Y Cymry yn serennu yng ngwobrau CFfI Prydain
- Cyhoeddwyd
Cafodd seremoni wobrwyo Gwobrau Cymunedol Prydeinig Clybiau'r Ffermwyr Ifanc ei chynnal yn Birmingham nos Sadwrn.
Wedi sawl rownd flaenorol, roedd sawl un o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer gan wneud eu ffordd i Birmingham.
Ymhlith y 500 o bobl a oedd yn y digwyddiad, fe ddaeth dau o Gymru i'r brig ac un yn ail yn y gwobrau.
A thra bod y gwobrau yn cael eu cynnal, roedd Eisteddfod CFfi Cymru yn digwydd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.
- Cyhoeddwyd31 Hydref
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
Fe gipiodd Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon, Ceredigion, wobr Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc ar gyfer 2024.
Fe deithiodd 20 o aelodau o'r clwb i'r noson wobrwyo.
Mewn neges ar y dudalen cyfryngau cymdeithasol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc, fe ddaeth y clwb i'r brig am fod y beirniaid "wedi caru sut oedd y clwb yn helpu i gadw'r Gymraeg yn fyw drwy weithgareddau dwyieithog sy'n dod 芒 phobl ynghyd.
Ychwanegodd y neges fod y criw yma yn "allweddol" yn y broses o achub eu neuadd bentref.
"Mae eu gweithredoedd nid yn unig o fudd i'r clwb, ond hefyd o fudd i'r gymuned".
Fe ddaeth Ceridwen Edwards o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, Clwyd, i'r brig yng ngwobr 'Calon CFFi'.
Fe dderbyniodd Ceridwen dros 2,000 o bleidleisiau gan aelodau ffermwyr ifanc i gipio'r wobr.
Dywedodd neges ar gyfryngau cymdeithasol y mudiad fod y beirniaid "wedi caru egni Ceridwen a pha mor falch yw hi o fod yn aelod o'i chlwb".
"Roedd y beirniaid yn falch o ymgais Ceridwen i fod yn gynhwysol a sut yr oedd yn gwneud newidiadau positif."
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Ceridwen: "Dwi dal methu coelio'r peth i ddeud y gwir, ges i gymaint o sioc.
"Oedd o'r fraint fwyaf just i gal fy enwebu a bod yn y pump ucha', a wedyn cael fy enw ei ddarllen yn Birmingham wedyn yn y noson wobrwyo - waw, allai'm rhoi o fewn i eiriau, o'n i'n teimlo mor freintiedig a dwi mor ddiolchgar bod fi 'di cael y fraint yna.
"Mae Uwchaled yn mynd o nerth i nerth a ma'n fraint bod yn rhan o glwb mor arbennig.
"Fysa bob clwb yng Nghymru wedi gallu dod adra efo gwobr achos 'da ni gyd yn 'neud gwaith anhygoel yn ein pentrefi, yn cadw diwylliant a traddodiadau Cymreig i fynd."
Fe ddaeth Leah Bevan o Forgannwg yn ail yn y wobr am Arweinydd Ysbrydoledig Cefn Gwlad.
Mae 5,500 o aelodau gan CFfi Cymru - a hynny'n cynnwys pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed.
Yr amcan yw bod dros 1.1 miliwn o oriau gwaith gwirfoddol yn cael eu cyflawni'n flynyddol gan aelodau.
Roedd y noson wobrwyo yn digwydd yr un pryd ag Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc, a oedd yn cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref