Y Cymry yn serennu yng ngwobrau CFfI Prydain

Ffynhonnell y llun, Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon

Cafodd seremoni wobrwyo Gwobrau Cymunedol Prydeinig Clybiau'r Ffermwyr Ifanc ei chynnal yn Birmingham nos Sadwrn.

Wedi sawl rownd flaenorol, roedd sawl un o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer gan wneud eu ffordd i Birmingham.

Ymhlith y 500 o bobl a oedd yn y digwyddiad, fe ddaeth dau o Gymru i'r brig ac un yn ail yn y gwobrau.

A thra bod y gwobrau yn cael eu cynnal, roedd Eisteddfod CFfi Cymru yn digwydd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

Fe gipiodd Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon, Ceredigion, wobr Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc ar gyfer 2024.

Fe deithiodd 20 o aelodau o'r clwb i'r noson wobrwyo.

Mewn neges ar y dudalen cyfryngau cymdeithasol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc, fe ddaeth y clwb i'r brig am fod y beirniaid "wedi caru sut oedd y clwb yn helpu i gadw'r Gymraeg yn fyw drwy weithgareddau dwyieithog sy'n dod 芒 phobl ynghyd.

Ychwanegodd y neges fod y criw yma yn "allweddol" yn y broses o achub eu neuadd bentref.

"Mae eu gweithredoedd nid yn unig o fudd i'r clwb, ond hefyd o fudd i'r gymuned".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Clwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled yn y seremoni wobrwyo yn Birmingham

Fe ddaeth Ceridwen Edwards o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, Clwyd, i'r brig yng ngwobr 'Calon CFFi'.

Fe dderbyniodd Ceridwen dros 2,000 o bleidleisiau gan aelodau ffermwyr ifanc i gipio'r wobr.

Dywedodd neges ar gyfryngau cymdeithasol y mudiad fod y beirniaid "wedi caru egni Ceridwen a pha mor falch yw hi o fod yn aelod o'i chlwb".

"Roedd y beirniaid yn falch o ymgais Ceridwen i fod yn gynhwysol a sut yr oedd yn gwneud newidiadau positif."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, "Mae Uwchaled yn mynd o nerth i nerth a ma'n fraint bod yn rhan o glwb mor arbennig," meddai Ceridwen Edwards

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Ceridwen: "Dwi dal methu coelio'r peth i ddeud y gwir, ges i gymaint o sioc.

"Oedd o'r fraint fwyaf just i gal fy enwebu a bod yn y pump ucha', a wedyn cael fy enw ei ddarllen yn Birmingham wedyn yn y noson wobrwyo - waw, allai'm rhoi o fewn i eiriau, o'n i'n teimlo mor freintiedig a dwi mor ddiolchgar bod fi 'di cael y fraint yna.

"Mae Uwchaled yn mynd o nerth i nerth a ma'n fraint bod yn rhan o glwb mor arbennig.

"Fysa bob clwb yng Nghymru wedi gallu dod adra efo gwobr achos 'da ni gyd yn 'neud gwaith anhygoel yn ein pentrefi, yn cadw diwylliant a traddodiadau Cymreig i fynd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Ceridwen yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled

Fe ddaeth Leah Bevan o Forgannwg yn ail yn y wobr am Arweinydd Ysbrydoledig Cefn Gwlad.

Mae 5,500 o aelodau gan CFfi Cymru - a hynny'n cynnwys pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed.

Yr amcan yw bod dros 1.1 miliwn o oriau gwaith gwirfoddol yn cael eu cyflawni'n flynyddol gan aelodau.

Roedd y noson wobrwyo yn digwydd yr un pryd ag Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc, a oedd yn cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.