Menyw fu farw 'gydag anafiadau i'w gwddf' - cwest
- Cyhoeddwyd
Roedd menyw a gafodd ei darganfod yn farw mewn t欧 yng Nghaerdydd wedi dioddef anafiadau i'w gwddf, mae agoriad cwest wedi clywed.
Cafodd Victoria Thomas, 45, ei darganfod yn farw mewn t欧 ar Heol Caerffili yn oriau m芒n y bore ar 20 Awst.
Mae Alcwyn Thomas, 44, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fis diwethaf wedi鈥檌 gyhuddo o lofruddio Ms Thomas.
Dywedodd swyddog y crwner wrth y gwrandawiad cyn-gwest ym Mhontypridd ddydd Mawrth fod swyddogion wedi derbyn adroddiad tua 00:30 y bore fod rhywun wedi ymosod ar fenyw.
Fe wnaeth parafeddygon drin Ms Thomas, ac roedd yn ymddangos bod ganddi "anafiadau i'w gwddf".
'Marwolaeth annaturiol'
Yn y cyfamser, daeth yr heddlu o hyd i bartner Ms Thomas i fyny'r grisiau yn y t欧.
Cofnodwyd achos marwolaeth dros dro fel "pwysau i'w gwddf", yn dilyn archwiliad post-mortem ar 21 Awst.
Cafodd Ms Thomas ei disgrifio gan ei theulu fel "merch, mam, chwaer, modryb, nith a ffrind annwyl iawn".
Gan ohirio'r cwest llawn, dywedodd y crwner cynorthwyol Rachel Knight: "Yn seiliedig ar y dystiolaeth rwy'n fodlon agor cwest, gan fod gen i reswm i amau bod ei marwolaeth yn annaturiol".
Bydd dyddiad y cwest llawn yn cael ei osod ar 么l "ymchwiliad troseddol pellach".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd20 Awst