成人快手

'Siom' lleihau nifer y gwelyau yn ward blant Bronglais

Jamie a Rhydian Fitter a'u mab bach Celyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jamie a Rhydian Fitter a'u mab bach Celyn wedi treulio sawl cyfnod yn yr ysbyty ers ei eni yn Hydref 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd llai o welyau ar ward blant Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth dros dro.

Mewn cyfarfod ddydd Iau, fe gyhoeddodd penaethiaid y byddai nifer y gwelyau yn gostwng o naw i bump am gyfnod o chwe mis o 1 Tachwedd.

Roedd rhywfaint o ansicrwydd yngl欧n 芒 dyfodol y ward yn sgil prinder nyrsys.

Bydd y gwasanaeth yn parhau i fod yn 24 awr, ac fe fydd mwyafrif y plant sydd angen gofal am hyd at 36 awr yn dal i gael eu trin yn Ysbyty Bronglais.

Dim ond plant sy'n ddifrifol wael fydd yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd y newidiadau yn dod i rym ym mis Tachwedd

Mae Celyn, mab Jamie a Rhydian Fitter, bron yn flwydd ac wedi treulio rhan helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf mewn ysbytai.

Dywed ei rieni fod pob ysbyty wedi bod yn wych ond bod Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais yn hollbwysig iddyn nhw, a bod y newyddion yn "siom".

"Mae'r doctoriaid a'r nyrsys fan hyn yn 'nabod Celyn," medd Rhydian Fitter.

"Maen nhw'n gwybod sut mae e'n ymdopi gyda gwahanol bethau ac mae e ond bum munud i ffwrdd.

"Maen nhw wedi achub ei fywyd fwy nag unwaith."

'Angen recriwtio mwy o nyrsys'

Ychwanegodd ei wraig Jamie bod y newyddion gan y bwrdd yn well na'r disgwyl ond bod yn rhaid i benaethiaid sylweddoli bod teithio yn bell i'r ysbyty yn golygu bod i ffwrdd am gyfnod oddi wrth y teulu - gan gynnwys eu merch Mabli sy'n bump oed.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi cael amser hir i ddelio 芒 hyn. Dyw'r broblem yma ddim yn newydd," ychwanegodd Rhydian Fitter.

"Mae angen i'r bwrdd wneud mwy o ran recriwtio nyrsys.

"Er mwyn rhedeg gwasanaeth iechyd gwledig mae angen i'r bwrdd ystyried sut mae denu'r nyrsys 'ma yn fuan cyn bod y broblem yn mynd yn rhy bell a bod dim opsiwn arall ond cau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Tomi, mab Meleri Raftree, yn cael triniaeth yn Ward Angharad ym Medi 2023

Yn 么l Meleri Raftree o Lanilar, fe fyddai cau'r ward ym Mronglais yn gyfan gwbl wedi bod yn "gwbl drychinebus".

"Ward Angharad wnaeth achub fy mhlentyn bach i adeg yma y llynedd," meddai.

"Fe gafodd Tomi bach, oedd yn ddwy a hanner ar y pryd, haint ar ei glust ac yna seizure ac fe fuodd e yn y ward blant ym Mronglais am dros wythnos gan gael gofal arbennig.

"I ddweud y gwir fe wnaethon nhw achub ei fywyd - ac ugain mlynedd a mwy yn 么l fe wnaeth y staff yno achub fy mywyd i wedi i fi gwympo oddi ar wal.

"Fe fues i fewn yna am dros dair wythnos ac roedd hi'n braf gweld rhai o'r un staff yn nyrsio Tomi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd trafferth recriwtio nyrsys ymhlith y ffactorau wrth wraidd y cynnig i gau ward plant Ysbyty Bronglais dros dro

Ddydd Iau roedd penaethiaid Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried dyfodol nifer o wasanaethau iechyd - yn eu plith Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais, Ysbyty Tregaron ac uned m芒n anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Yn sgil methiant i recriwtio nyrsys, a'r ffaith bod dwy nyrs ar fin mynd ar gyfnod mamolaeth, roedd y bwrdd wedi cyflwyno nifer o argymhellion.

Fe ddaeth cadarnhad y bydd Ward Angharad yn cadw pum gwely ar gyfer triniaethau brys.

Clywodd y cyfarfod os bydd modd recriwtio mwy o staff yn y cyfamser bydd yr uned yn ailagor cyn gynted 芒 phosib.

'Dim effaith ar ofal brys plant'

Yn 么l Lisa Humphrey, o'r bwrdd iechyd, gallai parhau gyda鈥檙 system bresennol fod wedi arwain at gau鈥檙 uned yn ddirybudd.

Dywedodd wrth y cyfarfod fod yna risg wrth wneud hyn 鈥渙 ystyried y pellter rhwng Bronglais a Glangwili鈥.

Ychwanegodd fod yna 鈥減eth oleuni鈥 wrth iddyn nhw barhau i geisio recriwtio mwy o staff.

Clywodd y cyfarfod bod y newid ddim yn effeithio ar ofal brys plant yn Ysbyty Bronglais.

Wrth gloi鈥檙 cyfarfod fe ddywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Neil Wooding, fod y bwrdd wedi gorfod delio 鈥溍 thair achos heriol, i gyd yn ymwneud 芒 heriau diogelwch鈥.

Ychwanegodd fod 鈥減enderfyniadau heddiw wedi bod yn rhai adweithiol, ond mae angen bod yn strategol鈥 yn y dyfodol.

Gohebu ychwanegol gan Sara Dafydd a Craig Duggan