Sgwrs, cynhesrwydd a chawl am ddim

Mae cyfnod y gaeaf wedi'r Dolig yn gallu bod yn ddigon llwm, yn enwedig efo costau byw yn brathu...

Yr ateb i rai yng Nghaernarfon oedd cyfarfod am sgwrs dros gawl - a hynny am ddim - yng Nghapel Caersalem.

Ers dwy flynedd mae rhai o'r aelodau wedi bod yn trefnu Cawl a Chwmni bob dydd Iau, rhwng 11-2. Y syniad ydi cynnig gofod cynnes, cwmni a chymorth wrth i gostau byw gynyddu ac mae'n agored i unrhywun.

Wedi saib byr dros yr 诺yl, roedd y drysau wedi ail-agor erbyn dydd Iau cyntaf 2024, fel mae'r lluniau yma yn dangos.

Disgrifiad o'r llun, Bore Iau, a'r trefnydd Maggie Hughes yn gosod un o'r arwyddion ar Stryd Garnon, Caernarfon, lleoliad Capel Caersalem. Er mai aelodau'r capel sy'n cynnal y digwyddiad a nifer o'u cyd-aelodau sy'n dod am gawl a sgwrs, mae'r gwahoddiad yn agored i unrhywun
Disgrifiad o'r llun, Cyn y Nadolig daeth tri pherson heb unrhyw gysylltiad 芒'r capel am gawl ond anaml mae hynny'n digwydd meddai Maggie Hughes: 鈥淒wi鈥檔 si诺r bod lot o bobl efo anghenion ond mae鈥檔 her i bobl i ddod i gapel os ydi nhw heb arfer efo hynny, mae鈥檔 haws os ydi nhw鈥檔 adnabod pobl sy鈥檔 dod yma.鈥
Disgrifiad o'r llun, Mae'n 11am, a'r drws ar agor wrth i Sylvia Prys Jones ddechrau paratoi'r llysiau ar gyfer y cawl yn y gegin sy'n rhan o'r capel
Disgrifiad o'r llun, ... ac i'r crochan, ac Ann Griffith a Maggie Hughes yn cadw golwg. Meddai Maggie: "Roedden ni鈥檔 meddwl fel capel sut allwn ni ymateb i鈥檙 argyfwng costau byw, beth allwn ni wneud efo beth sydd ganddon ni? Mae ganddon ni adeilad a chegin a phobl wnaiff ddod i helpu felly wnaethon ni agor y capel i bobl ddod i gael cawl a sgwrs."
Disgrifiad o'r llun, Ann Griffith, Sylvia Prys Jones a Maggie Hughes. Meddai Maggie: 鈥'Da ni鈥檔 trio gwneud cawl gwahanol bob tro 鈥 a gwneud digon i tua 25-30. Fel arfer mae ganddo ni beth dros ben a 'da ni鈥檔 rhoi o i bobl ryda ni鈥檔 gwybod sydd ddim eisiau dod yma, neu ddim yn gallu dod, ond fyddai'n gwerthfawrogi cawl 鈥 does dim yn mynd yn wastraff."
Disgrifiad o'r llun, Cyn bod y cawl yn barod mae 'na baned ar gael - a Maggie Hughes yn paratoi'r coffi yn y capel
Disgrifiad o'r llun, Mae Lydia, wyres Ann, yn helpu heddiw. Meddai Ann: 鈥淢ae'r bobl ifanc yn dod 芒 lot o fywyd yma. Maen nhw eisiau helpu a bod yn rhan o bob dim ac mae鈥檔 rhoi鈥檙 cyfle iddyn nhw gael bod yn garedig. Mae'n rhoi鈥檙 cyfle iddyn nhw gymdeithasu, cross-generational fel maen nhw鈥檔 ddweud.鈥
Disgrifiad o'r llun, ... a Gwenno Hughes o Rostryfan, a Glenys Ellis o Bontnewydd, yn elwa. Meddai Gwenno: 鈥淒wi鈥檔 dod bob wythnos ac yn trio cefnogi 鈥 y syniad ydi bod o鈥檔 le i bobl i gyfarfod, a bod pobl unig yn gallu dod yma hefyd. Mae鈥檔 le neis i ddod a siarad, a gweld ein gilydd.鈥
Disgrifiad o'r llun, Mae Roberta Parry yn un o ffrindiau Gwenno. Meddai: 鈥淢ae 'na rai sy'n dod yma yn byw ar ben eu hunain ac mae'n le i ddod am sgwrs. Dwi鈥檔 mynd i gapel arall 鈥 a dwi ddim yn hogan Dre chwaith 鈥 o Ynys M么n ydw i. Weithiau mae pobl yn son am bobl Caernarfon ac yn meddwl mod i鈥檔 adnabod y bobl maen nhw'n s么n amdanyn nhw!鈥
Disgrifiad o'r llun, Un o'r rhesymau dros sefydlu鈥檙 fenter oedd cynnig lle cynnes i bobl gyfarfod wrth i gostau byw godi - yn cynnwys pris tanwydd
Disgrifiad o'r llun, A hithau'n wyliau Dolig roedd sawl aelod ifanc o'r capel yno ddechrau Ionawr. Yn 么l un o'r gwirfoddolwyr Sylvia Prys Jones: 鈥淢ae鈥檔 gwneud iddyn nhw sylweddoli pan maen nhw鈥檔 ifanc bod 'na bobl llai ffodus na nhw.鈥
Disgrifiad o'r llun, Michael Owen a Manon Williams, sy'n aelodau o'r capel
Disgrifiad o'r llun, Gyda phawb wedi cael eu bwydo, does ond un peth arall i'w wneud tan y dydd Iau canlynol...