Trigolion eisiau troi capel yn ganolfan dreftadaeth
- Cyhoeddwyd
Dros y blynyddoedd mae sawl cymuned wedi dod at ei gilydd i brynu tafarn neu siop i鈥檞 droi yn ganolfan cymunedol.
Gobaith pobl leol yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, yw prynu Capel Bethlehem a鈥檌 droi yn ganolfan dreftadaeth a diwylliant i鈥檙 ardal.
Dros yr wythnos ddiwethaf mae鈥檙 ymgyrch wedi codi dros 拢50,000 trwy fenthycwyr preifat ac yn gobeithio codi mwy cyn i鈥檙 adeilad fynd i arwerthiant ymhen ychydig ddyddiau.
Yn 么l pobl leol mae鈥檙 adeilad yn 鈥渓e perffaith鈥 i nodi hanes yr ardal.
Mae'r adeilad o'r 19eg ganrif - sydd wedi ei restru gan Cadw - nawr ar werth, a bwriad cymuned Trefdraeth yw ei brynu a鈥檌 droi'n ganolfan dreftadaeth.
Pe bai'r ymgais i brynu鈥檙 adeilad yn llwyddiannus, bydd cyfle i bobl leol prynu cyfranddaliadau.
Roedd Jean Young, 80, yn aelod o Gapel Bethlehem am bron i 70 mlynedd.
鈥淩wy鈥檔 meddwl y byddai Bethlehem yn lle perffaith ar gyfer treftadaeth Tudraeth. Mae mor bwysig i ni gael lle ar gyfer ein hanes," meddai.
Jean oedd organydd olaf y capel.
鈥淔e wnes i chwarae鈥檙 organ yno am flynyddoedd. Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae.鈥
'Haeddu cartref parhaol i鈥檞 hanes'
Mae John Harries, 75, yn dod o Drefdraeth ac yn rhan o'r ymgyrch i achub y capel.
鈥淢ae Trefdraeth yn haeddu cael cartref parhaol i鈥檞 hanes," meddai.
Mae鈥檔 bryderus am ddyfodol yr adeilad os nad yw鈥檔 mynd i ddwylo鈥檙 gymuned, ac mae'n credu y dylid gwerthu'r capel i bobl leol yn hytrach na'r person sy'n talu fwyaf mewn arwerthiant.
Mae鈥檔 disgrifio gwerthu鈥檙 adeilad fel 鈥渄iwedd cymuned鈥.
鈥淩ydym wedi ceisio prynu鈥檙 capel i鈥檙 gymuned fel bod treftadaeth a diwylliant Trefdraeth yn cael eu cadw鈥檔 barhaol.
"Mae鈥檙 gymuned frodorol yn ei haeddu, a bydd o ddiddordeb i ymwelwyr.鈥
Ychwanegodd: 鈥淢ae鈥檔 hanfodol bod yna le i bobl fynd i edrych ar y cysylltiadau sydd ganddyn nhw gyda鈥檜 teuluoedd.
"Mae gan Drefdraeth hanes morwrol enfawr a hanes amaethyddol.鈥
Mae ymgyrchwyr yn chwilio am unrhyw roddion munud olaf cyn i鈥檙 adeilad fynd i arwerthiant nos Wener yma.
Y gobaith yw codi 拢100,000 erbyn diwedd yr wythnos.
Mae elusen PLANED wedi bod yn gweithio gyda鈥檙 gymuned ar y prosiect.
Mae鈥檙 elusen wedi cynorthwyo gyda sawl prosiect cymunedol i brynu adeiladau yn yr ardal.
'Da gweld'
Cris Tomos yw cynorthwyydd cyllid a chronfa ddata'r elusen.
Meddai: 鈥淢ae鈥檔 dda i weld criw o bobl yn Nhrefdraeth yn bwrw ati i gael yr hen gapel fel adnodd cymunedol.
鈥淢ewn nifer o gymunedau yng ngorllewin Cymru mae capeli ac eglwysi yn cau ond mae angen edrych ar sut mae modd defnyddio鈥檙 adeiladau er bydd y gymuned.鈥
Mae Mr Tomos yn obeithiol bydd y gymuned yn cyrraedd y nod o godi 拢100,000.
鈥淣i鈥檔 aros i glywed n么l wrth unigolion a鈥檜 magwyd yn yr ardal sydd wedi mynd ymlaen yn eu gyrfaoedd llwyddiannus, a gobeithio clywed a fydd modd cael benthyciadau pontio - sef arian benthyg i brynu鈥檙 adeilad ac wedyn cynnig cyfranddaliadau i bobl leol.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd29 Chwefror