyhedge.
Bydd gwrandawiad undydd yn cael ei gynnal yn Llys Sifil Abertawe ddydd Llun 21 Hydref fel y gellir ystyried y dadleuon cyfreithiol.
Rhoddwyd diweddariad i'r cyngor llawn ddydd Iau gan yr aelod cabinet, Rhys Sinnett.
Dywedodd eu bod yn parhau i fonitro ansawdd yr aer ger y safle a'i bod hi鈥檔 "dda i weld bod lefelau anfodlonrwydd arogleuon drwg yn parhau i ostwng."
Clywodd y cyfarfod nad yw'r safle wedi derbyn gwastraff newydd ers sawl mis.
Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Richard Brown, fod "miloedd ar filoedd" o dunelli o glai a phridd wedi cael eu cludo i'r safle tirlenwi i helpu gyda鈥檙 broses o orchuddio.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Will Bramble, nad oedd cynlluniau ar hyn o bryd i geisio hawlio costau gan y cwmni, ond y gallai'r sefyllfa honno newid yn amodol ar gamau cyfreithiol.
Ychwanegodd Mr Bramble ei bod yn bwysig parhau gyda'r broses o fonitro ansawdd yr aer er mwyn rhoi "sicrwydd" i gymunedau a鈥檙 cyngor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
- Cyhoeddwyd26 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Ebrill